Council of Europe

Diwrnod Ewropeaidd Ieithoedd

Oeddech chi'n gwybod bod rhwng 6,000 a 7,000 o ieithoedd yn cael eu siarad o amgylch y byd?

Mae Medi 26ain yn Ddiwrnod Ewropeaidd Ieithoedd, sy'n dathlu ac yn hyrwyddo dysgu ieithoedd.

Y deg iaith bwysicaf ar gyfer y DU, yn ôl y Cyngor Prydeinig yw:

  • Sbaeneg
  • Arabeg
  • Ffrangeg
  • Mandarin Tsieineaidd
  • Almaeneg
  • Portiwgaleg
  • Eidaleg
  • Rwsieg
  • Twrceg
  • Japaneeg

Gallwch astudio ieithoedd yn yr ysgol, y coleg, y brifysgol, dosbarthiadau addysg i oedolion neu ar lein. Gall hyn eich helpu i gael swydd ac ehangu eich opsiynau gyrfa.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu iaith arall, cliciwch ar Cyrsiau yng Nghymru  i ddod o hyd i gwrs addas yn eich ardal chi.

Rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Ewropeaidd Ieithoedd.

Cysylltwch â ni am gymorth neu i gael rhagor o wybodaeth.

Rhannu'r dudalen hon

Dewiswch symbol:

Croeso i Gyrfa Cymru

Dewiswch iaith

Cymraeg

Welcome to Careers Wales

Please select your language

English