Fy Nyfodol
Help wrth gael swydd
Hawliau yn y gwaith
Hawliau yn y gwaith
Gwyliau
Mae hawl gan y rhan fwyaf o weithwyr i gael o leiaf 4 wythnos o wyliau â thâl bob blwyddyn.
Os ydych yn gweithio 5 diwrnod yr wythnos, yna bydd tâl gwyliau wythnosol yn golygu 5 diwrnod o dâl.
Os ydych yn gweithio 2 ddiwrnod yr wythnos, bydd tâl gwyliau wythnosol yn golygu 2 ddiwrnod o dâl.
Mewn rhai achosion gall cyflogwr ddweud wrthych chi pryd i gymryd y gwyliau hyn.
E.e. bydd rhai cwmnïau’n cau dros y Nadolig fel bod rhaid i bobl gymryd gwyliau
Mewn rhai achosion bydd eich cyflogwr yn cynnwys Gwyliau’r Banc yn eich 4 wythnos o dâl gwyliau.
Bydd cwmnïau eraill yn rhoi 4 wythnos a Gwyliau’r Banc hefyd.
Os ydych yn gwneud cais am swydd rhaid i chi fod yn glir am faint o wyliau â thâl gewch chi, a phryd y gallwch eu cymryd nhw.