Beth i'w ddisgwyl
Beth ddylwn i ei wneud ar fy niwrnod cyntaf mewn swydd newydd?
Rydych wedi mynd i lawer o ymdrech i gael y swydd – felly gwnewch y gorau ohoni a cheisio setlo i mewn i’ch gweithle newydd. Gall eich diwrnod cyntaf mewn swydd newydd godi ofn arnoch ond cynbelled â’ch bod yn cofio pam mae’r cwmni wedi’ch cyflogi yn y lle cyntaf, does dim rhaid i chi boeni.
Dyma bwt o gyngor ar beth i’w wneud ar eich diwrnod cyntaf:
- Gwiriwch y ffordd i’ch gweithle yr wythnos gynt. Cynlluniwch y daith a gadael 30 munud yn gynharach rhag ofn.
- Bwytewch frecwast da i sicrhau nad ydych yn llwgu erbyn 11 o’r gloch.
- Gwnewch argraff gyntaf dda drwy gyrraedd yn eich gweithle yn gynnar.
- Gwisgwch yn briodol ac yn gyfforddus.
- Dewch â llyfr a gwnewch nodiadau – enwau pobl, manylion mewngofnodi, eich rhif estyniad, cyfrinair e-bost ac ati – fel bod dim angen gofyn mwy nag unwaith.
- Cofiwch ysgwyd llaw yn gadarn pan gewch eich cyflwyno i gydweithwyr, gwenwch a gwnewch ymdrech i gofio eu henwau.
- Gwnewch eich gwaith cartref – ceisiwch gael gwybod gyda phwy fyddwch yn gweithio a beth maen nhw’n ei wneud.
- Cadwch yn brysur. Efallai bydd y diwrnod cyntaf yn mynd yn araf iawn gan nad oes trefn waith gennych eto, ac efallai byddwch yn aros i bobl roi gwaith a/neu hyfforddiant i chi. Cadwch yn brysur yn ystod y cyfnodau hyn drwy astudio systemau’ch cwmni newydd.
- Diffoddwch eich ffôn symudol! Peidiwch â gwneud galwadau personol. Os oes mynediad i’r rhyngrwyd gennych, defnyddiwch hynny i edrych ar wefan y cwmni ei hun.
- Gwyliwch, gwrandewch a dysgwch! Os yw pawb o’ch cwmpas yn brysur, a does dim byd gennych i’w wneud, gwyliwch, gwrandewch a dysgwch! Byddai’n syndod faint o wybodaeth gallech ei gael drwy wneud hynny.
- Byddwch yn hyderus yn eich gallu eich hun. Os ydych yn nerfus, cadwch i atgoffa’ch hun mai hwn yw’ch diwrnod cyntaf.
Oes unrhyw beth na ddylwn i ei wneud?
- Byddwch yn ofalus beth rydych yn ei ddweud amdanoch chi’ch hun ar y diwrnod cyntaf. Byddwch yn gwneud ffrindiau ond mae’n syniad da aros am sbel cyn dweud hanes eich bywyd wrth bobl.
- Efallai bydd cydweithwyr yn dweud llawer wrthych (pethau da a phethau drwg) am y cwmni. Cymerwch amser i benderfynu i chi’ch hun.
- Peidiwch byth â chlebran am eich hen gwmni. Mae’n fyd bach a fyddwch byth yn gwybod pryd bydd angen geirda neu help arnoch gan hen gydweithiwr.
Chwiliad Gyrfa
Defnyddiwch y Chwiliad Gyrfa i gael gwybod mwy am swydd. Yn cynnwys cyflogau, ble mae’r swyddi, cyfleoedd a llawer mwy.
Oes angen syniadau arnoch? Help i ddechrau arni