Dychwelyd i'r gwaith
Efallai bod rhesymau ariannol ac ymarferol gennych i benderfynu i ddychwelyd i’r gwaith. Er enghraifft:
- Efallai y byddwch eisiau dychwelyd i’r gwaith pan fydd cyfnod o ofalu am rywun wedi dod i ben neu os ydych yn dechrau gweithio tra byddwch yn dal i ofalu am rywun.
- Os ydych yn rhiant, efallai byddwch yn penderfynu dychwelyd i’r gwaith unwaith bod eich plant yn hŷn neu wedi gadael y cartref.
- Efallai i chi gael amser i ffwrdd o’r gwaith neu wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir oherwydd problemau meddyliol neu iechyd emosiynol, fel iselder, pryder ac anhwylder deubegwn.
- Efallai i chi adfer o gyfnod o iechyd gwael neu anaf.
Er mwyn eich helpu i ddychwelyd i’r gwaith yn llwyddiannus, cymerwch olwg ar y canllawiau hyn:
Chwiliad Gyrfa
Defnyddiwch y Chwiliad Gyrfa i gael gwybod mwy am swydd. Yn cynnwys cyflogau, ble mae’r swyddi, cyfleoedd a llawer mwy.
Oes angen syniadau arnoch? Help i ddechrau arni