Cynnwys
Erthygl: Hunangyflogaeth
Crynodeb
Mae’r erthygl hon yn trafod:
- y sgiliau y mae arnoch eu hangen i ddod yn hunangyflogedig
- y mathau o fusnesau y gallech eu rhedeg
- y gwaith cynllunio y byddai angen i chi ei wneud cyn dod yn hunangyflogedig
- beth yw hanfodion busnes llwyddiannus.
Beth yw hunangyflogaeth?
Ystyr hunangyflogaeth yw gweithio i chi’ch hun yn hytrach na chyflogwr. Gallai olygu bod yn berchen ar a rhedeg eich busnes eich hun, neu gallech weithio ar eich liwt eich hun.
Pam fydd pobl yn dod yn hunangyflogedig?
Bydd rhai pobl yn dewis dod yn hunangyflogedig oherwydd mae ganddynt gynnyrch neu wasanaeth da y maent yn dymuno’i farchnata eu hunain. Bydd eraill yn dod yn hunangyflogedig oherwydd mae rhai cwmnïau yn cynnig contractau i’r sawl sy’n barod i weithio’n hunangyflogedig yn unig.
Yn gyffredinol, caiff pobl eu denu i fod yn hunangyflogedig gan y syniad o weithio iddynt hwy eu hunain a chael rhagor o hyblygrwydd ynghylch sut, ble a phryd byddant yn gweithio.
Fodd bynnag, nid yw dod yn hunangyflogedig yn benderfyniad rhwydd. Mae’n rhaid i chi fod yn ymroddedig iawn, oherwydd, yn gyffredinol, byddwch yn gweithio oriau hirach, fe gewch lai o wyliau a byddwch yn wynebu mwy o risgiau ariannol na phobl gyflogedig.
Mathau o fusnesau
Dyma restr o rai gwahanol fathau o fusnesau:
- mae’n debyg mai masnachu unigol yw’r ffordd rwyddaf o sefydlu busnes. Bydd masnachwyr unigol yn sefydlu eu busnes eu hunain ac yn masnachu o dan eu henw eu hunain
- mae partneriaeth busnes yn golygu sefydlu busnes trwy bartneriaeth â rhywun arall
- mae mwy nag un math o gwmni cydweithredol. Mae enghreifftiau cyffredin yn cynnwys cwmnïau cydweithredol gweithwyr a chwmnïau cydweithredol cymunedol. Mae cwmni cydweithredol yn eiddo i'r gweithlu cyfan ac yn cael ei reoli gan y gweithlu
- sefydlir masnachfraint pan fydd cwmni yn rhoi hawl i unigolyn (neu grwp o unigolion) fasnachu gan ddefnyddio enw’r cwmni hwnnw a gwerthu ei gynnyrch. Mae enghreifftiau o fasnachfreintiau enwog yn cynnwys The Body Shop, Subway a chwmnïau ITV
Sgiliau i fod yn hunangyflogedig
Nid yw hunangyflogaeth yn addas i bawb. Bydd angen i chi ystyried a phenderfynu a oes gennych y sgiliau y bydd arnoch eu hangen i lwyddo. Bydd angen i chi:
- fod yn fentrus
- credu yn eich gallu i wneud i’r busnes lwyddo
- bod yn llawn cymhelliant
- bod yn fodlon gweithio oriau hir
- bod yn annibynnol.
- bod yn barod i weithio'n galed!
Gall rhedeg busnes achosi llawer o straen, felly rhaid i bobl hunangyflogedig fod yn ddigon cryf i ymdopi pan aiff pethau o chwith.
Beth yw hanfod busnes llwyddiannus?
I sicrhau fod busnes yn llwyddiannus, rhaid iddo gynnig cynnyrch neu wasanaeth y mae ar bobl ei angen neu ei eisiau. Mae’n bwysig hefyd fod y busnes yn ‘marchnata’ ei hun yn dda, fel bydd pobl yn gwybod am y cynnyrch neu'r gwasanaeth ac yn cael eu hannog i'w brynu.
Beth sydd angen i chi ystyried
Mae angen i chi ymchwilio i’ch marchnad, i gael awgrym o faint o bobl fyddai'n ymddiddori yn y cynnyrch neu'r gwasanaeth y byddech yn ei ddarparu.
Bydd angen i chi gyfrifo hefyd faint fyddai cwsmeriaid yn fodlon talu. Bydd angen i chi gyfrifo costau pethau megis:
- cynhyrchu eich cynnyrch neu redeg y gwasanaeth
- rhentu, gwresogi a goleuo rhywle ble gellir rhedeg y busnes
- offer, stoc a threuliau rheolaidd eraill.
Codi cyfalaf
Cyfalaf yw’r enw am yr arian y bydd arnoch ei angen i sefydlu busnes a’i redeg. Fe wnaiff y rhan fwyaf o fusnesau fenthyg arian i chi os byddant yn credu y bydd y busnes yn broffidiol. I fenthyca symiau mawr o arian, efallai bydd angen i chi holi banc masnachol neu asiantaeth sy'n arbenigo mewn cyfalaf menter.
Ymddiriedolaeth y Tywysog
Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog yn cynnig cyngor, grantiau a benthyciadau llog isel i bobl ifanc sydd â syniadau da ynghylch cychwyn eu busnes eu hunain.
Bydd yn ystyried pobl sydd yn:
- 18-30 mlwydd oed
- di-waith, neu’n gweithio llai nag 16 awr yr wythnos
- byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon.
Pwy ddylech hysbysu
Pan fyddwch yn sefydlu eich busnes eich hun, bydd angen i chi hysbysu amrywiaeth o bobl, yn dibynnu ar natur eich busnes. Dylech ofyn am gyngor ynghylch pa rai o'r canlynol y bydd angen i chi eu hysbysu a pham.
- Cyllid a Thollau EM ynghylch treth incwm, Yswiriant Gwladol a chofrestru TAW.
- Adran iechyd yr amgylchedd yn eich
awdurdod lleol>. - Y Gwasanaeth Tân.
Pwy ddylech ei hysbysu
Pan fyddwch yn sefydlu eich busnes eich hun, bydd angen i chi hysbysu amrywiaeth o bobl, yn dibynnu ar natur eich busnes. Dylech ofyn am gyngor ynghylch pa rai o'r canlynol y bydd angen i chi eu hysbysu a pham.
- Cyllid a Thollau EM ynghylch treth incwm, Yswiriant Gwladol a chofrestru TAW
- adran iechyd yr amgylchedd yn eich awdurdod lleol
- y Gwasanaeth Tân
Gwybodaeth Bellach
HM Revenue & Customs (HMRC)
Gwefan www.gov.uk/government/organisations/hm-revenue-customs
Businesses and Self-Employed
UK government services and information
Gwefan www.gov.uk/browse/business
Prince's Trust
Cyfeiriad 18 Park Square East, London NW1 4LH
Ffôn 0800 842842
E-bost webinfops@princes-trust.org.uk
Gwefan www.princes-trust.org.uk
SFEDI Awards
Cyfeiriad Enterprise House, 18 Parsons Court, Welbury Way, Aycliffe Business Park, Durham DL5 6ZE
Ffôn 0845 2245928
E-bost customerservice@sfediawards.com
Gwefan www.sfediawards.com