Eich hawliau a chyfrifoldebau
Daeth Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996 â’r holl ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â hawliau unigol gweithwyr ynghyd o dan un brif ddeddf. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’ch hawliau, dyma’r ddeddfwriaeth - gyda’i diwygiadau dilynol - lle dewch o hyd i’r ateb mwy na thebyg. Mae’r Ddeddf yn cynnwys cyfeiriad at hawliau cyflogaeth o ran:
- Gwahaniaethu
- Hil ac Ethnigrwydd
- Rhyw a Thueddfryd Rhywiol
- Anabledd
- Crefydd
- Oed
Eich hawliau yn y gwaith
Mae gan wefan Gov.uk ystod o wybodaeth am hawliau cyflogaeth (cliciwch ar ‘cyflogaeth’): www.gov.uk
Advisory, Conciliation and Arbitration Service (Acas) – Brandon House, 180 Borough High Street, London SE1 1LW. Llinell gymorth: 08457 47 47 47. Ffôn testun: 08456 06 16 00. Gall ddarparu cyngor ynghylch materion sy’n ymwneud â hawliau gweithwyr yn y gweithle. Mae gan wefan Acas lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â’ch hawliau:
www.acas.org.uk
Mae gwefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol- www.equalityhumanrights.com - yn gallu darparu gwybodaeth ynghylch eich hawl i gael eich trin yn gyfartal, a'r hyn a wnawn am wahaniaethu ar sail anabledd, oed, rhyw, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu hil.
Chwiliad Gyrfa
Defnyddiwch y Chwiliad Gyrfa i gael gwybod mwy am swydd. Yn cynnwys cyflogau, ble mae’r swyddi, cyfleoedd a llawer mwy.
Oes angen syniadau arnoch? Help i ddechrau arni