Hyfforddeiaeth

Beth yw Hyfforddeiaeth?

TraineeshipMae Hyfforddeiaethau ar gyfer pobl ifanc 16 i 17 oed yng Nghymru; ond os ydych yn 18 oed ac wedi gadael yr ysgol neu’r coleg gallwch wneud cais hefyd. Byddwch yn ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch i gael swydd neu symud ymlaen i ddysgu pellach ar lefel uwch fel Prentisiaeth neu Addysg Bellach.

Beth allwch ei wneud gyda fe?

Bydd Hyfforddeiaeth yn rhoi’r cymorth, sgiliau a chymwysterau sydd eu hangen arnoch i gael gwaith am dâl, Prentisiaeth neu fynd i ddysgu ar lefel uwch. Bydd y pethau a ddysgwch yn edrych yn dda i gyflogwyr hefyd.

Beth mae’n ei gynnwys?

Mae tair lefel wahanol i Hyfforddeiaethau i sicrhau cewch chi gymorth a chefnogaeth i ddatblygu: ‘Ymgysylltu’, ‘Lefel 1’ a ‘Lefel 2 – Pont at Waith’.

  • Ymgysylltu

    Ar gyfer pwy?
    Mae llawer o bobl yn dechrau yma. Mae hwn yn addas i chi os nad ydych yn gwybod beth i’w wneud o ran gyrfa neu os oes angen cymorth arnoch i gymryd rhan mewn cyflogaeth neu ddysgu arall.

    Beth fydd yn ei roi i mi?
    Bydd yn eich paratoi ar gyfer y byd gwaith neu ddysgu amser llawn.

    Beth wnaf i?
    Gallai gynnwys:

    • Lleoliadau gwaith
    • Prosiectau cymunedol, neu
    • Hyfforddi lle rydych yn dysgu i’ch helpu i baratoi.

    Faint byddai’n ennill?

    • Lwfans £30.00 yr wythnos (ar gyfer mynychu’n amser llawn)

     

    Hefyd cewch

    • Hawlio costau teithio sy’n fwy na £3.00 yr wythnos
    • Hawlio costau gofal plant a chostau cymorth eraill

     

    Faint o oriau bob wythnos?
    Rhwng 12 a 21 awr ar gyfer y 4 wythnos gyntaf, wedyn rhwng 21 a 30 awr. Caiff hyn ei gytuno gan eich cynghorydd gyrfa a’r darparwr hyfforddi pan fyddwch yn cwrdd â nhw.

    Oes diddordeb gennych?
    Gwelwch beth i’w wneud nesaf isod.

  • Lefel 1

    Ar gyfer pwy?
    Cewch ddechrau ar y lefel hon. Mae hwn yn addas i chi os ydych yn gwybod pa yrfa rydych ei heisiau neu’n gallu dechrau dysgu ar Lefel 1.


    Beth fydd yn ei roi i mi?
    Profiad gwaith a chymhwyster Lefel 1 yn y pwnc rydych wedi’i ddewis. Gallai’ch lleoliad gwaith droi’n swydd barhaol hefyd.


    Beth wnaf i?
    Gallai gynnwys:

    • Lleoliadau gwaith
    • Prosiectau cymunedol, neu
    • Hyfforddi yn y ganolfan hyfforddi
    • Ennill sgiliau a dysgu tuag at ennill cymhwyster Lefel 1

    Faint bydda i’n ennill?

    • Lwfans £50.00 yr wythnos (ar gyfer mynychu’n amser llawn)

    Hefyd cewch

    • Hawlio costau teithio sy’n fwy na £5.00 yr wythnos
    • Hawlio costau gofal plant a chostau cymorth eraill.

    Faint o oriau bob wythnos?
    Dim llai na 30 awr yr wythnos a dim mwy na 40 awr yr wythnos.


    Oes diddordeb gennych?
    Gwelwch beth i’w wneud nesaf isod.

  • Lefel 2 – Pont at Waith

    Ar gyfer pwy?
    Cewch ddechrau ar y lefel hon os ydych wedi gorffen Lefel 1 ac yn barod ar gyfer cyflogaeth amser llawn. Hefyd, rhaid bod swydd gennych neu gyflogwr sy’n fodlon rhoi swydd i chi.  


    Beth fydd yn ei roi i mi?
    Cymhwyster Lefel 2 yn y pwnc rydych wedi’i ddewis a enillwyd tra eich bod yn gweithio.


    Beth wnaf i?
    Gallai gynnwys:

    • Hyfforddiant gyda’ch darparwr ochr yn ochr â’ch cyflogwr
    • Ennill dysgu a sgiliau tuag at gyflawni cymhwyster Lefel 2.

    Faint bydda i’n ennill?

    • Isafswm o £50.00 yr wythnos

    Hefyd cewch

    • Hawlio costau teithio sy’n fwy na £5.00 yr wythnos
    • Hawlio costau gofal plant a chostau cymorth eraill.

    Faint o oriau bob wythnos?
    Fel y cytunwyd gyda’ch cyflogwr.


    Oes diddordeb gennych?
    Gwelwch beth i’w wneud nesaf isod.

Beth sydd angen i mi ei wneud nesaf?

  • Rhaid i chi weld cynghorydd Gyrfa Cymru.
  • Os ydych yn dal yn yr ysgol, siaradwch â’r cynghorydd Gyrfa Cymru yn eich ysgol. Byddan nhw’n eich helpu i benderfynu beth rydych eisiau ei wneud ar ôl i chi adael yr ysgol.
  • Os ydych wedi gadael yr ysgol, cysylltwch â Gyrfa Cymru i drefnu apwyntiad gyda chynghorydd. Byddan nhw’n siarad â chi am eich opsiynau a beth hoffech ei wneud. Byddan nhw’n gallu eich cyfeirio i raglen Hyfforddeiaeth.
  • Neu ffoniwch Gyswllt Gyrfa Cymru ar  0800 028 4844.  Mae llinellau ar agor rhwng 9am a 9pm o ddydd Llun i ddydd Gwener neu 9am i 12pm ddydd Sadwrn.

Rhannu'r dudalen hon

Dewiswch symbol:

Croeso i Gyrfa Cymru

Dewiswch iaith

Cymraeg

Welcome to Careers Wales

Please select your language

English