Golwg ar Beirianneg

Engineer LMI sectorMae peirianneg yn ymwneud â phopeth sy’n cael ei adeiladu neu ei gynhyrchu. Felly mae’n sector eang iawn sy’n cynnwys diwydiannau gwahanol, o aerofod i ynni. Mae peirianwyr yn gweithio mewn gweithgynhyrchu, cludiant, adeiladu, meddygaeth, cemegau a llawer mwy.

  • So what's involved?

    Mae peirianneg yn ddiwydiant enfawr yn y DU. Mae’n ffurfio bron i un rhan o bump o economi’r DU ac yn cyflogi mwy na 4.5 miliwn o bobl. Fel y gallech ddychmygu, mae’n hanfodol i les yr economi ac yn gyrru marchnad ynni’r DU sy’n tyfu’n fwyfwy.

    Mae peirianneg yn hanfodol i ddatblygu prosesau newydd a thechnolegau materol, gweithgynhyrchu uwch ac ymdrechion i wneud gostyngiadau carbon. Mae peirianwyr yn gweithio ym mhob rhan o’r gadwyn o ddylunio i weithgynhyrchu i gymorth technegol.

    • Mae ychydig dros 5,000 o fusnesau peirianneg a gwyddoniaeth yng Nghymru, sy’n cyflogi tua 90,200 o bobl. 
    • Mae 44,800 yn y sectorau peirianneg hŷn (metelau, cynhyrchion metel, offer mecanyddol, offer trydanol, teiars rwber a rhannau o offer cludiant arall),
    • Mae 43,900 yn cael eu cyflogi yn y technolegau blaenllaw (electroneg, cerbydau modur, peirianneg forol, aerofod a gweithgareddau peirianyddol eraill)
    • Mae 1,500 yn cael eu cyflogi yn y sector gwyddoniaeth (ymchwil a datblygiad yn y gwyddorau naturiol a pheirianneg).
      (Ffynhonnell: Wales - Sector Skills Assessment Report 2011. SEMTA)

    Y prif feysydd gwaith mewn peirianneg yw aerofod, cerbydau modur a’r sectorau metelau. Mae sector metelau’r DU yn sylweddol ac mae un ymhob wyth o swyddi gweithgynhyrchu yn y sector hwn. Dyma bedwerydd allforiwr gweithgynhyrchu mwyaf y DU. Mae’n allforio bron i 50% o’i gynnyrch i fwy na 200 o wledydd ac mae’n hanfodol i aerofod ac amddiffyn, cydrannau cerbydau modur a chynnyrch peirianneg a chynnyrch cysylltiedig. 
    (Ffynhonnell: Wales - Sector Skills Assessment Report 2011. SEMTA )

    Yng Nghymru, mae 84% o sefydliadau peirianneg yn rhai maint meicro (sy’n cyflogi llai na deg o bobl) ac ychydig iawn o gwmnïau sy’n cyflogi 200 o bobl neu fwy.

    Mae 92% o'r gweithlu yn cael ei gyflogi gan gwmni gan mai dim ond 8% sy'n hunan gyflogedig.  

    Mae 92% o’r gweithlu yn cael ei gyflogi’n amser llawn ac mae hyn o gymharu â 72% ar gyfer sectorau eraill yng Nghymru.
    (Ffynhonnell: Wales - Sector Skills Assessment Report 2011. SEMTA)

  • Beth i'w ddisgwyl yn y dyfodol?

    Mae tueddiadau’r dyfodol mewn peirianneg wedi cael eu dominyddu gan ymrwymiadau’r llywodraeth i ymdrin ag effeithiau newid yn yr hinsawdd, a bodloni ein galw am ynni ar yr un pryd.

    Bydd rhaid i’r wlad ddatblygu cyflenwad ynni carbon isel yn cynnwys ynni niwclear ac ynni adnewyddadwy. Mae peirianwyr yn hanfodol i ddatblygiad y rhain a technolegau newyddach fyth.
    (Ffynhonnell: Engineering UK 2011 and 2012 Report)

    Mae datblygiadau cyffrous a allai effeithio ar Beirianneg yn y sector Ynni yn cynnwys:

    • Geobeirianneg e.e. datrysiadau ynysiad haul a choed synthetig
    • Geothermal i gynhyrchu trydan heb bron dim allyriadau.
    • Rhagwelir y bydd ynni gwynt yn cynnig y cyfle mwyaf ar gyfer twf mewn ynni adnewyddadwy a swyddi peirianneg.
    • Mae ffotofoltaeg (PV) yn broses lle mae celloedd haul yn trosi golau’r haul yn drydan yn uniongyrchol. Mae Cymru yn gartref i ffatri pŵer yr haul fwyaf y DU.
      (Ffynhonnell: Engineering UK 2011 and 2012 Report.)

    Rhwng 2010 a 2016, mae Semta, y Cyngor Sgiliau Sector, wedi darogan y bydd angen tua 13,400 o swyddi yng Nghymru yn eu sector, sef 1,920 y flwyddyn.  Rheoli lefel uwch, swyddi proffesiynol a thechnegwyr cysylltiedig fydd y rhan fwyaf o’r gyflogaeth gyfan yn ôl pob tebyg.
    (Ffynhonnell: Wales - Sector Skills Assessment Report 2011. SEMTA)

    Rhagwelir y bydd prinder graddedigion peirianneg yn y dyfodol. Bydd y prinder mwyaf ym maes ynni, cyfleustodau a pheirianneg sifil.
    (Ffynhonnell: ‘Engineering Graduates for Industry’ (February 2010) by the Royal Academy of Engineering)

    Mae’r rhagolygon peirianneg ar ôl y dirywiad economaidd yn argoeli’n dda.

  • Pa swyddi allwn i eu gwneud?

    Mae peirianneg yn faes gyrfa eang gyda swyddi ar lefelau gwahanol yn dibynnu ar gymwysterau a/neu brofiad. Y cyflogeion hynny gydag ychydig neu heb gymwysterau yw’r rhai mwyaf tebygol i gael swyddi fel cydosodwyr mewn swyddi sylfaenol neu elfennol, a’r rhai sydd â chymwysterau canolradd (NVQ lefel 3) mewn masnachau/crefftau sgiliedig a swyddi proffesiynol/technegol cysylltiedig. Y rhai gyda sgiliau lefel uwch (NVQ Lefel 4+) sydd fwyaf tebygol o gael gwaith mewn swyddi proffesiynol a rheoli, fel peiriannydd ymgorfforedig neu siartredig o bosibl. 

    Yn ôl Arolwg y Llafurlu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae’r 25 swyddi uchaf mewn gwyddoniaeth, peirianneg a’r sector gweithgynhyrchu yn 2009 yn cynnwys cynhyrchu gwaith metel a ffitiwr cynnal a chadw 8%; rheolwyr cynhyrchu a chynnal a chadw 5%; masnachau weldio 5%; proffesiynolion peirianneg 3%; cydosodwyr (cynnyrch trydanol) 3%; archwilwyr a phrofwyr 3%;  gweithredwyr peiriannau 3%; trydanwyr, gosodwyr trydanol 3%; peirianwyr mecanyddol 2%; labrwyr, prosesu a gweithredu offer 2%; gweithredwyr prosesu 2%; proffesiynolion meddalwedd 2%; peirianwyr cynhyrchu a phrosesu 2%; peirianwyr cynllunio a sicrhau ansawdd 2%;  gweithredwyr offer a pheirianwyr 2%.  

    Mae meysydd gwaith peirianneg yn cynnwys: 

    Peiriannydd Awyrennol
    Technegydd Peirianyddol Awyrofod 

    Peiriannydd Amaethyddol
    Peiriannydd Moduron
    Peiriannydd Darlledu
    Peiriannydd Gwasanaethau Adeiladu – goleuo, gwresogi, awyru a rheweiddio
    Peiriannydd Cemegol
    Peiriannydd Clinigol
    Peiriannydd Sifil

    Peiriannydd Caledwedd Cyfrifiadurol
    Peiriannydd Meddalwedd Cyfrifiadurol
    Peiriannydd Rheoli
    Peiriannydd Dylunio
    Peiriannydd Trydanol/ Electroneg
    Peiriannydd Nwy
    Peiriannydd Systemau Gweithgynhyrchu
    Peiriannydd Morol 
    Peiriannydd Mecanyddol
    Swyddog Peirianyddol gyda'r Llynges Fasnach
    Peiriannydd Mwyngloddio/ Mwynau
    Peiriannydd ar y môr
    Peiriannydd Strwythurol
    Peiriannydd Telathrebu – telathrebu, ffôn
    Peiriannydd Traffig

  • Ble allwn i weithio?

    Dyma rai enghreifftiau lle gallech weithio a’r cwmnïau sy’n cyflogi peirianwyr:

    • Aerofod – Mae gan rai o gwmnïau aerofod ac amddiffyn mwyaf y byd safleoedd yng Nghymru yn cynnwys General Dynamics, Cassidian, Airbus, BAE Systems, GE Aviation a British Airways.
    • Cerbydau modur - yn cael ei ddominyddu gan gwmnïau byd-eang fel Honda, Nissan, Toyota, General Motors a BMW. Mae swyddi dylunio a datblygu yn y DU yn tueddu i fod gyda Bentley, McLaren a Williams. Mae Cymru yn gartref i 35 o 100 cyflenwr cerbydau modur mwyaf y byd, yn cynnwys Ford a Toyota.
    • Mae’r sector adeiledig yn dioddef effeithiau’r dirwasgiad. Mae disgwyl adferiad mewn cyflogaeth yn y sector hwn. Mae Amey, Arup, Atkins a Mott MacDonald yn recriwtwyr mawr.
    • Mae’r diwydiant cemegau yn cynnwys petrocemegau, deunydd fferyllol, cemegau main, trefniadaethau dŵr, contractwyr peirianneg a chwmnïau biotechnoleg sy’n tyfu’n gyflym. Mae cwmnïau mawr yn cynnwys Air Products, Akzonobel a BASF.
    • Mae amddiffyn yn cynnwys y lluoedd arfog, BAE, Dstl a QinetiQ. 
    • Mae’r diwydiant electroneg yn cynnwys gweithredwyr cydrannau fel Intel, Wolfson Microelectronics a CSR a gweithgynhyrchwyr offer fel Sony, Philips a Sharp. Mae gan Gymru fwy na 300 o gwmnïau yn cynnwys Sony, Panasonic ac International Recitifier.
    • Mae’r sector trydanol yn cwmpasu amrywiaeth eang o ddiwydiannau yn cynnwys trafnidiaeth, adeiladu, telathrebu a gweithgynhyrchu.
    • Ynni e.e. o gwmnïau mawr fel ExxonMobil a BP i gwmnïau bach mewn meysydd allweddol fel fforio ac adeiladu rigiau olew. Hefyd, mae angen peirianwyr mewn cwmnïau sy’n cynhyrchu pŵer niwclear, gwynt, dŵr, tonnau a’r haul. Mae cwmnïau arloesol byd-eang fel RWE, npower renewables, E.On, EDF, Prenergy, Western Energy, UPM, AMEC a Sharp i’w cael yng Nghymru. Mae tuedd am gwmnïau llai o faint mewn meysydd arbenigol fel pŵer yr haul. 
    • Y rhwydwaith rheilffordd e.e. Network Rail
    • Telathrebu – e.e. Nokia, Ericsson, Siemens a Vodafone. Datblygiadau technolegau blaenllaw sy’n diffinio’r sector hwn.
    • Mae’r sector cyfleustodau yn cynnwys trydan, nwy, dŵr a rheoli gwastraff a’r prif gwmnïau cyfleustodau fel npower a Scottish Power.

    Mae peirianneg yn ddiwydiant a galwedigaeth felly mae cyfleoedd da i weithio dramor.

  • Pa sgiliau sydd eu hangen arnaf?

    Yn ystod y degawd diwethaf, mae peirianwyr wedi dod yn fwy cymwysedig a sgiliedig. Yng Nghymru, rhwng 2000 a 2009, mae’r rhai sydd â chymwysterau NVQ lefel 4 wedi cynyddu o 24% o’r gweithlu i 36%, tra bod y rhai sydd heb gymwysterau wedi gostwng o 12% i 10%.
    Os ydych yn gweithio mewn Peirianneg yng Nghymru byddwch yn fwy tebygol o gael sgiliau uwch, ac mae gan 61% NVQ3 neu uwch o gymharu â 58% ym mhob sector.  

    Mae angen y sgiliau canlynol ar gyfer pob swydd peirianneg:  

    • diddordeb mewn mathemateg, gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg
    • brwdfrydedd i ddeall sut mae pethau’n gweithio a chadw i fyny gyda datblygiadau newydd
    • gwybodaeth dechnegol i ddatrys problemau ymarferol
    • sgiliau cyfathrebu effeithiol 
    • gwaith tîm
    • gallu gweithio gyda chwsmeriaid i adnabod anghenion a darparu datrysiadau 
    • golwg lliw dda ar gyfer rhai swydd e.e. trydanol. 

    Mae sgiliau rheoli ac arwain yn bwysig ar gyfer swyddi lefel uwch. Mae’n rhaid i beirianwyr ymgorfforedig a thechnegwyr peirianneg roi sylw i fanylion, gallu rhesymu, gallu sicrhau bod pethau’n digwydd.
    Ar y llaw arall, mae angen i grefftwyr llaw a gweithredwyr fod â gallu mewn mathemateg, bod yn wydn, amynedd a sgiliau ymarferol wrth gwrs.

  • Y sgiliau sydd eu hangen fwyaf

    Yng Nghymru, y prif ddiffygion o ran sgiliau yw cyflogeion sydd â sgiliau technegol a pheirianneg ar bob lefel. Y bylchau sgiliau technegol mwyaf cyffredin oedd Dylunio â Chymorth Cyfrifiaduron (CAD), gweithrediadau peiriant CNC, gwneud offer a pheirianneg drydanol.
    Mae’r bylchau sgiliau cyffredinol a ddaeth i’r amlwg yn cynnwys sgiliau allweddol neu sgiliau personol craidd, sgiliau TG/cyfrifiadurol, sgiliau rheoli a sgiliau marchnata neu werthu.

    Roedd hyd at 25% o sefydliadau peirianneg yng Nghymru yn dweud bod ganddynt fylchau sgiliau o gymharu â 21% yn y DU.  
    Mae cyflogwyr wedi cael problemau wrth geisio cael staff gyda’r cymwysterau iawn.  Yng Nghymru, roedd 10% o gyflogwyr peirianneg yn dweud bod problemau ganddynt wrth recriwtio graddedigion priodol, o gymharu â 7% yn y DU.

    Yng Nghymru, y swyddi anoddaf eu llenwi oedd masnachau sgiliedig (crefft), gweithredwyr prosesu ac offer a galwedigaethau rheoli. Yng Nghymru mae disgwyl y bydd angen tua  5,700 o bobl gyda chymwysterau canolradd a lefel uwch (NVQ lefel 3+ neu’r cyfwerth) yn y sector peirianneg rhwng 2010-2016.
    (Ffynhonnell: Wales - Sector Skills Assessment Report 2011. SEMTA)

  • Faint alla i ennill?

    Swyddi Lefel Technegydd/Crefftwr
    Tâl blynyddol cyfartalog ar gyfer detholiad o yrfaoedd dechnegydd peirianneg a chrefftwr (2010) - DU.
    Ffynhonnell: Arolwg Oriau ac Enillion Blynyddol 2011, Swyddfa Ystadegau Gwladol


    Technegwyr peirianneg £32,690
    Technegwyr trydanol/electroneg £31,538
    Trydanwyr, gosodwyr trydanol £29,925
    Gweithredwyr adeiladu a chynnal rheilffyrdd £29,200
    Peirianwyr telathrebu £28,793
    Perianwyr trydanol/electroneg (N.E.C.) £27,726
    Peirianwyr cyfrifiadurol, gosod a chynnal a chadw £27,449
    Plymwyr, peirianwyr gwresogi ac awyru £27,349
    Gweithwyr chwarel a gweithredwyr cysylltiedig £27,232
    Gweithredwyr dŵr a safle trin gwastraff £26,666
    Gweithredwyr cemegau a phrosesau cysylltiedig £26,571
    Technegwyr adeiladu a pheirianneg sifil £26,527
    Gofaint a gweithwyr gefeiliau £26,476
    Technegwyr sicrhau ansawdd £26,103
    Gwneuthurwyr offer, gosodwyr offer a marcwyr £26,009
    Gweithredwyr gwneud a phrosesau trin metel £25,612
    Masnachau weldio £24,784
    Mecaneg cerbydau modur, peirianwyr cerbydau £24,061
    Gweithredwyr peiriannau gwaith metel £22,624
    Gweithredwyr prosesu rwber £22,080
    Gweithredwyr offer a pheiriannau £21,573
    Peirianwyr teledu, fideo a sain £20,661
    Mowldwyr, gwneuthurwyr craidd, castwyr deiau £19,854
    Cydosodwyr a gweithredwyr arferol £17,600

     

    Swyddi lefel uwch

    Y cyflog cyfartalog i raddedigion yn gadael y brifysgol yn 2010 a aeth ymlaen i fod yn broffesiynolion peirianneg oedd rhwng £19, 665 a £26,890. Mae hyn yn cymharu’n dda â swm gyfartalog yr alwedigaeth yn gyffredinol, sef rhwng £ 17,720 a £23,335.
    (Ffynhonnell: HESA)

    Enginnering LMI 

    Peirianneg gyffredinol £29,361
    Peirianneg sifil £24,116
    Peirianneg fecanyddol £24,773
    Peirianneg aerofod £26,064
    Peirianneg drydanol ac electroneg £23,196
    Peirianneg gynhyrchu a gweithgynhyrchu £22,584
    Peirianneg gemegol, prosesu ac ynni £26,712
    Cyfartaledd graddedigion peirianneg a thechnoleg £24,953

    Yn achos y rhai ar lefel Peiriannydd Siartredig, cynyddodd yr incwm cyfartalog 10% i £55,000 rhwng 2007 a 2010, a chododd tâl Peirianwyr Ymgorfforedig 5% i £43,000.
    (Ffynhonnell: Engineering UK 2011 and 2012 Report)

  • Beth sydd angen i mi ei wneud?

    Os oes gennych y sgiliau iawn, gall Peirianneg fod yn opsiwn da o ran gyrfa. 

    O ddarllen hwn, byddwch yn gwybod bod angen cymaint o gymwysterau â phosibl i gael gwaith yn y sector hwn. Cofiwch nad prifysgol yw’r unig opsiwn. Gallai Prentisiaethau a chyrsiau galwedigaethol fod ar gael hefyd. Pan fyddwch yn barod i feddwl am ennill cymwysterau, chwiliwch yn Cyrsiau yng Nghymru sy’n cynnwys dolenni i amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi, rhai seiliedig ar waith ac addysg bellach yn eich ardal chi. Os ydych eisiau cael gwybod am brentisiaethau a gweld beth sydd ar gael, gwelwch y Gwasanaeth Paru Prentisiaethau. Felly, gwnewch eich ymchwil ac fe fyddwch ar eich ennill!

    Ymchwil, ymchwil, ymchwil! Fyddech chi ddim yn lawrlwytho cerddoriaeth heb wrando ar sampl yn gyntaf. Un o’r allweddau mwyaf i’ch llwyddiant yw cael gwybod cymaint â phosibl am y gwaith mae gennych ddiddordeb ynddo. Gofynnwch i’ch ffrindiau a theulu a ydyn nhw’n adnabod unrhyw un sy’n gweithio yn y sector hwn a siarad â nhw. Gall siarad â Chynghorydd Gyrfa fod yn help mawr, yn enwedig ar ôl i chi wneud eich ymchwil! 

    Peidiwch ag anghofio mai diffyg profiad gwaith yw un o’r tri phrif reswm pam nad yw cyflogwr yn rhoi swydd i ymgeisydd. Felly, os ydych eisiau creu argraff ar gyflogwr gyda’ch gwybodaeth a’ch profiad ymarferol, a chael y mantais rydych ei angen, dechreuwch ymchwilio i gyfleoedd Profiad Gwaith.

  • Ffynonellau Gwybodaeth

    Wales - Sector Skills Assessment Report 2011. SEMTA – The Sector Skills Council for Science, Engineering and Manufacturing Technologies. www.semta.org.uk
    Engineering UK 2011 and 2012 Report. www.engineeringuk.com 
    www.prospects.ac.uk
    Office for National Statistics. Labour Force Survey 2009.
    Higher Education Statistics Agency (HESA). 
    Wales Business Opportunity IBWales December 2010
    http://www.ibwales.com/upload/pdf/WAG10-10832

Did you know Icon

A wyddoch chi? 

 

Dim ond 18% o weithlu Semta yng Nghymru sy'n fenywod, o gymharu â 50% ar gyfer sectorau eraill yng Nghymru.

LMI Tips

Cyngor


  • Gwnewch eich ymchwil ar gyfer pob lefel a phob swydd. Rhaid i raddedigion ystyried hefyd bod 1 o 10 o raddedigion prifysgol yn dechrau gyrfa mewn peirianneg bob blwyddyn, felly mae’n bwysig eu bod yn ymwybodol bod cyflogwyr peirianneg yn chwilio am sgiliau a nodweddion penodol i sicrhau bod ganddyn nhw fantais dros ymgeiswyr eraill.
  • Gall Go Wales www.gowales.co.uk helpu gyda lleoliadau blas ar waith i raddedigion a chymorth am ddim i weithwyr llawrydd.

LMI Find out more

Cael gwybod mwy


Am fwy o wybodaeth a chyngor ar weithio mewn peirianneg:    

  • Cysylltwch â ni  
  • Defnyddiwch lyfrgell eich ysgol neu goleg 

LMI Printable leaflet icon

Fersiwn brintiedig

PDF file Golwg ar Beirianneg pdf

Rhannu'r dudalen hon

Dewiswch symbol:

Croeso i Gyrfa Cymru

Dewiswch iaith

Cymraeg

Welcome to Careers Wales

Please select your language

English