Chwilio am swydd
Chwilio am gyfleoedd? Angen dod o hyd i swydd?
Po fwyaf rydych yn ceisio dod o hyd i swydd, gorau fydd eich siawns o lwyddo. Mae’n amser anodd i ddod o hyd i swydd.
Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth a chyngor a allai helpu.
- Mae’n cymryd amser. Mae chwilio am swydd yn cymryd amser ac ymdrech bob dydd. Gwnewch ychydig o waith i chwilio am swydd bob dydd. Gwnewch hynny ar yr un amser bob dydd er mwyn dod i’r arfer.
- Cadw’ch ffocws. Hanner y frwydr yw cadw ffocws. Cadwch yn bositif a gofalu amdanoch chi’ch hun. Cymerwch egwyl (fer) os yw pethau’n mynd yn ormod i chi.
- Daliwch ati. Byddwch yn cael eich gwrthod. Mae’n anodd cadw’n bositif pan fyddwch yn cael trafferth yn dod o hyd i waith. Ond – cofiwch, bydd eich ymateb i’r sefyllfaoedd yn gwneud gwahaniaeth.
- Rhwydweithiwch! Gwelwch ein nodiadau ar rwydweithio i wneud y gorau o’ch cysylltiadau personol.
- Byddwch yn hyblyg. Byddwch yn agored i syniadau a swyddi newydd.
Chwilio am raglenni.