Fy Nyfodol
Help wrth gael swydd
CV
CV
Canolwyr
Efallai byddwch eisiau rhoi enwau pobl sy’n gallu rhoi geirda i chi (‘canolwyr’ yw’r enw ar y bobl hyn).
Mae geirda yn llythyr sy’n dweud wrth gyflogwr pa fath o berson rydych chi.
Dylech ofyn i rywun a ydyn nhw eisiau bod yn ganolwr cyn rhoi eu henw ar eich CV.
Allwch chi ddim gofyn i bobl yn eich teulu neu’ch ffrindiau
Gallwch ofyn i’ch athro, tiwtor neu weithiwr cymdeithasol
Gallech ofyn hefyd i’ch:
- Cyflogwr diwethaf (os ydych wedi cael eich talu i wneud swydd neu os ydych wedi gwirfoddoli)
- Rhywun sy’n eich adnabod yn dda e.e. arweinydd clwb ieuenctid