Fy Nyfodol
Meddwl am opsiynau
Aros yn yr ysgol
Aros yn yr ysgol
Pethau i feddwl amdanyn nhw
Os yw aros yn yr ysgol yn un o’ch opsiynau chi, dyma rai o’r pethau y byddwch eisiau meddwl amdanyn nhw
Byddwch yn adnabod pawb a bydd yr athrawon yn eich adnabod chi. Bydd gennych fwy o amser i baratoi i symud ymlaen o’r ysgol.
Byddwch yn parhau gyda rhai gwersi rydych yn eu gwneud nawr ond efallai y gallwch drïo rhai newydd hefyd.
Efallai y bydd gennych gyfle i fynd ar brofiad gwaith i ddysgu am sut beth yw mynd i’r gwaith.
Mae gan lawer o ysgolion gyrsiau i’ch helpu i baratoi i symud ymlaen i’r gwaith.
Efallai y byddwch yn gallu cael cyswllt â’r coleg lleol i gael syniad ohono.