Fy Nyfodol
Meddwl am opsiynau
Dysgu seiliedig ar waith
Os ydych eisiau gweithio ond angen dysgu mwy am swydd, mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud rhaglen hyfforddi o’r enw Hyfforddeiaeth.
Bydd y rhaglen hon yn rhoi cyfle i chi
- Wneud peth profiad gwaith
- Ennill rhai cymwysterau
- Parhau i ddysgu mathemateg a Saesneg/Cymraeg.
Cewch gynllun sy'n dweud beth byddwch yn ei wneud, pa help rydych ei angen a pha mor hir fydd eich hyfforddiant.
Byddwch yn cael lwfans o'r enw Lwfans Cynhaliaeth Hyfforddiant.
Bydd rhaid i’ch cynghorydd gyrfa neu gynghorydd o’r Canolfan Byd Gwaith eich cyfeirio i ddysgu yn y gwaith.
Os ydych yn hŷn na 18 oed, efallai y bydd cyrsiau hyfforddi eraill ar gael i chi. Byddai’n rhaid i chi ymweld â’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith i gael gwybod am y rhain.