Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Opsiynau pwnc blwyddyn 8 a 9

Ydych chi'n ystyried pa bynciau i'w dewis yn yr ysgol? Gallwn ni eich helpu chi gyda'r penderfyniad pwysig hwn.

Gall y pynciau rydych chi'n eu dewis a'r graddau a gewch effeithio ar:

  • Y chweched dosbarth neu'r coleg y byddwch chi’n ei ddewis
  • Pa bwnc, cwrs a chymwysterau y gallwch eu gwneud nesaf neu yn nes ymlaen yn y brifysgol
  • Pa brentisiaethau y gallwch chi wneud cais amdanyn nhw
  • Pa swydd y gallwch chi ei gwneud yn y dyfodol

Cwestiynau pwysig y gallech chi fod yn eu gofyn

Sut ydw i'n penderfynu ar y pynciau i'w hastudio?

Y peth cyntaf i gofio yw pwyllo. Rydych chi'n gwneud penderfyniad mawr felly mae'n bwysig peidio â rhuthro.

Pwyllwch, er mwyn:

  • Casglu cymaint o wybodaeth â phosib
  • Pwyso a mesur yn ofalus
  • Cofio gwrando ar gyngor gan athrawon, rhieni a chynghorwyr
  • Meddwl am y ffordd rydych chi'n dysgu orau - ydych chi'n fwy 'ymarferol' ac yn well gennych chi ddysgu drwy wneud neu oes well gennych chi wrando, siarad ac ysgrifennu?
  • Gwneud rhestr fer o bynciau
  • Meddwl am fanteision ac anfanteision pob pwnc
  • Gwneud eich penderfyniad eich hun - peidiwch â gadael i eraill ddylanwadu arnoch chi

Cofiwch, dewiswch bynciau oherwydd:

  • Eich bod yn dda yn y pynciau hynny
  • Rydych chi'n eu mwynhau
  • Mae'n gweddu i'r ffordd rydych chi'n dysgu orau
  • Mae angen y pynciau neu fe fyddan nhw’n ddefnyddiol ar gyfer eich syniad am yrfa
  • Byddan nhw’n gymorth i ddatblygu sgiliau fel llythrennedd, rhifedd, datrys problemau a mwy

Gair i Gall:

  • Gofynnwch i athrawon pwnc a'ch tiwtor am ragor o wybodaeth, er enghraifft yr hyn y byddwch chi’n ei astudio a sut fyddwch chi’n dysgu
  • Chwiliwch am ragor o wybodaeth am bynciau y gallwch eu dewis o wefan neu lyfryn opsiynau eich ysgol
  • Os ydy’ch ysgol chi yn cynnal noson opsiynau Blwyddyn 8 a 9, gwnewch yn siŵr eich bod yn mynychu er mwyn casglu gwybodaeth gan athrawon pwnc
  • Defnyddiwch ein Cwis Paru Gyrfa i archwilio gwahanol bynciau a'r swyddi y gallan nhw arwain tuag atyn nhw
  • Efallai y bydd disgyblion ym mlwyddyn 10 neu 11 eisoes yn astudio'r pynciau hyn – gofynnwch iddyn nhw sut maen nhw’n mwynhau’r pwnc
Pa bynciau sy'n orfodol?

Mae pynciau gorfodol yn golygu bod yn rhaid i chi eu dewis nhw oherwydd eu bod yn meithrin y sgiliau y bydd eu hangen arnoch chi yn y dyfodol, fel llythrennedd a rhifedd.

Rhaid i chi ddewis:

  • Cymraeg Ail Iaith (ysgolion cyfrwng Saesneg)
  • Cymraeg Iaith Gyntaf (ysgolion cyfrwng Cymraeg)
  • Gwyddoniaeth
  • Mathemateg
  • Saesneg

Mae gan rai ysgolion bynciau gorfodol eraill, er enghraifft Addysg Grefyddol, Bagloriaeth Cymru, a TGCh.

Mae'r pynciau hyn fel arfer yn cael eu hastudio fel cymwysterau TGAU, ond gellir eu hastudio nhw hefyd ar lefelau eraill fel Lefel Mynediad.

Gwyddoniaeth

Bydd gwyddoniaeth yn gymorth i chi ddeall y byd o'ch cwmpas, yn enwedig wrth i dechnoleg ddatblygu, a bydd yn rhoi sgiliau i chi fel datrys problemau y bydd eu hangen ym mha bynnag swydd y cewch chi.

Mae angen Gwyddoniaeth ar gyfer llawer o gyrsiau a swyddi. Gwiriwch pa bynciau y gallai fod eu hangen arnoch chi ar gyfer eich syniadau gyrfa yn Gwybodaeth am Swyddi.

Y Gymraeg

Gall sgiliau’r Gymraeg roi mantais i chi yn y gweithle yng Nghymru, yn enwedig mewn swyddi sy'n gweithio gyda phobl ifanc, fel addysgu. Gwiriwch pa ddiwydiannau a swyddi sydd angen sgiliau’r Gymraeg yn Gwybodaeth am Swyddi. Dysgwch pam mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi Sgiliau’r Gymraeg yn y gweithle.

Saesneg a Mathemateg

Dyma'r pynciau sydd eu hangen fwyaf ar gyfer cyrsiau a chyflogwyr. Gwnewch eich gorau mewn Saesneg a Mathemateg i wella eich cyfle chi o gael swydd neu le ar gwrs yn nes ymlaen.

Beth yw’r pynciau dewisol?

Mae'r rhain yn bynciau y gallwch chi eu dewis. Bydd eich dewis o bynciau yn dibynnu ar eich ysgol, ond rhaid cynnig o leiaf un dewis i chi o bob un o'r grwpiau hyn o bynciau:

  • Celfyddydau a Chreadigol (fel Celf a Dylunio, Cerddoriaeth, Dawns, Drama a Chelfyddydau'r Cyfryngau)
  • Dylunio a Thechnoleg (fel Dylunio a Thechnoleg, TGCh neu Electroneg)
  • Dyniaethau (fel Addysg Grefyddol, Hanes a Daearyddiaeth)
  • Ieithoedd Tramor Modern (fel Ffrangeg, Sbaeneg neu Almaeneg)

Cadw cydbwysedd; cadwch eich opsiynau yn agored. Nid yw'n hanfodol eich bod chi’n dewis pwnc o bob maes ond bydd sicrhau cydbwysedd da o bynciau yn cadw eich opsiynau yn agored ar gyfer eich dyfodol.

Bydd pob ysgol yn cynnig ystod ychydig yn wahanol o bynciau a chyrsiau. Bydd eich ysgol chi yn rhoi rhestr o bynciau i chi ac yn dweud wrthych chi pa ddewisiadau y gallwch eu gwneud. Os nad yw hyn wedi digwydd eto, gofynnwch i'ch tiwtor pryd y byddwch chi’n cael mwy o wybodaeth.

Pan fyddwch chi’n derbyn eich gwybodaeth opsiynau, gwnewch yn siŵr:

  • Eich bod chi’n deall yr hyn sydd angen i chi wneud
  • Eich bod chi'n gwybod pa ddewisiadau y gallwch chi eu gwneud
  • Eich bod chi’n ymwybodol o'r dyddiad pan fydd angen i chi wneud penderfyniad

Siaradwch â'ch tiwtor neu’ch pennaeth blwyddyn os ydych chi wedi drysu. Gallwch hefyd gysylltu gyda Gyrfa Cymru er mwyn siarad â chynghorydd gyrfa.

Archwilio eich syniadau gyrfa

Cysylltu

Gallwn eich cefnogi a rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i chi wrth i chi ddewis eich pynciau. Os hoffech chi gymorth, siaradwch â'ch cynghorydd gyrfa yn yr ysgol neu gallwch gysylltu â ni.

Efallai y byddwn ni’n cysylltu â chi mewn amryw ffyrdd gwahanol i gynnig cymorth a chefnogaeth, gan gynnwys yn bersonol, dros y ffôn, drwy e-bost a thrwy neges destun. Os nad ydych chi am i ni gysylltu â chi, rhowch wybod i'ch cynghorydd gyrfa yn yr ysgol neu gallwch gysylltu â ni i roi gwybod i ni.

Cysylltu â ni

Os hoffech chi siarad â ni, cysylltwch â ni i gael mwy o help a chymorth

Pa fanylion sydd gennym ni a pham?

Er mwyn i ni ddarparu ein gwasanaethau, mae'n angenrheidiol i ni gadw data personol am y bobl rydym ni’n gweithio gyda nhw.

I'ch helpu chi i gynllunio eich dyfodol byddwn ni’n cadw gwybodaeth a all gynnwys eich enw, cyfeiriad cartref, pynciau rydych chi’n eu hastudio, canlyniadau arholiadau, profiad gwaith, unrhyw syniadau sydd gennych chi am eich addysg neu eich gyrfa yn y dyfodol, manylion unrhyw anghenion cymorth sydd gennych chi a manylion cyswllt i chi a'ch rhiant / gwarcheidwad.

Efallai y byddwn ni’n rhannu / derbyn data personol amdanoch chi gyda / gan eich ysgol, colegau, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau eraill a allai fod o gymorth i chi gyda'ch cynlluniau gyrfa yn y dyfodol.

Rydym ni’n trin data personol gyda pharch. Dysgwch fwy yn ein hysbysiad preifatrwydd.

Show more

Gwyliwch y fideos

Archwilio ymhellach

Cael gwybodaeth am gymwysterau

Deallwch lefelau cymhwyster a pham maen nhw'n bwysig. Dysgwch am gymwysterau, gan gynnwys NVQ, TGAU, BTEC, Safon Uwch, graddau a HND.

Posteri pwnc

Archwilio rhai o'r swyddi sy'n gysylltiedig â phynciau gwahanol

Gwybodaeth i rieni a gwarcheidwaid

Rhieni

Sicrhewch fod gwybodaeth, adnoddau ac awgrymiadau gyda chi i helpu'ch plentyn i wneud penderfyniadau gyrfa a dysgu mwy am y gefnogaeth a gynigir gennym wrth i'ch plentyn fynd o addysg i gyflogaeth.