Digwyddiad Llwybrau Creadigol Dewiswch Eich Dyfodol

Dydd Mawrth 19fed o Dachwedd, 10am - 2:30pm (9:15am i ddisgyblion hefo ADY)

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Ffordd y Gogledd, Caerdydd, CF10 3ER.

Hoffai Gyrfa Cymru eich gwahodd i ddigwyddiad Llwybrau Creadigol Dewiswch Eich Dyfodol, digwyddiad gyrfa rhyngweithiol sy’n canolbwyntio ar y Sector Creadigol. Caiff ei gynnal yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, un o ganolfannau diwylliannol a chreadigol mwyaf eiconig Caerdydd.

 Caiff y digwyddiad ei drefnu gan Gyrfa Cymru ac mae wedi’i anelu at ddisgyblion Ysgolion Uwchradd rhwng 14 a 18 oed a myfyrwyr Colegau Addysg Bellach o Gaerdydd, Dyffryn Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, RhCT, Merthyr, Caerffili a Chasnewydd.  

Bydd cyfle i’r disgyblion glywed gan rai o sefydliadau Creadigol mwyaf Cymru gan gynnwys y BBC, ITV Cymru, Boom Cymru a llawer mwy.

 Yn y digwyddiad, bydd y disgyblion yn gallu:

  • Cael mwy o wybodaeth am y byd Teledu/Ffilm, y Cyfryngau, Hapchwarae, y Theatr, Lleoliadau, Gwisgoedd, Dylunio Graffeg, Animeiddio, Actio, Cerddorion, Technoleg Cerddoriaeth, Celf a mwy;
  • Cwrdd â phobl sy’n gweithio yn y diwydiant creadigol;
  • Rhyngweithio â dros 50 o sefydliadau gwahanol yn y Diwydiannau Creadigol;
  • Cymryd rhan mewn gweithdai ac arddangosfeydd rhyngweithiol;
  • Siarad â Phrentisiaid sy’n gweithio yn y diwydiant;
  • Cael gwybodaeth am gyrsiau gan Golegau a Phrifysgolion;
  • Bod yn aelodau o Banel Trafod Prentisiaethau Creadigol;
  •  Mantieiso ar y cyfle i berfformio ar lwyfan.

Pwy fydd yn bresennol

  • BBC Cymru Wales
  • Artes Mundi
  • G39 Art Gallery
  • ITV Cymru
  • Codez Academy
  • Thud Media
  • Canolfan Mileniwm Cymru
  • Urdd Awduron
  • One Tribe TV
  • Rubicon Dance
  • Backstage Academy
  • Prifysgol De Cymru
  • Mad Dog Casting

...... a llawer mwy! 

 

Beth nesaf?

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag  marketing@gyrfacymru.com

Digwyddiadau

19
TACH

Digwyddiad Llwybrau Creadigol Dewiswch Eich Dyfodol 

 

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Ffordd y Gogledd, Caerdydd, CF10 3ER.

Amser10:15yb-2:30yh. (Dechrau 9:15am i disgyblion gyda ADY)

Hoffai Gyrfa Cymru eich gwahodd i ddigwyddiad Llwybrau Creadigol Dewiswch Eich Dyfodol, digwyddiad gyrfa rhyngweithiol sy’n canolbwyntio ar y Sector Creadigol. Caiff ei gynnal yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, un o ganolfannau diwylliannol a chreadigol mwyaf eiconig Caerdydd.


 

Croeso i Gyrfa Cymru

Dewiswch iaith

Cymraeg

Welcome to Careers Wales

Please select your language

English