Cynnwys
Lluniau Swyddi
-
Peiriannydd Priffyrdd
Peiriannydd Priffyrdd
Cyflwyniad
Fel Peiriannydd Priffyrdd, byddwch yn ymwneud ag adeiladu lonydd newydd. Gallech fod yn gyfrifol am gynnal a chadw cyflwr ffyrdd sydd eisoes yn bodoli.
Gweithgareddau Gwaith
Fel Peiriannydd Priffyrdd, byddwch yn gweithio ar adeiladu ffyrdd newydd. Efallai y byddwch hefyd yn gyfrifol am gynnal a chadw cyflwr y ffyrdd a'r traffyrdd presennol. Pan fydd ffordd newydd yn cael ei hadeiladu, bydd angen i chi weithio'n agos gyda gweithwyr proffesiynol eraill. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Penseiri
- Syrfewyr Meintiau
- Peirianwyr Strwythurol, Traffig a Sifil
- Awdurdodau Cynllunio a Phriffyrdd lleol
- trigolion lleol
Rhinweddau Personol a Sgiliau
I ddod yn Beiriannydd Priffyrdd, byddwch chi angen:
- diddordeb mewn peirianneg
- sgiliau cyfathrebu da
- sgiliau TG
- sgiliau cynllunio
- gallu rheoli llawer o bobl
- gallu gweithio o dan amodau pob tywydd
Cyflog a Chyfleoedd
Cyflog
Amcan yw'r cyfraddau cyflog a roddir isod.
- Yn dechrau: £30,500 - £34,000
- Gyda phrofiad: £37,000 - £45,000
- Gall Uwch Beirianwyr Priffyrdd ennill £48,000 - £53,000
Oriau gwaith
Fel arfer bydd Peirianwyr Priffyrdd yn gweithio tua 37 awr yr wythnos, Dydd Llun i Ddydd Gwener. Mae'n bosibl y bydd angen i chi weithio ar benwythnosau a gyda'r nos, yn enwedig wrth i derfynau amser agosáu.
Ble allwn i weithio?
Gallai cyflogwyr fod yn gwmnïau adeiladau neu beirianneg sifil.
Mae cyfleoedd i Beirianwyr Priffyrdd yn codi gyda chyflogwyr o fewn trefi, dinasoedd ac ardaloedd gwledig ar draws y DU.
Gall yr yrfa hon gynnwys gweithio i
Ble y mae swyddi gweigion yn cael eu hysbysebu?
Caiff swyddi gweigion eu hysbysebu ar yr holl brif hysbysfyrddau swyddi, ar Dod o Hyd i Swydd, ac yng Nghanolfan Byd Gwaith.
Llwybrau Mynediad a Hyfforddiant
Llwybrau mynediad a hyfforddiant
Er mwyn bod yn Beiriannydd Priffyrdd, byddwch angen graddMeistr mewn Peirianneg (MEng) achrededig neu Faglor mewn Peirianneg (BEng) gydag anrhydedd mewn peirianneg sifil, neu bwnc perthnasol. Gellir astudio'r rhain fel cyrsiau 'sandwich', sy'n cynnwys profiad gwaith.
Gallwch wneud gradd sylfaen, HNC neu HND mewn peirianneg sifil cyn parhau i wneud cwrs gradd llawn. Wedi i chi gwblhau eich gradd neu eich gradd sylfaen/HNC/HND, bydd rhaid i chi wneud cyfnod o hyfforddiant sydd wedi'i gymeradwyo, cael profiad o waith gyda chyflogwr, a llwyddo mewn arolwg proffesiynol, cyn y byddwch chi'n gwbl gymwys.
Gall interniaeth fod yn ffordd wych o gychwyn ar yr yrfa hon. Darllenwch ein herthygl wybodaeth am ragor o fanylion, '
Gallai Prentisiaeth Lefel Uwch neu Brentisiaeth Gradd ifod yn le gwych i gychwyn hefyd. Am ragor o wybodaeth ynglyn ag ymgeisio am brentisiaethau, darllenwch ein herthygl wybodaeth,
Hyfforddiant
Pe hoffech chi hyfforddiant, mae Sefydliad y Peirianwyr Priffyrdd yn cynnig aelodaeth a chofrestriad proffesiynnol. Maent hefyd yn cynnig tystysgrif proffesiynol ym maes rheolaeth dros dro o draffig. Ar y cwrs, byddwch yn dysgu:
- hanfodion perianneg priffyrdd
- egwyddorion y reolaeth dros dro o draffigt
- gweithio fel rhan o dîm gwaith dros dro
Edrychwch ar y wefan am fanylion dyddiadau ac argaeledd.
Gallai cyrsiau eraill fod ar gael i chi'n lleol.
Profiad Gwaith
Byddai profiad blaenorol o weithio fel Peiriannydd Sifil, Technegydd neu Weithredwr Cynnal a Chadw Priffyrdd, yn ddefnyddiol ar gyfer yr yrfa hon.
Cynnydd
Gyda sgiliau a phrofiad, gallech barhau at swyddi Rheolwr Rheoli Priffyrdd neu Reolwr Masnachol.
Cymwysterau
I gael lle ar HNC, HND neu radd sylfaen, y gofynion fel arfer yw:
- 1 Lefel A, gyda mathemateg a ffiseg ymysg y pynciau a ffafrir
- 5 TGAU yn eich pynciau Safon Uwch ar radd C/4 neu uwch
I gael lle ar gwrs gradd perthnasol, y gofynion fel arfer yw:
- 2/3 Lefel A
- TGAU yn eich pynciau Safon Uwch ar radd C/4 neu uwch
- 2/3 TGAU arall ar raddau C/4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg, mathemateg, a ffiseg
Mae dewisiadau eraill yn lle Safon Uwch yn cynnwys:
- cymwysterau BTEC lefel 3
- Y Diploma Bagloriaeth Ryngwladol
Gwybodaeth Bellach
CITB-ConstructionSkills
Skills for the construction industry
Cyfeiriad Bircham Newton, Kings Lynn, Norfolk PE31 6RH
Gwefan www.cskills.org
CITB-ConstructionSkills Northern Ireland
Irish enquiries
Cyfeiriad Nutts Corner Training Centre, 17 Dundrod Road, Crumlin, County Antrim BT29 4SR
Ffôn 028 9082 5466
E-bost info@citbcsni.org.uk
Gwefan www.citbcsni.org.uk
Construction Employers Federation (CEF)
Irish enquiries
Cyfeiriad 143 Malone Road, Belfast BT9 6SU
Ffôn 028 9087 7143
E-bost mail@cefni.co.uk
Gwefan www.cefni.co.uk
Construction Skills Certification Scheme (CSCS)
Cyfeiriad Bircham Newton, Kings Lynn, Norfolk PE31 6RH
Ffôn 0844 5768777
Gwefan www.cscs.uk.com
bConstructive
Publisher: CITB-ConstructionSkills
Ffôn 0344 994 4010
E-bost myapprenticeship@citb.co.uk
Gwefan www.bconstructive.co.uk
Engineering Construction Industry Training Board (ECITB)
Cyfeiriad Blue Court, Church Lane, Kings Langley, Hertfordshire WD4 8JP
Ffôn 01923 260000
E-bost ecitb@ecitb.org.uk
Gwefan careers.ecitb.org.uk