Cynnwys
Lluniau Swyddi
-
Peiriannydd Optegol
Peiriannydd Optegol
Cyflwyniad
Fel Peiriannydd Optegol, byddwch yn gwneud ymchwil ac yn datblygu cynhyrchion fel:
- laserau nwy a chyflwr solet
- dyfeisiau isgoch
Gweithgareddau Gwaith
Fel Peiriannydd Optegol, byddwch yn gwneud ymchwil i gleientiaid penodol. Byddwch yn gwneud ymchwil ac yn datblygu cynhyrchion fel:
- laserau nwy a chyflwr solet
- dyfeisiau isgoch
- dyfeisiau maser
- dyfeisiau allyrru golau a goleusensitif
Hefyd, byddwch yn dylunio'r cydrannau electronig ac optegol i'r cynhyrchion hyn. Mae sylw i fanylder yn bwysig - byddwch yn gweithio gyda manylebau bach a manwl.
Mae Peirianwyr Optegol hefyd yn cymryd rhan mewn goruchwylio aelodau peirianegol a thechnegol eraill o'ch tîm. Byddwch yn gweithio gyda'r aelodau hyn trwy gydol y broses i wneud yn siwr bod y cydrannau rydych chi'n eu cynhyrchu yn gynaliadwy ac yn gallu cael eu hatgyweirio'n briodol ac yn hawdd.
Pan fydd y cydrannau wedi'u cynhyrchu, byddwch yn eu profi nhw i wneud yn siwr eu bod yn cyd-fynd â manyleb y cleient a'u bod yn ddiogel.
Mae'n bosibl y bydd gallu darllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg yn fantais wrth i chi chwilio am waith yng Nghymru.
Rhinweddau Personol a Sgiliau
I ddod yn Beiriannydd Optegol, bydd arnoch angen:
- sgiliau mesur a dadansoddi gofalus
- llygad dda am fanylion
- sgiliau cyfathrebu gwych, fel y gallwch weithio gydag amrywiaeth o wahanol bobl
- sgiliau TG gwych
- sgiliau rhagorol ar gyfer datrys problemau
- sgiliau gwrando
Cyflog a Chyfleoedd
Cyflog
Mae'r cyfraddau cyflog isod yn rhai bras:
- Cychwynnol: £30,500 - £34,000
- Gyda phrofiad: £37,000 - £45,500
- Swyddi uwch: £49,500 - £54,000
Oriau gwaith
Bydd y rhan fwyaf o Beirianwyr Optegol yn gweithio tua 35 i 40 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Fodd bynnag, gall fod angen dechrau'n gynnar, gorffen yn hwyr a gweithio ar y penwythnos, yn enwedig wrth nesáu at derfynau amser.
Ble allwn i weithio?
Mae cyflogwyr yn cynnwys cwmnïau ym maes Opteg a grwpiau gwasanaeth. Mae cyfleoedd i Beirianwyr Optegol ar gael gyda chyflogwyr mewn trefi a dinasoedd ledled y DU.
Ble mae swyddi'n cael eu hysbysebu?
Mae swyddi'n cael eu hysbysebu mewn papurau newyddion lleol/cenedlaethol, ar wefannau recriwtio ac ar wefannau cyflogwyr, ac ar Dod o Hyd i Swydd (www.gov.uk/jobsearch).
Mae gwefannau cyfryngau cymdeithasol, fel LinkedIn, Twitter neu Facebook, yn ffordd wych o rwydweithio, dod o hyd i swyddi a chysylltu â chyflogwyr posibl. Gwnewch yn siwr bod eich proffil yn eich cyflwyno mewn modd proffesiynol, a fydd yn apelio at ddarpar gyflogwyr.
Darllenwch ein herthygl wybodaeth gyffredinol,
Llwybrau Mynediad a Hyfforddiant
Llwybrau mynediad I fod yn Beiriannydd Optegol, bydd angen gradd arnoch mewn peirianneg optegol. Mae graddau eraill yn cynnwys peirianneg biofeddygol, biobeirianneg, neu beirianneg electrobeiriannol.
Hyfforddiant
I fod yn Beiriannydd Optegol, gallech ennill statws o broffesiwn Peiriannydd Siartredig neu Beiriannydd Corfforedig. Gallai hyn roi mantais i chi!
I gofrestru'n Beiriannydd Siartredig neu'n Beiriannydd Corfforedig, mae'n rhaid i chi ymuno â sefydliad peirianneg proffesiynol sydd wedi'i drwyddedu gan y Cyngor Peirianneg. Rhaid i chi ddangos ymrwymiad a chymhwysedd i'r cwrs er mwyn cofrestru.
Mae llwybrau at statws Peirianneg Siartredig yn cynnwys cwblhau:
- gradd anrhydedd achrededig mewn peirianneg neu dechnoleg, ynghyd â gradd Feistr neu Ddoethuriaeth berthnasol mewn peirianneg wedi'i hachredu gan sefydliad peirianneg proffesiynol, neu ddysgu pellach priodol hyd at lefel gradd Feistr
- neu radd MEng integredig, achrededig
Mae llwybrau at statws Peirianneg Corfforedig yn cynnwys cwblhau:
- gradd anrhydedd neu Faglor achrededig mewn peirianneg neu dechnoleg
- neu HNC, HND neu radd sylfaen mewn peirianneg neu dechnoleg, ynghyd â dysgu pellach priodol hyd at lefel gradd
- neu NVQ lefel 4, sydd wedi'i gymeradwyo gan sefydliad peirianneg trwyddedig
Ffordd wych o ddechrau ar yr yrfa hon yw trwy interniaeth. Darllenwch ein herthygl wybodaeth ar '
Profiad Gwaith
Byddai profiad blaenorol mewn swydd beirianneg (er enghraifft peirianneg drydanol neu fecanyddol) yn ddefnyddiol ar gyfer yr yrfa hon.
Byddai profiad o ddefnyddio dylunio drwy gymorth cyfrifiadur (CAD) yn ddefnyddiol iawn ar gyfer dechrau yn y maes hwn hefyd.
Dilyniant
Yn dibynnu ar lefel eich cymwysterau a'ch profiad, gallwch wneud cynnydd trwy ymgymryd â mwy o gyfrifoldeb am reoli prosiectau peirianneg a thimau o beirianwyr.
Mae'n bosibl y dewiswch weithio'n hunangyflogedig neu dderbyn gwaith contract ar sail llawrydd.
Cymwysterau
I gael lle ar gwrs gradd mewn peirianneg optegol neu bwnc cysylltiedig, y gofyniad arferol yw:
- 3 Safon Uwch
- TGAU yn eich pynciau Safon Uwch gyda graddau C/4 neu uwch
- 2/3 TGAU arall gyda graddau C/4 neu uwch
- yn aml, mae angen o leiaf 2 bwnc gwyddoniaeth (o blith Mathemateg, Ffiseg neu Fioleg) Safon Uwch
- fel arfer, mae angen TGAU Saesneg, mathemateg a phwnc gwyddoniaeth gyda graddau C/4 neu uwch
Gwiriwch wefannau colegau/prifysgolion yn ofalus iawn am eu hunion ofynion.
Mae cymwysterau eraill, fel cymhwyster BTEC lefel 3 perthnasol, neu Ddiploma'r Fagloriaeth Ryngwladol yn cael eu derbyn yn aml.
Mae rhai prifysgolion yn derbyn Bagloriaeth Cymru yn gyfwerth ag 1 Safon Uwch.
Cyfleoedd i Oedolion
Terfynau oedran
Mae'n anghyfreithlon i unrhyw sefydliad bennu terfynau oedran ar gyfer mynediad i waith, addysg neu hyfforddiant, oni bai eu bod yn gallu dangos bod gwir angen am y terfynau hyn.
Cyrsiau
Os nad oes gennych y cymwysterau angenrheidiol i gael lle ar y cwrs gradd neu HND o'ch dewis, gallai Cwrs Mynediad coleg neu brifysgol (e.e. Mynediad i Beirianneg) gynnig ffordd i mewn.
Mae'r rhain yn gyrsiau i'r bobl sydd heb ddilyn y llwybrau arferol i addysg uwch. Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol fel arfer, ond dylech gadarnhau hynny gyda cholegau unigol.
Mae Prifysgol Teesside yn cynnig BEng (Anrh.) mewn Peirianneg Gemegol, drwy ddosbarthiadau nos rhan-amser.
Mae Prifysgol Birmingham yn cynnig MSc mewn Peirianneg Biocemegol, trwy astudiaethau rhan-amser.
Hyfforddiant
Mae gwybodaeth am lwybrau ar gyfer cofrestru'n Beiriannydd Siartredig (CEng) neu Gorfforedig (IEng) ar gael ar wefan y Cyngor Peirianneg.
Cyllid
Mae cyllid ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig ar gael gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) a'r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) trwy brifysgolion.
Gwybodaeth Bellach
Apprenticeships
National Apprenticeship Service (NAS)
Ffôn 0800 015 0400
E-bost nationalhelpdesk@findapprenticeship.service.gov.uk
Gwefan www.apprenticeships.org.uk
Semta
Skills for science, engineering and manufacturing technologies
Cyfeiriad 14 Upton Road, Watford, Hertfordshire WD18 0JT
Ffôn 0845 6439001
E-bost customerservices@semta.org.uk
Gwefan www.semta.org.uk
Biotechnology and Biological Sciences Research Council (BBSRC)
Cyfeiriad Polaris House, North Star Avenue, Swindon SN2 1UH
Ffôn 01793 413200
E-bost webmaster@bbsrc.ac.uk
Gwefan www.bbsrc.ac.uk
Getting into Engineering Courses
Author: James Burnett Publisher: Trotman
Gwefan www.mpw.ac.uk/university-guides/getting-into/engineering-courses/
Engineering Council
Cyfeiriad 246 High Holborn, London WC1V 7EX
Ffôn 020 3206 0500
Gwefan www.engc.org.uk
Engineering and Physical Sciences Research Council (EPSRC)
Cyfeiriad Polaris House, North Star Avenue, Swindon SN2 1ET
Ffôn 01793 444000
Gwefan www.epsrc.ac.uk
Institution of Chemical Engineers (IChemE)
Cyfeiriad Davis Building, Railway Terrace, Rugby CV21 3HQ
Ffôn 01788 578214
E-bost enquiries@icheme.org
Gwefan www.icheme.org
Careers Wales
Welsh enquiries
Ffôn 0800 100900
E-bost post@careerswalesgyrfacymru.com
Gwefan www.careerswales.com