Llysgenhadon Adeiladu CITB yng Nghymru
Darganfyddwch sut mae’r Llysgenhadon Adeiladu hyn yn ysbrydoli pobl eraill
Chwiliad Gyrfa
Defnyddiwch y Chwiliad Gyrfa i gael gwybod mwy am swydd. Yn cynnwys cyflogau, ble mae’r swyddi, cyfleoedd a llawer mwy.
Oes angen syniadau arnoch? Help i ddechrau arni
Gyrfaoedd mewn adeiladu
Source: CITB
Offeryn Dilyniant
Ydych chi eisiau dechrau gyrfa ym maes Adeiladu, neu eisoes yn gweithio yn y sector?
Gwiriwch eich opsiynau gyrfaol gan ddefnyddio Offeryn Dilyniant Gyrfaoedd CITB.
Archwilio tueddiadau swyddi
Golwg ar
Adeiladu
Adeiladu yng Nghymru ar ei gynnydd!
Yn y blynyddoedd nesaf, disgwylir i’r diwydiant adeiladu yng Nghymru dyfu’n gyflymach nag yn unrhyw ran arall o’r DU.
Wrth weithio yn y diwydiant adeiladu, gallech fod yn adeiladu cartrefi newydd ac ysgolion newydd, neu’n atgyweirio ffyrdd a rhwydweithiau rheilffordd. Gallech hyn yn oed fod yn gysylltiedig ag adeiladu datblygiadau diwydiannol mawr yng Nghymru.
Mae amrywiaeth eang o swyddi ar gael ar bob lefel, o grefftau medrus fel seiri coed a phlastrwyr, i rolau dylunio a rheoli, fel peirianwyr sifil, penseiri a chynllunwyr tref.
Disgwylir i’r diwydiant
adeiladu yng Nghymru dyfu
6%
y flwyddyn tan 2019; ddwywaith cyfradd y DU (CITB, 2015-2019)
Disgwylir mai menywod fydd yn cyflawni
1 o bob 4
swydd yn y diwydiant adeiladu yn y DU, erbyn 2020
(Randstad Construction, Property & Engineering 2015)
Mae
51%
o swyddi adeiladu yn grefftau medrus, fel plymwaith neu waith coed
(Llywodraeth Cymru, 2014)
Mae
3 o bob 5
gweithiwr adeiladu yng Nghymru yn hunangyflogedig
(Llywodraeth Cymru, 2014)

(Llywodraeth Cymru, 2014)
Mae ar Gymru angen mwy o..
Peirianwyr sifil, Crefftau trydanol ac electronig,
Bricwyr, Rheolwyr prosiect, Plastrwyr,
Drafftsmyn, Goruchwylwyr adeiladu,
Plymwyr a pheirianwyr gwresogi.
Pa swyddi alla’ i eu gwneud?
Dyma rai o’r swyddi adeiladu y gallech chi eu gwneud:
Prif Ardaloedd Cyflogaeth






















Ffynhonnell: Ystadegau Sector Blaenoriaethol Llywodraeth Cymru, 2014
Mae gan Gaerdydd y boblogaeth uchaf yng Nghymru, a’r nifer uchaf o swyddi adeiladu.
Ledled Cymru, mae swyddi adeiladu yn cynrychioli rhwng 5% ac 11% o gyfanswm y gweithlu ym mhob sir.
Powys sydd â’r gyfran uchaf, sef 11%, a Chasnewydd sydd â’r isaf, sef 5%.
Cyfarfod â’r Cyflogwyr
Dyma rhai o gyflogwyr Adeiladu Cymru:
Kronospan
Gweithgynhyrchwr Paneli Pren, Chirk, Wrecsam.
PAR Homes
Adeiladwyr Tai, Llandrindod.
Lloyd & Gravell Ltd
Cwmni Adeiladu, Llanelli.
M2 Construction
Gwasanaethau Adeiladu,
Abertawe .
Redrow plc
Adeiladwyr Tai, Elwoe, Sir y Fflint.
JCB Wrecsam
Wrecsam, Gweithgynhyrchwr offer adeiladu mawr, Wrecsam.
Lakesmere
Arbenigwyr Amlenni Adeiladu, Casnewydd.
Charnwood Group
Adeiladu a Datblygu, Caerdydd.
Beth alla’ i ei ennill?
Gall cyflogau amrywio gan ddibynnu ar eich profiad, y cyflogwr a ble rydych chi’n byw. Gellir ennill cyflogau uwch ar gyfer swyddi uwch. Mae cyflogau’n amrywio ar gyfer gweithwyr hunangyflogedig hefyd.

Ffynhonnell: CASCAiD, 2015
Dechrau arni
Mae’r rhan fwyaf o swyddi adeiladu yn cynnwys gwaith ymarferol neu waith llaw. Gallai gyrfa mewn adeiladu fod yn addas i chi, os oes gennych ddiddordeb mewn:
- Gwaith corfforol a gweithio gyda’ch dwylo
- Gweithio gydag offer a pheiriannau
- Gweithio fel rhan o dîm
- Dilyn cynlluniau a manylebau’n gywir
- Datrys problemau
- Gwneud cyfrifiadau, a pharatoi amcangyfrifon o ran costau a deunyddiau
Y llwybr arferol i mewn i grefftau medrus yw trwy Brentisiaeth lle byddwch yn hyfforddi wrth weithio. Ceir dros 30 o lwybrau prentisiaeth adeiladu gwahanol ar lefelau gwahanol.
(Sgiliau Adeiladu Cymru 2015-2019)
Ar gyfer galwedigaeth broffesiynol fel Peirianneg Sifil, Rheolwr Safle neu Bensaer, bydd arnoch angen cymhwyster lefel gradd, neu gyfwerth, fel arfer.
Darganfyddwch sut i ddechrau mewn gwahanol swyddi adeiladu.
Rhowch gynnig ar ein Chwiliad Gyrfaoedd
Dod o hyd i gwrs Addysg Uwch
Ennill profiad!
Ceisiwch ennill cymaint o brofiad â phosibl. Diffyg profiad gwaith cyffredinol yw un o’r 3 phrif reswm y mae cyflogwyr yn eu rhoi am beidio â chyflogi rhywun.
Edrychwch ar mae angen profiad arna i.
Er enghraifft, Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC).

Galw am sgiliau
Y diwydiant adeiladu yw un o’r diwydiannau cyntaf i gael ei effeithio gan gyflwr yr economi a’r farchnad dai. Wrth i’r economi dyfu, bydd y galw am sgiliau adeiladu ar bob lefel yn cynyddu.
Mae rheoliadau newydd a thechnolegau adeiladu newydd yn effeithio ar y galw am sgiliau hefyd.
Keep up to date with the latest regulations and sustainable building technologies CITB.
Newydd yn y sector...
- Mae cynnydd mewn gweithgynhyrchu oddi ar y safle yn golygu galw am sgiliau gweithgynhyrchu adeiladu a Rheolwyr Prosiect.
- Mae Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM) yn ddull newydd o greu rhith-fodel o’r prosiect cyn mynd ati i’w adeiladu go iawn.
- Mae mentrau amgylcheddol fel y Fargen Werdd Fargen Werdd yn golygu galw am Osodwyr Ynni Adnewyddadwy achrededig systemau ynni ‘gwyrdd’, fel ynni solar a thermol.

A oes angen sgiliau Cymraeg arnaf?
Os ydych yn gweithio yng Nghymru, gall siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg fod o fantais i chi yn y gweithle. Yn enwedig os ydych chi’n gweithio mewn ardaloedd lle y siaredir Cymraeg a bod angen i chi gyfathrebu â phobl yn rhan o’ch swydd.
Yn y diwydiant adeiladu
Mae 11%
o’r gweithlu’n siarad Cymraeg
(Cyfrifiad 2011))
o gyflogwyr adeiladu yn dweud bod sgiliau Cymraeg yn bwysig ‘iawn’ neu’n ‘gymharol’ bwysig
(Llywodraeth Cymru,2014)
Beth am y dyfodol?
Ar ôl ychydig flynyddoedd anodd iawn, disgwylir i’r diwydiant adeiladu yng Nghymru dyfu ddwywaith mor gyflym ag yn y DU gyfan hyd at 2019. Bydd y cynnydd disgwyliedig mewn swyddi bob amser yn cael ei effeithio gan y datblygiadau diweddaraf mewn prosiectau newydd sydd wedi’u cynllunio ar gyfer Cymru.
Disgwylir i’r galw am alwedigaethau proffesiynol, fel Peirianwyr Sifil, Syrfewyr a Phenseiri, fod yn fwy na’r galw am y prif grefftau medrus.
Swyddi adeiladu sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru, a ddangosir fel canran twf.












Ffynhonnell: Dyfodol Gwaith Cymru 2012-2022