Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Offer ar-lein yr ‘arlwy’

Rydych wedi cael eich ailgyfeirio i'r dudalen hon, gan fod offer ar-lein yr arlwy bellach wedi'u datgomisiynu a'u tynnu oddi ar y wefan.

Mae'r gofyniad bod ysgolion yn cyflawni cyfrifoldebau a nodir ym Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (y cyfeirir atynt yn aml fel yr 'arlwy'), wedi'u cyflawni'n flaenorol gan ysgolion yn mewnbynnu gwybodaeth am gyrsiau ac yn gwirio arlwy eu cwricwlwm lleol drwy wefan Gyrfa Cymru. Yn dilyn hyn, byddai Llywodraeth Cymru yn cynnal adroddiadau i gadarnhau bod ysgolion yn bodloni gofynion y mesur.

Ym mis Hydref 2020, cymeradwyodd y Gweinidog Addysg ddatgomisiynu'r offer hyn, gan gytuno yn lle hynny y dylai ysgolion hysbysu eu consortia eu bod wedi bodloni gofynion y Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru).

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i gonsortia sicrhau bod pob ysgol yn bodloni gofynion Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru), a'r dyddiad cau yw 30 Ebrill 2021. Mae’r consortia wedi cysylltu ag ysgolion i roi gwybod iddynt am y newidiadau a amlinellir uchod, ac na fydd offer ar-lein Gyrfa Cymru, ynghyd â'r offer cysylltiedig, fel Cyrsiau CA4, Cyrsiau Ôl-16 a Gweld Adroddiadau ar gael mwyach.

Os oes gennych gwestiynau neu ymholiadau pellach ynghylch cwblhau eich arlwy, cysylltwch ag arweinydd eich consortia 14-19 lleol, a fydd yn gallu helpu.