2. Chi sy'n cael y swydd!

Cyflogadwyedd: mae pobl sydd â sgiliau dwyieithog yn fwy tebygol o fod yn gyflogadwy.

FFAITH

• Mae pobl yng Nghymru yn gryf o’r farn bod angen i’r gweithlu fod yn ddwyieithog.

• Mae llawer o hysbysebion swyddi yn nodi’n benodol bod y Gymraeg yn ofynnol.

• Mae gwaith ymchwil yng Nghymru a Chatalonia yn dangos bod y tebygolrwydd o gael eich cyflogi yn cynyddu rhwng 3 a 5 y cant os ydych yn gallu darllen ac ysgrifennu mewn dwy iaith.

• Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae’r gallu i gynnig sgil ychwanegol yn sicr yn eich gwneud yn fwy deniadol i’r cyflogwr.

TYSTIOLAETH

• Mewn Adroddiad Arolwg o’r Iaith Gymraeg, cytunodd 71% bod dwyieithrwydd yn gymorth yn y Farchnad Swyddi.

• Dros gyfnod o dri mis, roedd 56% o 40 o hysbysebion swyddi a ddadansoddwyd yn nodi anghenion iaith, gan gynnwys 21 (52.5%) a nodai fod y Gymraeg yn ddymunol ac 19 (47.5%) a nodai fod y Gymraeg yn hanfodol.

• Mae cyflogwyr yng Nghymru o’r farn bod sgiliau dwyieithog yn bwysig iawn, yn ôl ymchwil jobcymru. Pan holwyd 300 o gyflogwyr yng Ngheredigion, Powys a Meirionnydd yn ddiweddar ynglŷn â’u gofynion a’u hanghenion sgiliau, dywedodd 70% ohonynt eu bod eisiau pobl, yn ddelfrydol, a allai gynnig dwyieithrwydd fel sgil gwaith yn rhai o’r swyddi yn eu cwmnïau.

ADBORTH CYFLOGWYR

“Gall iaith ychwanegol fod yn fantais bersonol a phroffesiynol enfawr. Rydym yn ddyfal yn chwilio am staff sy’n siarad Cymraeg ac yn annog ein staff i ddysgu’r iaith. Gan ein bod yn rhan o’r gymuned fusnes yng Nghymru, mae hynny’n hanfodol er mwyn diwallu anghenion ein cwsmeriaid. Byddwn yn argymell yn gryf fod pobl ifanc yn derbyn addysg ddwyieithog, oherwydd yn fy mhrofiad i fel cyflogwr, mae iaith ychwanegol yn rhoi’r elfen ychwanegol honno i rai sy’n ymgeisio am swydd.”
Alison Inker, Rheolwraig Vidal Sassoon, Caerdydd

“Mae bod yn ddwyieithog yn fantais er mwyn cael eich cyflogi yng Nghymru heddiw. Polisi’r Cyngor yw mai dim ond pobl sy’n gallu siarad Cymraeg a Saesneg sy’n cael eu cyflogi yn ein Canolfannau Galwadau a’n Canolfannau Cwsmeriaid. Mae’n bwysig bod y staff sy’n ateb y ffôn ac yn ymdrin ag ymholiadau’r cyhoedd wyneb yn wyneb yn gallu siarad eu dewis iaith.”
Llinos Evans, Swyddog Polisi a Phartneriaeth, Cyngor Sir Caerfyrddin

“Byddai’n rhaid i gyflogeion astudio ar gwrs cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog cyn dod i weithio i ni. Mae 80% o’n gwaith corfforaethol yn cael ei wneud yn Gymraeg.”
Owain Bebb a’i Gwmni, Cyfrifwyr

Ffynonellau: The Catalan Premium: Language and Employment in Catalonia, Silvio Rendon, 2003
The Welsh Language and Labour Market Inactivity, David Blackaby et al., 2006.
Adroddiad Arolwg Cyflwr yr Iaith Gymraeg, Beaufort, 2000
(Holwyd rhai sy’n gallu siarad Cymraeg a rhai nad ydynt yn gallu siarad Cymraeg).
Adroddiad Ymarferiad Gwirio Bwrdd yr Iaith Gymraeg - Hysbysiadau Swyddogol a Recriwtio Mehefin 2010
Y Ffordd Ymlaen, Pecyn Gwybodaeth i Athrawon, Menter Bro Dinefwr 2008 

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg gyda chymorth Gyrfa Cymru wedi comisiynu Trywydd Cyf i ymchwilio i fanteision dwyieithrwydd yn y gweithle.

Croeso i Gyrfa Cymru

Dewiswch iaith

Cymraeg

Welcome to Careers Wales

Please select your language

English