Sut i ddewis pwnc neu gwrs
Ydych chi’n dewis pynciau ym mlwyddyn 9? Ydych chi’n edrych ar gyrsiau prifysgol? Ydych chi’n meddwl am ddysgu i gefnogi’ch gyrfa neu bleser?
Mae gennym ni rai awgrymiadau a gwybodaeth i’ch helpu i wneud dewisiadau llwyddiannus.
- Gwnewch eich ymchwil. Ceisiwch gael gwybod cymaint â phosibl am y cwrs neu’r pwnc. Hyd yn oed os ydych wedi astudio’r pwnc o’r blaen, peidiwch â chymryd yn ganiataol eich bod yn gwybod popeth amdano. Mae eich ffynonellau gwybodaeth yn cynnwys:
- Y rhyngrwyd sy’n rhoi mynediad hawdd i wybodaeth. Gall eich galluogi hefyd i ofyn cwestiynau i gynfyfyrwyr ac arbenigwyr drwy e-bost, blog, sgwrs ar-lein ac ati.
- Myfyrwyr eraill sy’n ffynhonnell o wybodaeth werthfawr yn enwedig os ydych yn gwneud dewisiadau yn yr ysgol neu’r coleg.
- Tiwtoriaid ac athrawon yw arbenigwyr y cwrs fel arfer. Manteisiwch ar ddiwrnodau neu nosweithiau agored.
- Dewis rhydd. Os oes gennych yrfa mewn golwg, gwiriwch y cymwysterau derbyn. Mae gennym wybodaeth ar gannoedd o swyddi ar ein gwefan.
- Cyllid. Dyw dysgu ddim bob amser am ddim ond gall cymorth a chyllid fod ar gael i chi. Cymerwch olwg ar yr adran gyllid.
- Gofynion derbyn. Gwiriwch fanylion cwrs i ddarganfod pa gymwysterau mynediad sydd eu hangen arnoch i ddechrau’r cwrs. Os nad ydych yn sicr a fydd eich cymwysterau yn dderbyniol ai peidio, cysylltwch â thiwtor y cwrs.
- Mwynhad. Allwch chi fyw gyda’r pwnc neu gwrs am flwyddyn neu ddwy (neu fwy ar gyfer rhai cyrsiau)? Ceisiwch gael gwybod cymaint â phosibl am y pwnc neu’r cwrs i’ch helpu i benderfynu a fyddwch yn mwynhau eich astudiaethau.
- Cefnogaeth. Siaradwch â’ch teulu a ffrindiau am eich dewisiadau. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych mewn addysg amser llawn neu’n bwriadu dychwelyd i ddysgu amser llawn.