Ffrindiau o Ysgol Basaleg yn ennill prentisiaethau Lloyds gyda chymorth rhaglen Dosbarth Busnes
Mae dwy ffrind 16 mlwydd oed, sy'n gyn-ddisgyblion o Ysgol Basaleg, wedi cael cynnig prentisiaethau gyda Banc Lloyds, diolch i bartneriaeth unigryw rhwng y busnes a'r ysgol.
Daeth y ddwy i wybod am Fanc Lloyds trwy ymwneud eu hysgol yn y Dosbarth Busnes – sef rhaglen gydweithredol rhwng Busnes yn y Gymuned, Gyrfa Cymru a Llywodraeth Cymru.
Mae'r rhaglen yn adeiladu partneriaethau rhwng busnesau ac ysgolion yng Nghymru er mwyn meithrin perthnasoedd, cyflwyno disgyblion i gyfleoedd gyrfaol, a meithrin eu sgiliau cyflogadwyedd.
Cyn cymryd rhan yn y Dosbarth Busnes, nid oedd y ddwy ffrind, sef Lexi Wall o Fryn Hyfryd, a Nicole Skinner o Tŷ-du, yn siŵr o'u camau nesaf ar ôl gadael yr ysgol.
Ar ôl cymryd rhan yn un o weithdai prentisiaeth Lloyds trwy'r bartneriaeth, roedd y ddwy ohonynt wedi amlygu potensial, a chynigiwyd cyfle iddynt gymryd rhan mewn rhaglen lleoliad gwaith unigryw a gynigir gan Lloyds trwy Ysgol Basaleg. Wedi iddynt gwblhau eu lleoliadau gwaith gyda'r cwmni, cefnogwyd Lexi a Nicole trwy broses gwneud cais arall, y tro hwn ar gyfer swyddi parhaol.
Maent bellach yn gweithio fel cynghorwyr cwsmeriaid yng nghanolfan y banc yng Nghasnewydd, cyn y byddant yn dechrau ar eu prentisiaethau gyda Lloyds.
Wrth siarad am y profiad, dywedodd Lexi: “Pan oeddwn yn yr ysgol, nid oedd gennyf unrhyw syniad beth yr oeddwn am ei wneud ar ôl i mi adael. Nid oeddwn erioed wedi ystyried gweithio i fanc, ond pan gawsom ein cyflwyno i Lloyds trwy'r digwyddiadau Dosbarth Busnes, roedd gennyf ddiddordeb mawr. Wedyn, gofynnwyd i ni a hoffem ni wybod mwy am gyfleoedd gyda'r busnes, a chododd Nicole a finnau ein dwylo.
“Roeddwn yn ddiolchgar bod gennyf ffrind a oedd yn mynd trwy'r un broses, a buom yn cefnogi ein gilydd. Rydym wedi dysgu cymaint o sgiliau gwahanol trwy weithio yn Lloyds, er enghraifft ymdrin â chwsmeriaid, sut i gyfathrebu'n dda, a sut i weld pethau o safbwynt arall."
“Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau fy mhrentisiaeth y flwyddyn nesaf, a hoffwn aros gyda Lloyds er mwyn gwneud cynnydd a chael profiad o feysydd eraill yn y busnes hefyd. Ni fyddwn fyth wedi dod i wybod am y cyfle heb y rhaglen, felly rwyf yn wirioneddol falch ein bod wedi cael y cyfle i fod yn rhan ohoni.”
Mae Lloyds yn rhan o naw partneriaeth Dosbarth Busnes ledled Cymru, ac mae'r banc yn rhoi cymorth i fyfyrwyr trwy gyfrwng gweithgareddau amrywiol, er enghraifft helpu o ran gwneud cais a mynd i gyfweliad, llythrennedd ariannol a gweithdai e-ddiogelwch, a sesiynau ar baratoi ar gyfer y byd gwaith.
Dywedodd Graham Bowd, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru: “Mae'r Dosbarth Busnes yn cyfuno diwydiant a phobl ifanc mewn ffordd ymarferol, fel y mae'r cydweithio ardderchog rhwng Lloyds ac Ysgol Basaleg yn ei amlygu.
“Trwy roi cysylltiad uniongyrchol â chyflogwyr i bobl ifanc tebyg i Lexi a Nicole, maent yn dod yn ymwybodol o'r amrediad o gyfleoedd sydd ar gael iddynt, a hynny ar adeg hollbwysig yn eu bywydau, pan wneir rhai o'r penderfyniadau pwysicaf.
Trwy ddigwyddiadau a gweithdai, maent hefyd yn barod ar gyfer y byd gwaith gan eu bod yn dysgu'r mathau o sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt; mae'r rhain yn eu harfogi â'r cyfarpar angenrheidiol i lwyddo yn y byd gwaith.”
Mynnwch fod eich ysgol neu fusnes yn cymryd rhan!
Anfonwch neges e-bost atom yn
dosbarthbusnes@gyrfacymru.com
-
14 - 18 oed ac yn byw yn ardal #Wrecsam, #SiryFflint neu #SirDdinbych? 🙋 Tyrd draw i'n digwyddiad… https://t.co/jT16L8k2aq
-
Mae dewis eich pynciau yn gyfnod cyffrous! Efallai ei fod yn ymddangos yn frawychus, ond mae penderfynu pa bynciau… https://t.co/2ANM0JtAKE
-
Rydym yn llawn hwyl yr ŵyl yn Gyrfa Cymru heddiw! 🎄 Edrychwch ar eu siwmperi Nadolig ar gyfer #DiwrnodSiwmperDolig.… https://t.co/xopLXjqix5