Darganfod Addysgu

Ysbrydolwch genhedlaeth – cyflwyniad i Hyfforddiant Athrawon UCAS

Cymhellion Hyfforddi Athrawon

Gwybodaeth i fyfyrwyr

Cwricwlwm newydd i Gymru

Rhagor o wybodaeth am

Rhannu'r dudalen hon

Dewiswch symbol:

 

 

Golwg ar

Addysg


Ysbrydolwch genedlaethau’r dyfodol

Gweithio ym myd addysg, boed gyda phlant, pobl ifanc, neu oedolion, yw un o’r gyrfaoedd mwyaf heriol ond sydd ymysg y rhai sy’n rhoi’r boddhad mwyaf.

Addysg sydd yn y pedwerydd safle o blith y meysydd sy'n cyflogi'r nifer fwyaf o bobl yn Nghymru. Mae tua 125,000 o bobl yn gweithio yn y sector addysg; sef 1 o bob 10 o bobl yng Nghymru sy'n gweithio. (Ffynhonnell: y Gofrestr Busnes a’r Arolwg Cyflogaeth, BRES, 2015)

Er mai Athrawon a Darlithwyr yw cyfran fawr o gyfanswm y gweithlu ym myd Addysg, sef tua 44%, mae gweithio yn y sector addysg yn ymwneud â llawer mwy na bod yn athro dosbarth. Gallech gynorthwyo staff addysgu, bod yn rhan o’r gwaith o ddarparu prydau ysgol, neu baratoi offer ar gyfer arbrofion labordai. Gallech fod yn hyfforddi ac yn asesu prentisiaid, yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd, neu’n addysgu mewn dosbarth gyda’r nos i oedolion.

Mae’r sector addysg yn newid yn gyson wrth iddo ymateb i bolisïau newydd y llywodraeth, a datblygiad damcaniaethau a dulliau newydd o addysgu a dysgu. Byddwch yn barod i fod yn addysgwr ac yn ddysgwr, drwy gydol eich bywyd.

Mae
1 o bob 10

o weithwyr yng Nghymru yn gweithio yn y Sector Addysg
(BRES, 2015)

Mae75%
o’r athrawon ysgol yng Nghymru yn fenywod; o gymharu â 59% o athrawon Addysg Bellach
(Ystadegau’r Gweithlu Addysg, 2016)

Mae traean, 33%
o’r athrawon ysgol yng Nghymru yn siarad Cymraeg. Mae 27% yn gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
(Ystadegau’r Gweithlu Addysg, 2016)

Mae 28%
o’r bobl ifanc 18 oed yng Nghymru yn mynd i Brifysgol
(UCAS, 2015)

Disgwylir y bydd angen mwy na 50,000
o athrawon neu weithwyr proffesiynol ym maes addysg yng Nghymru erbyn 2024
(Working Futures, 2014-2024)


 

 

Mae 9.6% o’r gweithlu yng Nghymru wedi’u cyflogi ym myd Addysg.
(BRES,2015)


Ble alla’i weithio ym myd Addysg?

Gallwch addysgu neu ddarlithio mewn meysydd amrywiol a chyda disgyblion a dysgwyr o bob oedran a gallu.

Rydym i gyd yn mynd i’r ysgol neu’n cael ein haddysgu mewn rhyw ffordd nes byddwn yn 16 oed. Bydd y mwyafrif yn mynd ymlaen i addysg bellach gan ddilyn cyrsiau Safon Uwch, BTEC neu gyrsiau Addysg Bellach eraill, a bydd rhai yn dod yn brentisiaid neu’n dilyn llwybrau hyfforddiant galwedigaethol eraill. Mae nifer y bobl ifanc sy’n mynd ymlaen i Addysg Uwch yng Nghymru wedi cynyddu; mae 28% o’r bobl ifanc 18 oed yn mynd i Brifysgol neu’n defnyddio darparwyr Addysg Uwch eraill (UCAS, 2016). Dyma’r gyfradd fynediad uchaf a gofnodwyd yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn ein hannog i fod yn genedl o ddysgwyr gydol oes, a phan ydym yn oedolion gallwn ddychwelyd i addysg a chyrsiau amser llawn neu ran-amser, neu hyd yn oed ddysgu oherwydd ei fod yn hwyl.

Ym myd Addysg, gallech weithio mewn ystod eang o amgylcheddau addysgu a dysgu. Dyma’r prif feysydd y gallech chi weithio ynddynt:

1%
Meithrin neu’r Blynyddoedd Cynnar

1%
Sefydliadau hyfforddi a rhaglenni dysgu Cymunedol

10%
Addysg Uwch

20%
Addysg Bellach

(BRES, 2015)

40%
Cynradd



29%
Uwchradd

 



Mae ar Gymru angen mwy o…


Cynorthwywyr Addysgu, Gweithwyr Chwarae,
Athrawon a Thiwtoriaid Peripatetig
Athrawon Cymorth Dysgu,
Rheolwyr ym myd Addysg,
Darlithwyr Addysg Uwch
Nyrsys Meithrin a Chynorthwywyr,
Seicolegwyr, Athrawon Ysgol Gynradd,
Darlithwyr Addysg Bellach, Hyfforddwyr, Cynghorwyr ac Arolygwyr Addysgu, Cynorthwywyr Cymorth Addysgol,
Athrawon Ysgol Uwchradd

 


Prif Ardaloedd Cyflogaeth

Dyma gyfanswm nifer yr holl swyddi yn y meysydd sector addysg Cymru.

Caerdydd
21,600

 

Abertawe
9,900

 

Rhondda Cynon Taf
9,900

 

Gwynedd
6,700

 

Sir Gaerfyrddin
6,400

 

Ceredigion
5,900

 

Conwy
5,800

 

Pen-y-bont ar Ogwr
5,800

 

Caerffili
5,500

 

Wrecsam
5,000

 

Sir y Fflint
5,000

 

Casnewydd
4,900

 

Castell-nedd Port Talbot
4,800

 

Sir Benfro
4,700

 

Powys
4,400

 

Bro Morgannwg
4,300

 

Torfaen
3,500

 

Sir Ddinbych
3,400

 

Sir Fynwy
2,800

 

Blaenau Gwent
1,900

 

Merthyr Tudful
1,700

 

Ynys Môn
1,100

 

Ffynhonell: BRES, 2015

Mae dros 1 mewn 6 o’r holl swyddi ym maes Addysg wedi’u lleoli yng Nghaerdydd,ond bydd swyddi ar gael ledled Cymru.
(BRES, 2015)

 

Yng Nghymru, mae:
1310 o Ysgolion Cynradd
205 o Ysgolion Uwchradd
66 o Ysgolion Annibynnol
39 o Ysgolion Arbennig
14 o Golegau Addysg Bellach
13 o Ysgolion Meithrin
10 o Brifysgolion

a llawer mwy o ddarparwyr hyfforddiant ar draws Gymru



Cyfarfod â’r Cyflogwyr

Mae’r staff sy’n gweithio mewn meithrinfeydd ac ysgolion a gynhelir wedi’u cyflogi drwy Adran Addysg pob un o’r 22 o Awdurdodau Unedol yng Nghymru. Gallech hefyd gael eich cyflogi gan ysgol annibynnol, coleg addysg bellach, prifysgol neu sefydliad hyfforddi ledled Cymru.

Beth alla’i ei ennill?

Mae cyflogau ar draws y sector Addysg yn gallu amrywio gan ddibynnu ar gymwysterau, profiad, ble rydych chi’n byw, yn ogystal â chyfrifoldebau addysgu. Bydd cyflogau hefyd yn amrywio i weithwyr hunangyflogedig.

Caiff athrawon eu talu yn ôl graddfeydd cyflog, sy’n cael eu diweddaru gan y Llywodraeth bob mis Medi. Mae athrawon cymwysedig yn cychwyn ar y ‘brif’ raddfa gyflog a phob blwyddyn byddant yn mynd i fyny’r raddfa gan ddibynnu ar eu perfformiad.

Mae’r cyflogau addysgu a nodir isod yn rhai bras sydd wedi’u seilio ar Raddfeydd cyflog Cymru a Lloegr 2016/2017. Mae’r graddfeydd cyflog yn uwch os ydych yn addysgu yn Llundain.

Ar ben y cyflog sylfaenol, gall athrawon hefyd gael taliadau Cyfrifoldeb Addysgu a Dysgu gan ddibynnu ar eu dyletswyddau arbenigol ychwanegol.

Mae Darlithwyr Addysg Bellach yn cael eu talu yn ôl Graddfeydd Cyflog Addysg Bellach Cymru.


Ystod cyflogau ar gyfer swyddi a dibynnu ar brofiad (£)



Athrawon

£16,500 - £26,000


£22,500 - £38,000


£28,000 - £47,000


£39,000 - £59,000


£44,000 - £108,000


 

Swyddi Addysg Eraill

£12,000 - £18,000


£13,000 - £16,000


£14,000 - £16,000


£15,000 - £23,000


£18,000 - £25,000


£18,000 - £30,000


£20,000 - £33,000


£22,000 - £51,000


£23,000 - £40,000


£23,000 - £41,000


£28,000 - £54,000


Ffynhonnellau: Cascaid, 2017
* Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2016
**Bydd cyflogau staff cymorth mewn addysg, fel Cynorthwywyr Addysgu, Gweithwyr Meithrin a Chwarae ac Ysgrifenyddion Ysgol etc amrywio ledled Cymru. Mae’r amrediadau cyflog a roddir uchod yn fras. Holwch eich Awdurdod Addysg lleol ar gyfer graddfeydd cyflog penodol yn eich ardal.


Dechrau arni

Dechrau arni ym myd Addysg

I fod yn Athro yn y DU, bydd arnoch angen:

  • gradd israddedig
  • Statws Athro Cymwysedig (SAC) drwy gwblhau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (HCA).

Yn Nghymru

  • I wneud cyrsiau hyfforddiant athrawon yng Nghymru, bydd arnoch angen TGAU Saesneg a Mathemateg â Gradd B, neu gymhwyster cyfatebol. (Gwiriwch y gofynion derbyn ar gyfer cyrsiau yng ngweddill y DU; gallant fod yn is)
  • I addysgu ar lefel gynradd, bydd arnoch angen TGAU mewn gwyddoniaeth, â gradd C, neu gymhwyster cyfatebol
  • I astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, bydd arnoch angen TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf, Gradd B.

Gallwch ddod yn athro mewn cyfnodau gwahanol o’ch bywyd ac mae amryw o lwybrau y gallwch eu dilyn i gyflawni Statws Athro Cymwysedig (SAC). Gellir ei gwblhau fel rhan o radd, yn syth ar ôl gradd, ar ffurf cwrs rhan-amser ochr yn ochr â gwaith, neu ar ffurf cwrs amser llawn ar ôl gweithio mewn sector arall.

Bydd y dewis o ran y llwybr yr ydych yn ei ddilyn yn dibynnu ar:

  • y grŵp oedran yr hoffech ei addysgu, er enghraifft, grwpiau oedran Ysgol Gynradd neu Uwchradd
  • y pwnc neu’r pynciau yr hoffech eu haddysgu yn ogystal â’ch cymwysterau a’ch profiad.
‘ Yng Nghymru, gallwch hefyd hyfforddi i fod yn athro tra byddwch yn gweithio mewn ysgol drwy’r Rhaglen Athrawon Graddedig (RhAG). Nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael; yn 2016-2017, roedd 21 o leoedd ar y Rhaglen Athrawon Graddedig Uwchradd a 36 o leoedd ar y Rhaglen Athrawon Graddedig Cynradd. ’
(teachertrainingcymru.org,2017)


Cofiwch: os ydych yn gwneud cais i gael eich hyfforddi i fod yn athro neu i unrhyw swydd sy’n cynnwys gweithio gyda phlant a phobl ifanc neu oedolion sy’n agored i niwed, bydd gofyn ichi gydymffurfio â gwiriadau i ganfod unrhyw euogfarnau troseddol drwy wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) 

Bydd angen ichi wneud cryn dipyn o waith ymchwil i’r llwybr sydd orau i chi:  

• Israddedig

Gallwch wneud gradd israddedig mewn Addysg, yn gyffredinol ar gyfer addysgu mewn Ysgol Gynradd ac ar lefel Feithrin, sy’n cynnwys Statws Athro Cymwysedig (SAC).

Dyma rai enghreifftiau o’r nifer o gyrsiau israddedig sydd ar gael ym maes Addysg:

  • Addysg Gynradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig BA (Anrh.)
  • Addysg Gynradd BEd (Anrh.)
  • Addysgu a Dysgu yn y Cyfnod Cynradd BA (Anrh.)
  • Gradd Sylfaen ynghylch y Blynyddoedd Cynnar FdA
  • Y Blynyddoedd Cynnar BA (Anrh.)
  • Addysg Mathemateg gyda SAC (Uwchradd) BA (Anrh.)
  • Addysg Gynradd gyda Hanes (4 blynedd) MA (Anrh.)

Dod o hyd i gwrs israddedig



• Ôl-raddedig

Gallwch wneud gradd ac yna gwblhau eich hyfforddiant athrawon. Mae’r mwyafrif o athrawon ysgolion uwchradd a cholegau yn gwneud gradd yn y pwnc yr hoffent ei addysgu ac yna’n gwneud Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR). Dyma rai enghreifftiau o’r nifer o gyrsiau ôl-raddedig sydd ar gael:

  • TAR Gynradd
  • TAR Uwchradd, Bioleg
  • TAR Uwchradd, Ffiseg a Chemeg

Chwilio am gwrs hyfforddi athrawon ôl-raddedig

Yng Nghymru, mae tair canolfan Addysg Athrawon sy’n darparu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (HCA):




Faint o gystadleuaeth sydd am swyddi addysgu yng Nghymru?

Ar gyfartaledd, mae 9 ymgeisydd i bob swydd wag ym maes addysgu yng Nghymru, ond mae’r gystadleuaeth yn amrywio yn ôl y maes pwnc:

Swyddi gwag

Nifer yr ymgeiswyr fesul swydd wag


Cynradd

16


Hanes

16


Celf

15


Bioleg

13


Daearyddiaeth

11


Addysg Gorfforol

11


Addysg Grefyddol

10


Pennaeth/Dirprwy Bennaeth

10


Gwyddoniaeth

9


Saesneg

8

Swyddi gwag

Nifer yr ymgeiswyr fesul swydd wag


Cerdd

8


Cydgysylltydd AAA

8


Cemeg

7


Dylunio a Thechnoleg

7


Technoleg Gwybodaeth

7


Mathemateg

7


Ieithoedd Tramor Modern

7


Ffiseg

7


Cymraeg ail iaith

7


Cymraeg iaith gyntaf

4


Ffynhonnell: StatsCymru, Ionawr - Rhagfyr 2015



Ewch ati i rwydweithio!

Er bod y llwybrau i waith addysgu a darlithio yn eithaf strwythuredig, mae’n dal yn bwysig iawn rhwydweithio ac adeiladu eich rhwydwaith o gysylltiadau, er mwyn eich helpu i benderfynu ai byd addysg yw’r maes cywir i chi ac yna i rannu arferion da ag athrawon eraill wrth ichi symud drwy eich gyrfa. Siaradwch â chynifer o athrawon a darlithwyr ag y gallwch wrth wneud penderfyniadau am eich gyrfa ym maes addysg.

Rhwydweithio! Rhwydweithio! Rhwydweithio!

Mynnwch brofiad!

Mynnwch brofiad! Mae cael cymaint o brofiad gwaith ag y gallwch yn arbennig o bwysig ym myd Addysg. Mae yr un mor bwysig i’ch helpu i benderfynu ai addysgu neu ddarlithio yw’r yrfa gywir i chi a pha grŵp oedran a fyddai orau ichi, neu i gefnogi eich cais i fod yn Gynorthwyydd Addysgu. Siaradwch â’ch ysgolion lleol a gofynnwch a allech chi dreulio peth amser yn cysgodi swydd, neu gwirfoddolwch yn Gynorthwy-ydd Addysgu. Cofiwch y gallwch hefyd wirfoddoli mewn clybiau ieuenctid lleol neu ddod yn arweinydd i’r Geidiau neu’r Sgowtiaid.


Mae angen i bob athro fod â gradd; cymhwyster lefel 5. (Efallai y bydd gan Athrawon a Darlithwyr pynciau galwedigaethol gymwysterau galwedigaethol proffesiynol cyfatebol) Fel arfer, mae gan Ddarlithwyr Addysg Uwch Radd Anrhydedd dosbarth cyntaf neu 2.1 ynghyd â Gradd Meistr, ac mae disgwyl iddynt fod â doethuriaeth (PhD), neu fod yn gweithio tuag at ei chyflawni (Lefel 8).
A hoffech chi ddeall cymwysterau? Darllenwch ragor.



Galw am sgiliau

Mae swydd Addysgwr yn rhoi boddhad, ond yn heriol, a bydd angen ichi allu ymgysylltu â’r disgyblion neu’r myfyrwyr yr ydych yn eu haddysgu. Bydd gennych wybodaeth arbenigol am y pwnc yr hoffech ei addysgu ond bydd arnoch angen hefyd:

  • Y gallu i annog, cymell, ac ysbrydoli eich myfyrwyr
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol
  • Brwdfrydedd a hyder
  • Amynedd a thringarwch
  • Gallu cynnal disgyblaeth ac ymdrin ag ymddygiad heriol
  • Sgiliau trefnu a chynllunio da
  • Y gallu i weithio’n dda o dan bwysau
  • Cadw’n gyfarwydd â’r gwaith ymchwil diweddaraf yn eich maes pwnc
‘Mae addysgu a dysgu ardderchog yn deillio o ymarferwyr brwdfrydig, ymroddedig, rhagorol sy’n hyfedr, sy’n cyfuno gwybodaeth arbenigol o’r pwnc â dealltwriaeth drwyadl o’r broses ddysgu, ac sy’n ceisio gwella eu sgiliau yn gyson’’
(Cymwys am Oes, 2014)


Pynciau Blaenoriaethol

Bydd angen athrawon a darlithwyr ym mhob pwnc, ond mae prinder athrawon yn y pynciau a ganlyn, sy’n flaenoriaethau‘Uchel’ a ‘Chanolig’:

Blaenoriaeth Uchel

  • Mathemateg
  • Ffiseg
  • Cemeg
  • Cymraeg

Blaenoriaeth Ganolig

  • Ieithoedd Modern
  • TGCh (Cyfrifiadureg)

Mae’r Llywodraeth yn cyhoeddi cymhellion Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon i wneud hyfforddiant yn y pynciau blaenoriaethol hyn bob blwyddyn ac mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar wefan Hyfforddiant Athrawon ac Addysg yng Nghymru

Newydd yn y sector

Mae’r sector Addysg yn newid yn gyson wrth iddo ymateb i bolisïau diweddaraf y llywodraeth a damcaniaethau a dulliau newydd o ran addysgu a dysgu. Byddwch yn barod i fod yn addysgwr ac yn ddysgwr, drwy gydol eich gyrfa.

Cwricwlwm newydd i Gymru 2016-2018
Disgwylir i’r cwricwlwm newydd i Gymru fod wedi’i weithredu’n llwyr erbyn 2021 ac mae’n rhoi mwy o bwyslais ar ddarparu’r sgiliau y bydd eu hangen ar bobl ifanc ar gyfer gwaith a bywyd.

Yn arbennig, erbyn hyn mae sgiliau digidol yr un mor bwysig â Llythrennedd a Rhifedd a bydd angen i addysgwyr allu addysgu’r sgiliau hyn ar draws pob maes pwnc.

Strategaeth y Gymraeg: y Camau Nesaf
Wrth i Lywodraeth Cymru anelu at gynyddu nifer y cyfleoedd i ddysgu a hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg, bydd y galw am athrawon cyfrwng Cymraeg yn parhau i dyfu.

'Mae addysgu yn grefft mor gymhleth nad yw un oes yn ddigon i’w meistroli, ond drwy ganolbwyntio’n drylwyr ar ymarfer, gall athrawon barhau i wella drwy gydol eu gyrfa.’ (Dylan William, Cynhadledd Chwyldro Ysgolion, 2010)



A oes angen sgiliau Cymraeg arnaf?

Mae sgiliau yn y Gymraeg yn arbennig o bwysig ym myd Addysg ac mae’n debyg y bydd gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhoi mantais ichi o ran dod o hyd i swydd addysgu neu gymorth addysgu.

Nod Llywodraeth Cymru yw parhau i wella’r cyfleoedd i ddysgu yn yr ysgol a’r coleg drwy gyfrwng y Gymraeg, ac felly mae’n debygol y bydd y galw am athrawon cyfrwng Cymraeg ac athrawon Cymraeg Iaith Gyntaf a Chymraeg Ail Iaith yn parhau i gynyddu. Gall y galw hwn amrywio gan ddibynnu ar ble rydych yn byw; Gwynedd sydd â’r nifer fwyaf o ysgolion cyfrwng Cymraeg, sef 105 (gan gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd), a Blaenau Gwent sydd â’r nifer leiaf (1).

Y Cynllun Gwella Cyfrwng Cymraeg (Addysgu ar lefel Uwchradd yn unig.)Os byddwch yn astudio eich cwrs Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael Tâl Atodol Gwella Cyfrwng Cymraeg. Mae hwn wedi’i anelu at athrawon o dan hyfforddiant y mae angen cymorth ychwanegol arnynt i feithrin eu hyder yn eu gallu i addysgu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â’ch prifysgol neu goleg i gael gwybod a allwch wneud cais.

 Mae 29%
o’r gweithlu addysg yn siarad Cymraeg
(Cyfrifiad, 2011)


 Mae 84%
o’r cyflogwyr ym maes gofal plant o’r farn fod sgiliau yn y Gymraeg yn bwysig yn y gweithle
(Llywodraeth Cymru, 2014)


 

Beth am y dyfodol?

Disgwylir i nifer yr athrawon, darlithwyr, tiwtoriaid a gweithwyr eraill ym myd addysg gynyddu er mwyn ysbrydoli ac addysgu cenedlaethau’r dyfodol a galluogi pob un ohonom i barhau i ddysgu drwy gydol ein bywyd.

Y swyddi ym myd addysg sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru, wedi’u dangos fel canran o’r twf.

 Cynorthwywyr Cymorth Addysgol
15%


 Swyddogion Plant a’r Blynyddoedd Cynnar
14%


 Rheolwyr ym myd Addysg
14%


 Athrawon a Thiwtoriaid Peripatetig
13%


 Athrawon Ysgolion Cynradd
13%


 Cynorthwywyr Addysgu
12%


 Cynghorwyr ac Arolygwyr Addysg
12%


 Darlithwyr Addysg Bellach
12%


 Athrawon Cymorth Dysgu
12%


 Gweithwyr Chwarae
10%


 Nyrsys Meithrin a Chynorthwywyr
10%


 Hyfforddwyr
10%


 Athrawon Ysgolion Uwchradd
9%


 Cynghorwyr Gyrfa
7%


 Darlithwyr Addysg Uwch
6%



 Y twf cyffredinol a ragwelir ar gyfartaledd yng Nghymru
4%


Ffynhonnell: Working Futures 2012-2022


Yn ôl i Tueddiadau SwyddiYn ôl i frig y dudalen

Croeso i Gyrfa Cymru

Dewiswch iaith

Cymraeg

Welcome to Careers Wales

Please select your language

English