Fy Nyfodol
Help wrth gael swydd
CV
Mae CV yn rhoi manylion amdanoch chi. Gallai hyn gynnwys:
Manylion sylfaenol
- Enw
- Cyfeiriad a rhif ffôn
- Nodweddion personol (sut berson ydych chi)
- Sgiliau sydd gennych chi (beth rydych yn ei wneud yn dda)
- Cyraeddiadau (beth rydych wedi’i wneud)
Unrhyw brofiad gwaith rydych wedi’i gael
Canolwyr – dyma’r bobl sy’n eich adnabod yn dda. Byddan nhw’n ysgrifennu am sut berson rydych chi. (Gwelwch y dudalen Geirdaon i gael gwybod mwy)