- Rydych chi yma:
- Hafan
Home

Gweithio yn y cyfryngau
Taflen P 01Mae'r diwydiant cyfryngau yn cynnwys papurau newydd, cylchgronau, cwmnïau radio, darlledu teledu a chynhyrchu ffilmiau, a'r cyfryngau newydd. Mae delwedd ddeniadol gwaith y cyfryngau yn golygu bod yna gystadleuaeth frwd am swyddi. Mae nifer o bobl sy'n gweithio yn y cyfryngau yn raddedigion, er ei bod yn bosibl dechrau gweithio yn y maes gyda chymwysterau lefel is.
Mae diwydiant cyfryngau Prydain yn anferth ac yn cwmpasu ystod eang o swyddi. Gan fod gweithio yn y cyfryngau yn ddewis gyrfa mor boblogaidd, g orau oll po fwyaf o hyfforddiant a phrofiad perthnasol y gallwch eu cael cyn ichi wneud cais am swyddi.Mae'r daflen hon yn amlinellu'r prif feysydd gwaith - rhestrir taflenni sy'n disgrifio gyrfaoedd penodol yn fanylach ar y diwedd. Mae llawer o bobl yn gweithio ar eu liwt eu hunain.
Meysydd gyrfa yn y cyfryngau
Newyddiaduraeth
Mae newyddiadurwyr yn gweithio i'r wasg leol, y wasg genedlaethol, asiantaethau newyddion, yr amrywiaeth helaeth o gyfnodolion wythnosol a misol (gan gynnwys y wasg 'fasnach'), wefannau newyddion arlein, radio a theledu. Mae'r rhan fwyaf o newydd-ddyfodiaid i'r maes yn cychwyn â chylchgronau masnach neu'r wasg leol. Yma gall cyw newyddiadurwyr ddysgu'r sgiliau sylfaenol dan lai o bwysau nag a geir yn y wasg genedlaethol.
Radio
Ar gyfer pob cyflwynydd ar y radio, mae yna gannoedd o reolwyr gorsaf, gohebwyr, golygyddion, cynhyrchwyr a chynorthwywyr darlledu. Nid yw llawer ohonyn nhw'n cael eu henwi ar yr awyr hyd yn oed! Ychydig o swyddi dechreuol sydd ar gael ar gyfer pobl heb brofiad felly mae gofyn ichi fod yn benderfynol a bod â dyfalbarhad ac amrywiaeth o sgiliau defnyddiol cyn y gallwch gael swydd.
Dylunio
Mae dylunio yn ymwneud â chyfathrebu trwy ddulliau gweledol, trwy brint, lluniadau, ffotograffau neu gyfuniadau o'r tri. Gall gwaith yn y cyfryngau gynnwys darlunio llyfrau, hysbysebu a phecynnu, darlunio technegol a dylunio gwefannau.
Ffotograffiaeth
Yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer ffotograffwyr y wasg neu ffotonewyddiadurwyr mae yna angen llawer o ffotograffiaeth o ansawdd uchel ar gyfer hysbysebu, lluniau mewn cylchgronau a deunydd cyhoeddusrwydd. Fel rheol mae ffotograffwyr yn dilyn cwrs coleg ac yn ennill cymwysterau cydnabyddedig cyn dechrau swydd.
Ffilm a theledu
Mae amrywiaeth eang o swyddi mewn cynhyrchu ffilmiau a theledu - o gynhyrchwyr , cyfarwyddwyr, technegwyr sain a goleuadau a gweithredwyr camera i rolau ôl-gynhyrchu. Fodd bynnag, mae'r diwydiant yn fach ac mae'n anodd iawn cael cyfleoedd i ddechrau gweithio ynddo. Yn ogystal â chwmnïau cynhyrchu ffilmiau a theledu, efallai y gallech chi gael gwaith mewn cwmnïau sy'n cynhyrchu DVDs i'w defnyddio at ddibenion eraill ar wahân i adloniant - ar gyfer hyfforddi busnes, addysgu, ac ar gyfer cyhoeddusrwydd, hysbysebu a chysylltiadau cyhoeddus.
Cyhoeddi
Mae cyhoeddi yn fusnes cystadleuol. Mae sgiliau golygu, barn fasnachol, sgiliau marchnata a hysbysebu yn hanfodol. Mae cyhoeddwyr llyfrau yn gwneud eu helw o lyfrau addysgol, technegol neu wyddonol; ac mae eraill yn arbenigo naill ai mewn llyfrau ffeithiol neu ffuglen. Mae yna hefyd gyfleoedd gyda chyhoeddwyr cylchgronau ac arlein. Ar y lefel olygyddol, mae cyhoeddi yn yrfa i raddedigion fel arfer.
Hysbysebu
Mae hysbysebu yn fusnes anodd a hynod gystadleuol. Mae cwmnïau hysbysebu yn chwilio am bobl i reoli cyfrifon, dylunwyr a ffotograffwyr i ddarparu'r gwaith celf ac ysgrifenwyr copi i ddarparu'r geiriau. Mae ysgrifenwyr sgriptiau a chriwiau cynhyrchu yn gweithio ar hysbysebion teledu, radio a sinema ac mae cynllunwyr cyfryngau a phrynwyr gofod yn gwneud yn siŵr bod yr hysbyseb, unwaith y mae'n cael ei llunio, yn cael ei gweld gan y gynulleidfa darged cymaint o weithiau â phosibl!
Mynediad a hyfforddiant
Nid yw'n hawdd cyffredinoli ynglŷn â llwybrau addysg a hyfforddiant addas mewn maes gwaith lle mae yna gymaint o amrywiaeth. Mae gan gyfran uchel o'r bobl sy'n gweithio yn y diwydiannau cyfryngau creadigol radd, ond nid oes angen y lefel hwnnw o gymhwyster ar gyfer llawer o swyddi yn y diwydiant.
Un llwybr mynediad nodweddiadol yw cael swydd lefel sylfaenol a gweithio eich ffordd i fyny. Mae'n bosibl cael mynediad i rai meysydd gwaith trwy Brentisiaethau Lefel Ganolradd ac Uwch, sy'n cynnig hyfforddiant strwythurol gyda chyflogwr.
Mae cyrsiau mewn pynciau arbenigol fel newyddiaduraeth a dylunio
graffig ar gael. Hefyd mae cyrsiau mwy cyffredinol mewn
astudiaethau'r cyfryngau sy'n arwain at TGAU a lefelau A/AS mewn
astudiaethau'r cyfryngau, y Diploma mewn creadigol a'r cyfryngau
(ar gael yn Lloegr) ac ati. Gall y rhain eich helpu i ddod o hyd i
swydd. Mae graddau sylfaen perthnasol ar gael, a chyrsiau HND a
gradd hefyd. Mae gan nifer o bobl y cyfryngau raddau mewn pynciau
eraill, ac yna wedi dilyn cwrs neu hyfforddiant ôl-raddedig yn
y cyfryngau.
Mae amrywiaeth eang o gyrsiau ym maes y cyfryngau ar gael.
Edrychwch yn ofalus ar yr hyn a gynigir; mae cynnwys a phwyslais
cyrsiau gyda theitlau tebyg yn amrywio. Ceisiwch gael gwybodaeth am
y cydbwysedd o waith ymarferol a theori, os oes tueddiad
galwedigaethol arbennig, unrhyw gysylltiadau gyda chyflogwyr,
cyfleoedd profiad gwaith a beth mae cyn-fyfyrwyr wedi gwneud ar
ôl y cwrs.
Am fwy o wybodaeth
Skillset- y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer y
cyfryngau creadigol. Am wybodaeth a chyngor a yrfaoedd yn y
cyfryngau, ffoniwch y llinell gymorth am ddim: 0800 012 1815 (yng
Nghymru) neu 08080 300 900 (yn Lloegr a Gogledd Iwerddon)
, neu gweler:
www.skillset.org/careers
Creative & Cultural Skills- ffôn: 020
7015 1800. Y Cyngor Sgiliau Sector sy'n cwmpasu dylunio a'r
celfyddydau gweledol ac ati.
http://www.ccskill.org.uk/
http://www.creative-choices.co.uk/ Mae
Media Courses and Multimedia Courses Directory- o'r
British Film Institute a Skillset, ar gael ar:
http://www.bfi.org.uk/learn
The Knowledge- cyfeirlyfr arlein o gysylltiadau yn y
diwydiannau ffilm, teledu, fideo a chynhyrchu hysbysebion:
http://www.theknowledgeonline.com/ Gall y llyfrau canlynol
fod ar gael yn llyfrgelloedd Connexions/gyrfaoedd.
Working in Creative & Performing Arts- cyhoeddwyd gan
Babcock Lifeskills, £9.50.
Dod o hyd i ni ar-lein