Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Adborth a chwynion

Mae Gyrfa Cymru yn falch o gynnal safonau cwsmeriaid ardderchog a sicrhau eich bod yn cael gwasanaethau, gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd o ansawdd uchel, sy'n addas i'ch anghenion.

Mae rhoi gwybod inni am yr hyn rydym yn ei wneud yn dda neu ddim mor dda yn ein helpu i wella'n gwasanaethau. Ein nod  yw:

  • Darparu gwasanaeth safon uchel i'n cwsmeriaid bob amser
  • Gwrando ar farn ein cwsmeriaid i'n helpu i wella'n gwasanaethau
  • Cydnabod pob adborth rydym yn ei gael a gweithredu pan fo angen yn unol â'n trefn gwynion

Ein safonau gofal cwsmer

I sicrhau eich bod yn cael gwsanaethau gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd o ansawdd uchel rydym yn gwneud hyn trwy:

  • Ymateb ichi yn brydlon mewn modd effeithlon a chwrtais, sut bynnag y byddwch yn cysylltu â ni
  • Darparu gwasanaeth dwyieithog (Cymraeg neu Saesneg)
  • Sicrhau bod ein gwasanaethau yn ddiduedd, yn deg a hygyrch mewn modd sy'n addas i'ch anghenion chi a hynny heb wahaniaethu
  • Parchu eich hawliau i gyfrinachedd, preifatrwydd a diogelwch
  • Sicrhau bod ein staff wedi'u hyfforddi'n dda ac y gellir eu hadnabod yn hawdd
  • Rhoi enwau cyswllt staff i chi, eu rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
  • Cynnig gwybodaeth mewn gwahanol fformatau pan fo angen, er enghraifft Braille neu brint bras
  • Cynnig eich galw yn ôl yn rhad ac am ddim os byddwch yn ffonio'n rhif Rhadffôn ar eich ffôn symudol
  • Gofyn am eich adborth i'n helpu i ddatblygu a gwella'n gwasanaethau
  • Dweud wrthych sut i gyflwyno cwyn os nad ydych yn hapus gydag un o'n gwasanaethau

Sut y byddwn yn delio â'ch pryderon?

Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddelio â'ch cwyn ar lafar y tro cyntaf yr ydych yn cysylltu â ni. Byddwch yn derbyn cadarnhad ein bod wedi derbyn eich cwyn ysgrifenedig o fewn 5 diwrnod gwaith.

Os bydd angen ymchwilio i gŵyn ymhellach, bydd y gŵyn yn cael ei chyfeirio at Reolwr ac mae'n bosib y bydd yn cysylltu â chi am wybodaeth bellach. Byddwn yn parhau i'ch hysbysu am yr hyn sy'n digwydd o ran datrys eich cwyn a'r amserlen gysylltiedig.

Anelwn at ddatrys cwynion o fewn 20 diwrnod gwaith. Os nad yw'n bosib inni wneud hyn, byddwn yn cysylltu â chi i drafod y camau nesaf a'r amserlen weithredu.

Os nad ydych yn hapus gyda'r canlyniad bydd y mater yn cael ei gyfeirio at Uwch Reolwr priodol a fydd yn adolygu'r archwiliad ac yn anfon ymateb ysgrifenedig atoch i gadarnhau sut y deuir â'r achos i ben.

Os na fyddwn yn llwyddo i ddatrys eich cwyn, fe allech chi gwyno wrth yr Ombwdsmon (dolen allanol).  Maent yn annibynnol o Gyrfa Cymru ac yn medru edrych ar eich cwyn. Fe allwch chi gyflwyno cwyn i'r Ombwdsmon os ydych chi'n credu eich bod ch'in bersonol, neu'r person y gwnaethoch chi gwyno ar ei ran wedi bod dan anfantais yn bersonol gan fethiant y gwasanaeth neu wedi cael ei trin yn annheg.

Iaith Gymraeg

Gallwch wneud cwyn i ni os byddwn ni'n methu â darparu gwasanaeth Cymraeg, neu os oes unrhyw un yn anfodlon gyda safon y gwasanaeth Cymraeg rydym yn ei ddarparu.

Gallwch hefyd wneud cwyn i Gomisiynydd y Gymraeg.

Byddwn yn delio â'r holl gwynion a dderbyniwn yn unol â’r dudalen Adborth a chwynion gan gynnwys y rhai a dderbyniwn mewn perthynas â'n methiant i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, Safonau Cyflenwi Gwasanaethau, Safonau Llunio Polisi a Safonau Gweithredu. Bydd ein harweinydd ar y Gymraeg yn ymwneud â phob cwyn sydd ynghlwm â Safonau’r Gymraeg a gwasnaethau a ddarperir yn Gymraeg. Ni fydd cwynion sy'n cael eu derbyn yn Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn wahanol o ran yr amseroedd ymateb.

Sut alla i gysylltu â Gyrfa Cymru?

Gellir rhoi canmoliaeth, sylwadau a chwynion i unrhyw aelod o staff yn y sefydliad. Caiff pob cwyn ei chofnodi'n ffurfiol yn syth. Gallwch ddweud wrthym beth rydych yn ei feddwl mewn sawl ffordd: