Gyrfa +
Cymrwch reolaeth o’ch gyrfa gyda Gyrfa +!
Mae llawer o wybodaeth, gweithgareddau a fideos gwerthfawr ar olwyn Gyrfa + er mwyn eich helpu i gychwyn ar eich gyrfa.
- Dewch o hyd i’r swydd yr ydych ei heisiau.
- Dewch o hyd i’ch cwrs delfrydol.
- Cynlluniwch gyfeiriad newydd.
Mae 3 adran a 9 pwnc ar yr olwyn.
Cychwynnwch le bynnag y dymunwch a gweithiwch eich ffordd o gwmpas yr Olwyn.
Amdanoch Chi
- Cadw’ch Cymhelliad – Chwiliwch am ysbrydoliaeth; gwyliwch fideos ar ffyrdd y mae eraill wedi cyrraedd eu nod gyrfa.
- Cael Syniadau - Rhowch gynnig ar un o’n cwisiau er mwyn gweld pa yrfa sy’n gweddu i chi… neu darllenwch am wahanol swyddi.
- Adnabod eich Cryfderau – Meddyliwch am eich sgiliau a’ch diddordebau ac adeiladwch gwmwl sgiliau.
Beth Sydd Ar Gael?
- Edrychwch ar eich Opsiynau - Dewch o hyd i wybodaeth am y gwahanol ddewisiadau sydd ar gael, megis addysg, cyflogaeth a gwirfoddoli.
- Y Farchnad Swyddi - Edrychwch ar beth sy’n digwydd yn y byd gwaith. Darllenwch am ddatblygiad gwahanol sectorau gwaith.
- Chwilio am Swyddi a Chyrsiau – Edrychwch am swydd, cwrs neu yrfa.
Gwnewch i Bethau Ddigwydd
- Sut Byddwch chi’n Dewis – Archwiliwch sut i benderfynu a chael cyngor.
- Gwneud eich Gorau – Beth am wella’ch sgiliau chwilio am waith? Dysgwch sut i wneud CV da a gwneud yn dda mewn cyfweliad.
- Cymryd yr awenau – Edrychwch ar eich sefyllfa a meddyliwch sut y gallech symud ymlaen.
Beth am fynd i hafan Gyrfa + a gadael i’n tywyswr eich arwain trwy’r adrannau.