Beth yw Prentisiaeth?
Prentisiaeth yw swydd gyda hyfforddiant. Mae bod yn brentis yn golygu bod swydd gennych sy'n cynnwys ennill cymwysterau cydnabyddedig a sgiliau hanfodol tra byddwch yn ennill cyflog.
Mae tri math o Brentisiaeth:
- Prentisiaeth Sylfaen
- Prentisiaeth
- Prentisiaeth Uwch
Mae tri math gwahanol oherwydd bod swyddi gwahanol angen cymwysterau ar lefelau gwahanol, rhai yn uwch nag eraill. Pan edrychwch ar y cyfleoedd fe welwch y lefelau gwahanol a beth maen nhw'n cynnwys.
-
Am faint o amser maen nhw'n para?
Fel arfer, maen nhw'n para rhwng dwy a thair blynedd. Gall hynny ddibynnu ar y math o brentisiaeth a lefel y cymhwyster rydych yn gweithio tuag ato.
-
Beth bydda i'n dysgu?
Mae hynny'n dibynnu ar y swydd rydych yn hyfforddi ar ei gyfer. Mae 150 o lwybrau prentisiaeth gwahanol ar gael. Mae pob prentis yn dilyn rhaglen astudio sydd wedi'i chymeradwyo. Mae hynny'n golygu y byddwch yn ennill cymhwyster cydnabyddedig.
Erbyn diwedd eich prentisiaeth bydd gennych y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad sy'n matsio yn union beth mae'ch cyflogwr ei eisiau. Mae hefyd yn eich gwneud yn fwy cyflogadwy pan fyddwch eisiau neu angen symud ymlaen.
-
Ble byddwn i'n hyfforddi?
Bydd hyn yn dibynnu ar beth rydych yn ei wneud. Bydd eich cyflogwr yn penderfynu sut maen nhw am eich hyfforddi i wneud eu gwaith. Dyma rai o'r ffyrdd mae prentisiaid yn cael eu hyfforddi:
- Yn y swydd
- Yn y coleg a allai fod yn amser llawn neu'n rhan-amser
- Mewn canolfan hyfforddi lle byddwch yn mynd unwaith yr wythnos neu mewn blociau o ddyddiau neu wythnosau
Byddwch yn sicr yn cael hyfforddiant, ond eich cyflogwr newydd fydd yn penderfynu sut a pha mor aml, pryd a ble. Rhoddir y wybodaeth hon i chi pan ewch drwy'r cais neu dylech ofyn am fanylion yn eich cyfweliad.
-
Beth allwn i ei wneud?
Mae mwy na 150 o swyddi gwahanol. Yn y gorffennaf roedd prentisiaethau mewn crefftau fel adeiladu a pheirianneg ond nawr maen nhw ym mhob math o waith. Edrychwch ar y cyfleoedd. Mae llawer o opsiynau. Cewch edrych ar bob cyfle neu ffiltro’r canlyniadau yn ôl y math o waith neu’r ardal lle rydych yn byw.
Oes angen syniadau arnoch? Cliciwch yma
Ydych eisiau gwneud ymchwil? Chwiliwch am swydd neu gwrs yma
-
Beth sydd angen i mi ei wneud i gael Prentisiaeth?
Mae'n rhaid i chi fod yn 16 oed neu'n hŷn. Does dim terfyn oedran uchaf.
Mae'n rhaid i chi ymgeisio fel unrhyw swydd arall. Mae Prentisiaethau yn ffordd dda o gael gwaith a dysgu o'r dechrau, felly maen nhw'n gystadleuol iawn. Mae'n rhaid i chi baratoi cais da. Gallwn eich helpu gyda hynny. Edrychwch ar ein gwybodaeth ar geisiadau am swyddi yn yr adran Gyrfa+.
-
Ydw i'n cael fy nhalu?
Eich cyflogwr sy'n penderfynu, ond cofiwch na fyddwch yn gynhyrchiol iawn iddyn nhw tra byddwch yn dysgu, ac efallai byddwch yn treulio llawer o amser i ffwrdd o'r gweithle yn hyfforddi. Mae isafswm cyflog cenedlaethol ar gyfer prentisiaid. gov.uk- isafswm cyflog cenedlaethol
-
Sut mae dod o hyd i Brentisiaethau?
Cliciwch y ddolen hon i chwilio am Brentisiaethau. Dyma’r Gwasanaeth Paru Prentisiaid. Cofrestrwch nawr i sicrhau nad ydych yn colli unrhyw gyfleoedd. Cewch edrych ar y cyfleoedd i gyd neu rai yn eich ardal chi yn unig, neu’r math o swyddi mae gennych ddiddordeb ynddyn nhw.
Bydd llawer o brentisiaethau yn cael eu hysbysebu ar y wefan hon, ond fydd rhai ddim yn ymddangos yma ac efallai byddwch chi’n darbwyllo cyflogwr i roi prentisiaeth i chi.
Ffoniwch 0800 028 4844 am help a chyngor.
Cewch fwy o wybodaeth am chwilio am swydd yma
Beth fydd yn gweddu orau i chi? Cysylltwch â Gyrfa Cymru.
-
Sut mae gwneud cais?
Mae dau ddull gwahanol:
- Trwy'r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau
Fe gewch eich tywys i ychwanegu at y wybodaeth a roddwyd yn barod wrth gofrestru ar y wefan. Cewch gyflwyno’ch cais pan fyddwch yn hapus. Bydd y cyflogwr yn anfon e-byst atoch yn dweud beth fydd yn digwydd nesaf. - Trwy system y cyflogwr ei hun
Mae’n well gan rai cyflogwyr bod ymgeiswyr yn defnyddio eu proses recriwtio eu hunain. Os felly, cewch eich tywys i ddilyn dolen i’w cyfarwyddiadau. Efallai bydd hyn yn gais ar-lein neu efallai byddant yn anfon ffurflen gais papur atoch.
Cliciwch y dolenni am help gyda cheisiadau
Pa fath o berson ydych chi?
Cewch ragor o wybodaeth yma am sut i wneud cais. - Trwy'r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau
Facebook: www.facebook/apprenticeshipscymru
Twitter: @apprenticewales
Gweld Astudiaethau Achos

