- Rydych chi yma:
- Hafan
Home

Drama ac actio
Taflen Q 01Mae gweithio fel actor yn gystadleuol, yn gofyn llawer ac yn aml yn ansicr, ond i nifer o bobl mae'n yrfa sy'n cynnig her, a bydden nhw wrth eu bodd yn ei gwneud. Ychydig iawn o bobl all gyrraedd y brig - ond wedyn nid bod yn seren yw nod pawb. Mae'r gofynion ar gyfer cyrsiau mewn coleg drama yn amrywio ond efallai y bydd angen cymwysterau Lefel A, neu gymwysterau cyfwerth.
Actio proffesiynol
O'r tu allan, gall ymddangos bod actio yn broffesiwn hudolus
sy'n arwain at ddull o fyw deniadol! Mewn gwirionedd, bydd y rhan
fwyaf o actorion (dynion neu fenywod) yn cael eu gwrthod llawer ac
yn profi cyfnodau hir rhwng swyddi actio. Pan fydd actor yn cael
rhan , efallai y bydd yn golygu oriau hir ac anghymdeithasol. Nid
yw llawer o actorion yn gwneud digon o arian i allu byw trwy
actio'n unig, a bydd rhaid iddynt ennill bywoliaeth mewn ffordd
arall.
Rhaid i actorion fod yn fedrus ac yn ddawnus. Rhaid iddyn nhw
fod â digon o stamina, ymroddiad a hunanddisgyblaeth hefyd. Yn
ogystal â chofio llinellau a symudiadau, mae'n bosib y bydd yn
rhaid i actorion ymchwilio ac ymarfer newid acen neu wahanol
ystumiau, a sut maen nhw'n edrych. Mae'n rhaid i actorion weithio i
amserlenni tynn, a doed a ddelo mae'n rhaid iddynt fod yn barod pan
fydd y llenni'n codi. Ni allwch golli ymarferion a pherfformiadau
oni bai eich bod ar eich gwely angau! Nid yw actor neu actores
annibynadwy yn cael gwaith. Mae gofyn bob amser am ymddwyn yn
gyfrifol iawn tuag at eich cyd-berfformwyr a'r cynhyrchiad. Er
gwaethaf hyn i gyd, bydd actorion sy'n llwyddo i wneud bywoliaeth
yn dweud wrthych ei bod yn yrfa wych! Ac fel arfer mae'n yrfa lle
gallwch barhau i weithio pan fyddwch chi'n hen, os byddwch chi am
wneud hynny. Mae rhai actorion yn troi at gyfarwyddo neu
ysgrifennu.
Ble mae actorion yn gweithio?
- Mewn cynyrchiadau ar gyfer y teledu- yn cynnig cyfleoedd ar gyfer rhannau mawr a bach, rhannau fel rhodwyr ac 'ecstras', gwaith styntwyr a hysbysebion.
- I theatrau cwmnïau rhanbarthol , cwmnïau teithiol bach, cwmnïau theatr ymylol a chwmnïau theatr mewn addysg - mae'r gwaith hwn yn gofyn llawer o ran y sgiliau perfformio ac ymroddiad. Mae rhai actorion ifanc yn dechrau allan mewn cwmnïau theatr rhanbarthol sy'n cynnig tymhorau byr o ffarsiau, dramâu ias a chyffro, dramâu cyfoes a chlasuron. Mae rhai cwmnïau'n cynnig cytundebau cymharol hir dymor.
- Mewn sioeau a dramâu mewn theatrau mawr- mewn dinasoedd a threfi, gan gynnwys West End Llundain. Fodd bynnag, dros y blynyddoedd diwethaf, mae pwysau economaidd wedi effeithio ar faint y cast a chyfleoedd gwaith hefyd.
- Mewn ffilmiau- mae'r diwydiant ffilmiau yn y DU wedi ennill enw da ar draws y byd am nifer o gynyrchiadau ardderchog gan wneuthurwyr gweddol fach yn y DU. Os ydych chi'n awyddus i fod yn 'ecstra' ar ffilm, mae cael gwaith yn fater o lwc i raddau helaeth - bod yn y lle iawn ar yr adeg iawn. Gallech ofyn i un o'r asiantaethau sy'n cyflenwi ecstras ond gofynnwch beth maen nhw'n ei gynnig. Os ydyn nhw'n codi tâl am ymuno a nhw, holwch beth yn union fyddan nhw'n ei wneud am y tâl hwnnw. Weithiau bydd cwmnïau ffilm yn cysylltu â grwpiau drama lleol i gael ecstras. Gallan nhw hefyd hysbysebu yn y wasg leol neu yn The Stage (gweler diwedd y daflen).
- Mewn cynyrchiadau drama radio- mae yna gyfleoedd o hyd ar lefel genedlaethol a rhanbarthol.
- Gwneud gwaith amrywiol arall- yn cynnwys cyflwyno teledu a radio, dybio, trosleisio, hysbysebion, adloniant ar longau neu mewn clybiau, fideos hyfforddi.
Gwaith styntiau
Mae styntiau'n cael eu cynhyrchu gan ddefnyddio cyfrifiaduron yn fwyfwy aml heddiw, am resymau ariannol ac oherwydd diogelwch. O ganlyniad, mae'r gwaith sydd gan styntwyr yn lleihau. Mae styntwyr yn gweithio ar eu liwt eu hunain, felly mae'u cyflogau'n amrywio yn ôl eu sgiliau a'u profiad. Mae styntiwr yn berfformiwr ac yn dechnegydd hefyd - hynny yw, mae'n cymysgu sgiliau dramatig â champau technegol. Bydd ganddynt lawer o sgiliau a all gynnwys gyrru, parasiwtio, marchogaeth, gymnasteg, crefft ymladd a phlymio. Mae styntwyr a chydlynwyr styntiau yn aml yn sefydlu styntiau ac yn cynnal gwiriadau ar y cyfarpar y'u defnyddir, felly rhaid bod ganddynt ddealltwriaeth dechnegol dda o'r hyn sy'n digwydd - gan gynnwys onglau ffilmio'r camerâu ac ati. Rhaid i styntwyr fod yn gorfforol iach ac yn actif, a rhaid iddynt allu ymateb yn gyflym. Mae hyd yr yrfa'n fyr ac yn gystadleuol, a gall y gwaith fod yn anghyfforddus ac yn beryglus. Ar ôl 'ymddeol' o waith fel styntiwr, efallai y bydd modd troi i wneud gwaith fel trefnydd neu gydlynydd styntiau.
Mae cynhyrchwyr ffilm a theledu yn defnyddio cofrestr y Joint
Industry Stunt Committee i gael manylion styntwyr a chydlynwyr
styntiau. Mae'r mwyafrif o bobl yn dechrau trwy gofrestru fel aelod
ar brawf. I symud ymlaen i aelodaeth ganolradd rhaid treulio o
leiaf tair blynedd fel aelod ar brawf, bodloni meini prawf
graddio'r gofrestr a chael eich asesu i sicrhau'ch bud wedi
cyrraedd y safon ofynnol. Aelodaeth lawn yw'r categori aelodaeth
terfynol. Byddwch yn wyliadwrus o gyflogwyr sy'n edrych am
berfformwyr anghofrestredig. I gael gwybodaeth bellach edrychwch ar
: wwww.jigs.org.uk
cblake@equity.org.uk
Equity
Er nad yw'n hollol angenrheidiol perthyn i Equity, sef undeb yr actorion, mae gan y rhan fwyaf o gyflogwyr gytundebau castio ag Equity, felly mae aelodaeth bron â bod yn hanfodol. Trwy fod yn aelod, gallwch gael cymorth a chyngor gyda chontractau, tâl ac ati a gallwch gael yswiriant perthnasol hefyd.
Gall myfyrwyr ar gyrsiau addysg uwch llawn amser sy'n para
blwyddyn neu fwy mewn perfformio neu bwnc cysylltiedig ymuno fel
aelodau myfyrwyr pan fyddant yn dechrau ar eu cwrs. Gall pobl sy'n
llwyddo i gwblhau cwrs galwedigaethol yn un o 22 aelod-sefydliad y
Conference of Drama Schools (CDS) ymuno ar ôl graddio. Ymhlith
ffyrdd eraill i ddod yn aelod o Equity mae dod yn ganwr neu
ddawnsiwr, neu gael swydd gydag un o'r cwmnïau theatr bach
ymylol amgen a'r cwmnïau theatr plant. Os byddwch chi'n
gweithio i gwmni nad yw'n gysylltiedig ag Equity, efallai na
fyddwch chi wedi'ch amddiffyn ac efallai y byddwch chi'n agored i
gael eich ecsbloetio.
Fodd bynnag, nid yw bod yn berchen ar gerdyn Equity yn
gwarantu gwaith. I gael gwaith actio, bydd angen ichi argyhoeddi
cyfarwyddwr mewn clyweliad eich bod yn gallu actio. Yn gyffredinol
mae'n well gan gyflogwyr gyflogi perfformwyr sydd â phrofiad
proffesiynol ymlaen llaw, ac sy'n aelodau o Equity. Nid yw hyn yn
ei gwneud yn hawdd cael gwaith, ond mae'n sicrhau ei bod yn bosibl
cynnal safonau gofynnol penodol o ran cyflog ac amodau. Mae Equity
yn trafod telerau ar gyfer isafswm cyflogau actorion; gellir cael
mwy o wybodaeth gan Equity ac wrth edrych ar eu gwefan (gweler
diwedd y daflen).
Gyrfaoedd cysylltiedig
Mae yna lawer o gyfleoedd heblaw perfformio. Mae'r rhain yn cynnwys cynhyrchu, rheoli llwyfan, cyfarwyddo, rheoli neu weinyddu theatr, goleuo, gwisgoedd, colur, dylunio ac adeiladu setiau ac ati. Gwelwch y taflenni eraill yn y gyfres hon i gael mwy o wybodaeth.
Dysgu drama
Gall athrawon drama weithio mewn ysgolion gwladol ac mewn ysgolion annibynnol lle mae drama yn rhan o'r cwricwlwm. Mae angen Statws Athro Cymwys arnoch i weithio mewn ysgolion gwladol. Mae llawer o athrawon drama yn aml yn cynnig pwnc dysgu arall - Saesneg yn aml ond ddim o anghenraid. Ar wahân i ysgolion mae yna gyfleoedd mewn colegau addysg bellach, sefydliadau addysg uwch, ysgolion drama arbenigol, grwpiau theatr, gweithdai theatr ieuenctid a chanolfannau celfyddydau.
Therapi drama
Bydd therapyddion drama yn defnyddio technegau actio i helpu pobl sydd wedi dioddef trawma, pobl â phroblemau iechyd meddwl a phobl ag anableddau dysgu. Trwy ddrama, gall pobl fynegi agweddau ar eu problemau sy'n gallu bod yn anodd iddynt ei wneud fel arall. Mae rhai therapyddion drama yn cael eu cyflogi gan y GIG, mae eraill yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau yn cynnwys mewn carchardai, lleoliadau addysg arbennig, gwasanaethau cymdeithasol a'r sector gwirfoddol. Gweler taflen JG 01 am fwy o fanylion.
Addysg a hyfforddiant
Lle i gychwyn...
Mae cystadleuaeth frwd ar gyfer lleoedd mewn ysgol ddrama ac, fel arfer, po fwyaf y profiad sydd gennych cyn gwneud cais, gorau fydd eich cyfle o gael lle. Os ydych yn yr ysgol o hyd, sicrhewch eich bod yn manteisio ar gyfleoedd mewn sioeau ysgol wrth gwrs, ac ymuno ag unrhyw grwpiau drama yn yr ysgol. Y tu allan i'r ysgol, mae'n bosibl bod yna theatr ieuenctid lleol neu grŵp drama, neu weithdai theatr yn rhedeg ar benwythnosau neu yn ystod y gwyliau. Mae cyfleoedd o'r fath yn cynnig mewnwelediad hanfodol i berfformio a rheoli llwyfan - ac maen nhw hefyd yn gyfle da i gymdeithasu a chael hwyl!
Mae'r National Youth Theatre yn cynnal clyweliadau ar gyfer pobl ifanc rhwng 13 a 21 oed yn ystod hanner tymor mis Chwefror bob blwyddyn. Os byddwch chi'n llwyddiannus, cewch gynnig lle ar gwrs actio haf. Ar ôl mynychu cwrs o'r fath, gallwch fynd i gyfweliad amran yng nghynyrchiadau'r NYT. Mae gyrfaoedd actio llawer o bobl wedi cychwyn yn y modd hwn.
Yn ogystal â cheisio cael profiad o berfformio, ceisiwch fynd i weld rhywfaint o theatr fyw hefyd, os gallwch chi. Oherwydd bod actio'n alwedigaeth lle mae'n anodd cael eich traed trwy'r drws, a chael gwaith rheolaidd, fe'ch cynghorir i addysgu'ch hun yn gyffredinol i'r lefel uchaf posibl cyn dechrau hyfforddi fel actor proffesiynol.
Cyrsiau lefel 3
Mae llawer o golegau addysg bellach a rhai ysgolion yn cynnig cymwysterau BTEC Cenedlaethol Lefel 3yn y celfyddydau perfformio. Mae'r cyrsiau hyn yn eang ac ymarferol, gyda llwybrau actio. Fel arfer, bydd arnoch angen pedwar cymhwyster TGAU graddau A*-C neu gyfwerth i gael eich derbyn ar y cwrs. Hefyd, mae yna gymwysterau lefel A/AS yn y celfyddydau perfformio neu astudiaethau drama a theatr. Os ydych chi'n byw yn Lloegr, mae rhai ysgolion a cholegau'n cynnig y Diploma Uwch yn y cyfryngau a'r diwydiannau creadigol, a all fod yn berthnasol.
Hyfforddiant proffesiynol
Mae'r rhan fwyaf o actorion proffesiynol yn hyfforddi trwy'r
llwybr
ysgol ddrama. Mae ysgolion drama yn cynnig cyrsiau
diploma a gradd sy'n para hyd at dair blynedd. O'r 20+ aelod o
Gynhadledd Ysgolion Drama, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn cynnig
cyrsiau gradd mewn actio. Achredir mwyafrif y cyrsiau gan y Cyngor
Cenedlaethol dros Hyfforddiant Drama (NCDT).
Mae hefyd cyrsiau gradd a diploma arbenigol ar gael mewn
cyfarwyddo a theatr dechnegol/rheoli llwyfan mewn nifer o'r
ysgolion drama.
Gall y Gynhadledd Ysgolion Drama a'r NCDT ddarparu gwybodaeth
am ysgolion drama a chyrsiau a achredir. Fel y soniwyd uchod, mae
llawer o gystadleuaeth am fynediad; ar rai cyrsiau achrededig, dim
ond un lle sydd ar gyfer pob 50 ymgeisydd. Wrth ddewis ysgol,
ceisiwch wybodaeth am y dulliau o addysgu - gall y dull o hyfforddi
actorion amrywio o'r naill le i'r llall. Ceisiwch wybodaeth hefyd
am gyrchfannau myfyrwyr a cheisiwch fynychu cynyrchiadau myfyrwyr.
Byddwch yn ofalus gyda chyrsiau drud mewn ysgolion drama
anachrededig.
Mae ysgolion drama yn derbyn myfyrwyr ar gyfer cyrsiau actio
tair blynedd i fyfyrwyr 18 oed a hŷn, neu raddedigion ar gyfer
mynediad i gyrsiau ôl-raddedig. Bydd eich cais yn dibynnu'n
bennaf ar eich clyweliad, ond dylech wirio unrhyw ofynion mynediad
penodol gydag ysgolion drama unigol. Gall fod angen cymwysterau
lefel A neu gyfwerth ar gyfer cyrsiau sy'n arwain at radd.
Gwiriwch yr union ofynion mynediad yn ofalus. Nid yw'n
hanfodol eich bod wedi astudio drama neu berfformio fel pwnc
academaidd er mwyn cael lle mewn ysgol ddrama.
Medrwch ennill cymhwyster mewn ymladd llwyfan trwy'r British
Academy of Stage & Screen Combat neu'r British Academy of
Dramatic Combat. Am fanylion gweler:
http://www.bassc.org/http://www.badc.co.uk/
Cyrsiau gradd eraill
Ar wahân i fynd i ysgol ddrama, mae hefyd yn bosibl dilyn cwrs gradd mewn drama/y celfyddydau perfformio yn y coleg neu'r brifysgol. Fodd bynnag, mae'r cyrsiau hyn yn fwy academaidd yn gyffredinol - nid hyfforddi pobl i fod yn actorion yw eu prif nod. Felly bydd angen hyfforddiant galwedigaethol pellach mewn ysgol ddrama ar raddedigion o'r cyrsiau hyn, megis cwrs ôl-raddedig sy'n para am flwyddyn, cyn y gallant ddechrau gweithio fel actorion proffesiynol.
Bob blwyddyn mae UCAS yn cynnal arddangosfa Compose your futureyn Coventry lle ceir gwybodaeth ar gyrsiau celfyddydau perfformio. Mae digwyddiad 2011 ym Manceinion ar 17 Hydref.
Cyrsiau ôl-raddedig
Ceir cyrsiau ôl-raddedig a achredir gan NCDT mewn actio a rheoli llwyfan sy'n addas i'r rheiny sydd eisoes yn meddu ar radd (mewn unrhyw bwnc) neu sydd â phrofiad proffesiynol perthnasol. Mae cyrsiau hyfforddi athrawon ôl-raddedig mewn drama ar gael hefyd mewn nifer o brifysgolion. Er mwyn hyfforddi fel athro mewn ysgolion gwladol, mae'n rhaid cael graddau TGAU A*-C mewn mathemateg a Saesneg/Cymraeg a hefyd gwyddoniaeth i addysgu mewn ysgol gynradd.
Cyllid ar gyfer hyfforddi
Mae sawl ffordd o ariannu cyrsiau actio, rheoli llwyfan neu waith theatr technegol.
- Mae'r rheini sy'n dilyn cwrs gradd mewn prifysgol neu ysgol ddrama a ddilysir gan brifysgol, yn dod o dan yr un trefniadau ariannol â myfyrwyr mewn unrhyw bwnc gradd arall. Am fwy o wybodaeth gwelwch y daflen 2.33 yn y gyfres hon.
- Mae cyllid ar gael trwy'r cynllun Gwobrau Dawns a Dramaar gyfer myfyrwyr ar rai cyrsiau drama penodol mewn ysgolion drama achrededig - gweler isod.
- Gall israddedigion o sefydliadau'r Conservatoire Dawns a Drama fod yn gymwys ar gyfer Bwrsariaeth Conservetoire. Am wybodaeth, gweler: www.cdd.ac.uk
- Nid yw'r wladwriaeth yn cyllido rhai cyrsiau a achredir, ac yn yr achos hwn gall fod rhaid i'r myfyrwyr dalu ffioedd o tua £13,000 y flwyddyn neu fwy, ynghyd â chostau byw.
Gwobrau Dawns a Drama
Mae cynllun Gwobrau Dawns a Drama, yn helpu nifer o fyfyrwyr
newydd talentog sy'n dechrau ar hyfforddiant dawns a drama bob
blwyddyn. Rhaid i fyfyrwyr fod yn 18 oed neu'n hŷn ar gyfer
cyrsiau actio neu reoli llwyfan, a rhaid iddynt fodloni gofynion
dinasyddiaeth a phreswyl arbennig. Nid oes unrhyw derfynau oed
uchaf. Rhaid i chi fod yn dilyn cwrs gydag un o 21 darparwr
hyfforddiant achrededig sy'n arwain at gymhwyster Diploma yn
Trinity College Llundain. Mae'r cyrsiau'n para rhwng blwyddyn a
thair blynedd.
Dylech wneud cais am wobr trwy'r darparwr o'ch dewis. Os
byddwch yn llwyddiannus, bydd y Wobr yn talu'r rhan fwyaf o'ch
ffioedd dysgu; mae gofyn i chi wneud cyfraniad o £1,275 (ar
gyfer blwyddyn academaidd 2011/2012). Gallwch hefyd gael cymorth
gyda ffioedd byw a gofal plant trwy grant nad oes rhaid ei ad-dalu
o hyd at £5,460 (yn dibynnu ar yr amgylchiadau), os yw
cyfanswm incwm eich cartref yn llai na £33,000.
I gael gwybodaeth bellach am y Gwobrau Dawns a Drama, ewch i:
www.direct.gov.uk/danceanddrama
Am fwy o wybodaeth
Equity -ffôn: 020 7379 6000.
http://www.equity.org.uk/
The Conference of Drama Schools (CDS) -maen
nhw'n cyhoeddi
CDS
Guide to Professional Training in Drama & Technical
Theatrea
CDS Guide to Careers Backstagey gellir ei lawrlwytho o'r
wefan. Fel arall, mae'r canllaw hyfforddi ar gael am ddim o
French's Theatre Bookshop (ffôn: 020 7255 4300).
http://www.drama.ac.uk/
National Council for Drama Training
(NCDT) -ffôn: 020 7407 3686. Mae gan y wefan
wybodaeth ar hyfforddiant, cyllid a manylion cyrsiau achrededig, a
gallwch lawrlwytho
An Applicant's Guide to Auditioning and Interviewing at Dance
and Drama Schools.
http://www.ncdt.co.uk/
Spotlight -ffôn: 020 7437 7631. Mae'n
cyhoeddi cofrestrau o actorion, cyflwynwyr a styntwyr. Mae'r wefan
yn cynnwys calendr perfformiadau ysgolion drama a chyngor ar
yrfaoedd (cliciwch ar ‘Performers' a ‘Career Advice'):
http://www.spotlight.com/
Trinity College London -ffôn: 020 7820
6100. Edrychwch ar wefan y coleg am fwy o wybodaeth am eu
cymwysterau ym maes actio a phynciau cysylltiedig.
http://www.trinitycollege.co.uk/
Creative & Cultural Skills -ffôn:
020 7015 1800. Y Cyngor Sector Sgiliau ar gyfer y celfyddydau
perfformio.
http://www.ccskills.org.uk/
National Association of Youth
Theatres -ffôn: 01325 363330.
http://www.nayt.org.uk/ Am wybodaeth am y
National Youth Theatre, gweler:
http://www.nyt.org.uk/
Working in Creative and Performing Arts -cyhoeddwyd
gan Babcock Lifeskills, £9.50.
Progression to Journalism, Broadcasting, Media Production and
Performing Arts - cyhoeddwyd gan UCAS, £15.99.
Contacts- canllaw gynhwysfawr flynyddol sy'n rhestru
cysylltiadau yn y diwydiant adloniant. Cyhoeddwyd gan Spotlight
(gweler uchod), £12.99 (a £3.00 post a phecynnu).
The Stage - cylchgrawn wythnosol ar danysgrifiad neu
o siopau papurau newydd (dydd Iau). Yn ystod 2011, mae
The Stageyn cynnig ysgoloriaethau amrywiol ar gyfer cyrsiau
celfyddydau perfformio. Gweler y wefan i gael manylion:
http://www.thestage.co.uk/
Dod o hyd i ni ar-lein