Fy Nyfodol
Meddwl am opsiynau
Aros yn yr ysgol
Aros yn yr ysgol
Mewn rhai ysgolion gall myfyrwyr aros yno nes eu bod yn 19 oed. Mewn ysgolion eraill, bydd pob myfyriwr yn gadael yn 16 oed. Os ydych eisiau aros yn yr ysgol ar ôl troi’n 16 oed, efallai mai dyma fydd eich opsiynau:
Aros ymlaen yn yr un ysgol
Symud i ysgol arall ar ôl i chi droi’n 16 oed
Os ydych eisiau symud i ysgol arall bydd rhaid i chi siarad â’ch rhieni / gofalwyr ac athrawon yn eich ysgol chi. Byddan nhw’n gallu dweud wrthych a ydyn nhw’n meddwl y gallwch wneud hyn.