Fy Nyfodol
Byw’n annibynnol
Sgiliau byw dyddiol
Os ydych eisiau byw yn eich cartref eich hun bydd rhaid i chi feddwl am sut i ofalu amdanoch chi’ch hun. Dyma rai o’r pethau bydd rhaid i chi feddwl amdanyn nhw:
Gofal personol – mae hyn yn cynnwys:
- Golchi’ch hun a gwisgo
- Golchi’ch gwallt
- Brwsio’ch dannedd
Siopa – mae hyn yn cynnwys:
- Mynd i’r siopau
- Dewis bwyd
- Talu am bethau
Gwaith tŷ – mae hyn yn cynnwys:
- Coginio
- Glanhau
- Golchi a smwddio dillad
Trin arian – mae hyn yn cynnwys:
- Arian ar gyfer siopa
- Arian ar gyfer biliau
- Arian ar gyfer mynd allan
- Arbed arian