Fy Nyfodol
Help wrth gael swydd
Ffurflenni cais
Ffurflenni cais
Fel arfer, bydd rhaid i chi lenwi ffurflen wrth wneud cais am sywdd.
Mae hon yn ffurflen y bydd rhaid ei llenwi i roi ffeithiau amdanoch chi i’r cyflogwr.
Bydd rhaid ysgrifennu am beth rydych wedi’i wneud (eich profiad) a beth rydych yn gallu ei wneud yn dda (eich sgiliau).
Bydd rhai cyflogwyr yn anfon ffurflenni cais ar bapur.
Bydd rhai eraill yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais ar-lein (ar eu gwefan).
Bydd cyflogwyr yn defnyddio’ch ffurflen gais i’w helpu i benderfynu a ydyn nhw eisiau rhoi cyfweliad i chi ar gyfer y swydd.