Cynnwys
Erthygl: Gwaith Gwirfoddol Dramor
Crynodeb
Mae’r erthygl hon yn ystyried beth ddylech ei ystyried os ydych yn meddwl gwneud gwaith gwirfoddol mewn gwlad arall.
Fideo - Various: Gwaith Gwirfoddol
Deall pam rydych yn gwirfoddoli
Hanfod gwirfoddoli yw gweithio oherwydd rheswm ac eithrio ennill arian. Mae’r rhan fwyaf o waith gwirfoddol dramor yn golygu rhannu sgiliau neu wybodaeth i helpu pobl eraill i helpu hwy eu hunain.
Mae’r rhan fwyaf o wirfoddolwyr sy’n dychwelyd o wlad dramor yn dweud y dylech wybod yn glir beth yw eich nodau - beth rydych yn gobeithio ei ennill yn sgil y profiad a beth allwch ei gyfrannu.
Mae rhai rhesymau cyffredin dros wirfoddoli dramor yn cynnwys:
- Helpu achos rydych yn credu’n gryf ynddo.
- Ennill profiad gwaith neu sgiliau eraill a allai fod yn ddefnyddiol yn eich gyrfa, megis y gallu i siarad iaith yn rhugl.
- Profi diwylliant arall, a datblygu dealltwriaeth trwy ddod i gysylltiad â phobl sy’n byw bywydau sy’n wahanol i’ch bywyd chi.
Tymor hir neu dymor byr?
Gall lleoliadau dramor gyda sefydliadau gwirfoddol fod yn rhai:
- tymor byr: ychydig wythnosau neu ychydig fisoedd
- tymor canolig: 6 – 12 mis
- tymor byr: blwyddyn, dwy flynedd neu ragor
Gall y cyfnod a dreuliwch dramor ddibynnu ar:
- ofynion y sefydliad y byddwch yn anfon cais ato
- yr amser sydd gennych
- y mathau o sgiliau a’r profiadau sydd gennych i’w cynnig
Pa sgiliau?
Yn gyffredinol, y bobl sy’n fwyaf tebygol o gael eu derbyn i wneud gwaith gwirfoddol tymor canolig neu dymor hir dramor yw’r rhai sydd â’r sgiliau a’r cymwysterau a geisir gan y sefydliad y byddant yn ymuno ag ef.
Mae ar rai sefydliadau angen pobl sydd â llawer iawn o gymwysterau a phrofiad (yn enwedig yn achos swyddi tymor canolig neu dymor hir, yn cynnwys:
- nyrsys
- meddygon
- athrawon
- peirianwyr
- arbenigwyr amaethyddol.
Mae gan sefydliadau eraill leoliadau i weithwyr di-grefft (swyddi tymor byr fel arfer) sydd â digonedd o egni a brwdfrydedd, a’r rhinweddau personol iawn.
Pa sefydliad?
Bydd llawer o sefydliadau yn anfon gwirfoddolwyr dramor. Gall eich penderfyniad i anfon cais at sefydliad penodol ddibynnu ar rôl y sefydliad, a sut byddwch chi’n credu y gallwch wneud cyfraniad gwerthfawr at ei waith.
Bydd y broses ymgeisio yn dibynnu ar y sefydliad. Mae gan rai ohonynt weithdrefnau dewis gweddol fanwl, yn cynnwys diwrnodau asesu a chyfweliadau.
Costau gwirfoddoli
Fel arfer, bydd sefydliadau sy’n recriwtio ymgeiswyr ar gyfer prosiectau tymor canolig a thymor hir yn talu’r rhan fwyaf o gostau: tocynnau hedfan, llety, ac yn aml iawn, incwm rheolaidd bychan. Ar y llaw arall, os byddwch yn cymryd rhan mewn prosiect tymor byr, efallai bydd rhaid i chi dalu eich costau eich hunain.
Gwaith cyflogedig i sefydliad gwirfoddol
Bydd rhai sefydliadau gwirfoddol yn recriwtio gweithwyr cyflogedig i weithio fel rhan o gontractau tramor, am gyfnod o ddwy neu dair blynedd fel arfer. Fel arfer, cynigir y swyddi hyn i bobl sydd â chymwysterau a phrofiad perthnasol.
Paratoi a hyfforddi
Bydd paratoi a hyfforddi yn dibynnu ar y gwaith byddwch yn ei wneud a’r sefydliad byddwch yn ymuno ag ef. Mae rhai sefydliadau yn rhedeg rhaglenni i’ch paratoi at y gwaith a’r amgylchiadau y gwnewch eu hwynebu.
Bydd y rhan fwyaf o sefydliadau yn cynnig, fel lleiafswm, cyngor a gwybodaeth ynghylch y math o waith y byddwch yn ei wneud, nodau’r sefydliad, ac awgrym ynghylch beth ddylech ei ddisgwyl wrth gyrraedd y wlad dramor.
Pa un ai a fyddwch yn ymuno â sefydliad neu’n teithio’n annibynnol, mae’n syniad da gwneud ychydig o waith ymchwil am y wlad y byddwch yn teithio iddi. Bydd angen i chi wybod am bethau fel arian, materion iechyd, trwyddedau gwaith, bwyd, cludiant ac arferion cymdeithasol.
Mae Gwefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn cynnig llawer o gyngor cyffredinol defnyddiol, a gwybodaeth am wledydd penodol.
Addasu
Gall symud i wlad arall fod yn gyffrous, ond efallai bydd angen ychydig o amser i ddod yn gyfarwydd â’ch ffordd o fyw newydd. Er enghraifft:
- efallai na fyddwch yn deall yr iaith
- efallai na fyddwch yn deall trefniadau lleol, er enghraifft, wrth ddelio â’r awdurdodau lleol
- gallai llety fod yn elfennol
- bydd y bwyd yn wahanol i’r hyn sy’n gyfarwydd i chi
- efallai bydd hi’n anodd cael gafael ar bethau megis llyfrau, cerddoriaeth a dillad
- efallai bydd disgwyl i chi gydymffurfio ag ymddygiad crefyddol neu ddiwylliannol penodol
- pan fyddwch yn dychwelyd adref, efallai bydd hi’n anodd i chi ymgyfarwyddo o’r newydd â’r pethau rydych yn eu cymryd yn ganiataol ar hyn o bryd
Rhinweddau personol
Bydd yn ddefnyddiol os ydych yn:
- annibynnol ac yn gallu gweithredu ar eich menter eich hun
- gallu cyd-dynnu ag eraill a gweithio mewn tîm
- barod i ddysgu’r iaith
- yn meddu ar agwedd hyblyg
- yn oddefgar, ac yn ymwybodol fod angen bod yn amyneddgar a doeth
- hunanddisgybledig as threfnus
- awyddus i geisio heriau newydd.
Trefniadau teithio
Yn aml iawn, bydd angen i chi wneud eich trefniadau teithio eich hunain. Wrth gwrs, bydd arnoch angen pasbort, ond hefyd, efallai bydd arnoch angen:
- teitheb
- trwydded waith
- trwydded breswylio
- brechiadau rhag clefydau
- arian lleol
- yswiriant iechyd a theithio.
Bydd rhai sefydliadau yn delio â’r holl faterion hyn ar eich rhan, ac efallai bydd eraill yn eich cynorthwyo try gynnig cyngor a gwybodaeth.
Gwybodaeth Bellach
Foreign & Commonwealth Office (FCO)
Cyfeiriad King Charles Street, London SW1A 2AH
Ffôn 020 7008 1500
E-bost fcocorrespondence@fco.gov.uk
Gwefan www.gov.uk/government/organisations/foreign-commonwealth-office
British Council
Cyfeiriad Bridgewater House, 58 Whitworth Street, Manchester M1 6BB
Ffôn 0161 9577755
E-bost general.enquiries@britishcouncil.org
Gwefan www.britishcouncil.org
Working Abroad
Cyfeiriad The Coombe, Spring Barn Farm, Kingston Road, Lewes BN7 3ND
Ffôn 01273 479047
E-bost info@workingabroad.com
Gwefan www.workingabroad.com
Volunteer Work Abroad (VSO UK)
Cyfeiriad 27a Carlton Drive, Putney, London SW15 2BS
Ffôn 020 8780 7500
E-bost enquiry@vso.org.uk
Gwefan www.vso.org.uk
Skillshare International
Cyfeiriad Imperial House, St Nicholas Circle, Leicester LE1 4LF
Ffôn 0116 2541862
E-bost info@skillshare.org
Gwefan www.skillshare.org
WorldWide Volunteering (WWV)
Ffôn 0117 955 9042
E-bost enquiry@step-together.org.uk
Gwefan www.wwv.org.uk