Mynediad i gyllid
Pan fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith ac wedi bod yn derbyn budd-daliadau, bydd rhai o’r budd-daliadau yn parhau am gyfnod byr. Efallai byddwch yn gallu hawlio budd-daliadau newydd hefyd.
Dyw’r ganllaw hon ddim yn cwmpasu amgylchiadau i gyd. Dylech gael mwy o fanylion o’r sefydliadau perthnasol.
-
Help gyda chostau tai
- Pe baech yn cael help gyda’ch costau tai tra eich bod yn ddi-waith, fe allech ei gael o hyd. Mae hyn yn dibynnu pa un a ydych wedi bod yn hawlio Lwfans Ceiswyr Gwaith, yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Gymhorthdal Incwm am o leiaf 26 wythnos yn barhaol cyn dechrau gwaith.
- Fe allech barhau i dderbyn y budd-daliadau canlynol am hyd at bedair wythnos:
- Taliad Estynedig o Fudd-dal Tai
- Taliad Estynedig o Fudd-dal y Dreth Gyngor
- Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais
- Os ydych ar gyflog isel ac mae’ch costau tai o dan lefel benodol, fe allech barhau i gael Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gynfor ar ôl yr amser hwn.
-
Credydau Treth
Mae credyd treth yn daliad a gewch yn rheolaidd.
- Mae naw teulu o bob deg sydd â phlant yn gallu hawlio Credyd Treth Plant.
- Os ydych yn gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos ac rydych ar incwm isel, efallai byddwch yn gallu cael Credyd Treth Gwaith hefyd.
- Bydd credydau treth yn gallu helpu gyda chostau gofal plant hefyd.
Dyw’r ganllaw hon ddim yn cwmpasu amgylchiadau i gyd. Dylech gael mwy o fanylion o’r sefydliadau perthnasol.
-
Cynghorydd budd-daliadau ar-lein
- Gall y Cynghorydd Budd-daliadau Ar-lein roi amcangyfrifiad o’r cymorth ariannol y gallwch ei gael a sut mae newidiadau yn eich amgylchiadau yn gallu effeithio ar eich budd-daliadau, er enghraifft os ydych yn dechrau gwaith neu’n gweithio oriau ychwanegol.
Chwiliad Gyrfa
Defnyddiwch y Chwiliad Gyrfa i gael gwybod mwy am swydd. Yn cynnwys cyflogau, ble mae’r swyddi, cyfleoedd a llawer mwy.
Oes angen syniadau arnoch? Help i ddechrau arni