Cynnwys
Lluniau Swyddi
-
Rheolwr Masnachol
Rheolwr Masnachol
Cyflwyniad
Fel Rheolwr Masnachol, byddwch yn gyfrifol am weithrediadau'r busnes o ddydd i ddydd, ac yn darllen rheolau'r cwmni er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol.
Adwaenir hefyd fel
- Rheolwr Contractau Masnachol
- Rheolwr Masnachol Rhanbarthol
- Cyfarwyddwr Masnachol
Gweithgareddau Gwaith
Fel Rheolwr Masnachol, byddwch yn gyfrifol am weithrediadau'r busnes o ddydd i ddydd. Hefyd, byddwch yn gyfrifol am astudio rheolau'r cwmni i wneud yn siwr eu bod yn gyfredol.
Bydd hyn yn cynnwys delio ag unrhyw broblemau gan y tîm neu gwynion gan gwsmeriaid sydd angen sylw. Hefyd, gallech fod yn delio â materion contract a masnachol, fel dod o hyd i fwy o staff ar gyfer y safle neu drafod gyda'ch cleientiaid a'ch cymdeithion busnes.
Mae gofalu am arian y cwmni hefyd yn dasg arall gallech chi fod yn ymwneud â hi. Gallai hyn gynnwys cytuno ar gyllidebau a chreu rhagolygon gwerthu ar gyfer pob adran, yna gwneud unrhyw newidiadau.
Hefyd, gallech chi fod yn gweithio gyda gwahanol gwmnïau a gwledydd i gynnig y gwerth gorau i gwsmeriaid. Mae'r cwmnïau gallech chi fod yn gweithio gyda nhw yn cynnwys Sky, Network Rail, EE a Bombardier, i enwi ond rhai!
Fel Rheolwr Masnachol, byddwch yn dangos yr arferion busnes gorau ar gyfer rheoli materion a thasgau pob dydd i'ch gweithwyr. Gallai'r rhain gynnwys cwynion, problemau a dangos y ffordd orau o reoli baich gwaith.
Hefyd, byddwch yn gyfrifol am reoli'r berthynas â chwsmeriaid presennol a chwmseriaid newydd, ac am sicrhau bod cysylltiadau cryf yn cael eu cynnal.
Gallai'r gallu i ddarllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg fod o fantais i chi wrth chwilio am waith yng Nghymru.
Rhinweddau Personol a Sgiliau
I fod yn Rheolwr Masnachol, bydd arnoch angen:
- y gallu i weithio mewn tîm
- sgiliau cyflwyno da
- sgiliau TG
- sgiliau symbylu gwych
- gallu gweithio o dan bwysau a chwblhau erbyn terfynau amser sy'n nesáu
- sgiliau cadw amser
- sgiliau datrys problemau da
- dealltwriaeth ragorol o sut mae busnesau'n gweithio ac yn gweithredu, er enghraifft yr ochr gyllid
Cyflog a Chyfleoedd
Cyflog
Mae'r cyfraddau cyflog isod yn rhai bras:
- Cychwynnol: £31,000 - £35,000
- Gyda phrofiad: £39,000 - £48,500
- Safleoedd uwch: £55,000 - £65,000
Oriau gwaith
Fel arfer, mae Rheolwyr Masnachol yn gweithio 39 awr yr wythnos, a allai gynnwys gwaith sifft a gweithio ar benwythnosau.
Ble allwn i weithio?
Mae cyflogwyr yn cynnwys:
- cwmnïau gweithgynhyrchu
- cwmnïau trenau
- cwmnïau logisteg
- cwmnïau telathrebu
- gwasanaethau iechyd
- prifysgolion
Ble mae swyddi'n cael eu hysbysebu?
Caiff swyddi eu hysbysebu ar yr holl brif hysbysfyrddau swyddi, ar Universal Jobmatch, ac yn y Ganolfan Byd Gwaith.
Llwybrau Mynediad a Hyfforddiant
Llwybrau Mynediad Mae angen cymwysterau ar gyfer yr yrfa hon. Gallai rhai cyflogwyr ofyn am radd neu HND mewn pwnc perthnasol. Mae graddau amser llawn a rhan-amser a graddau sylfaen ar gael mewn pynciau perthnasol.
Fodd bynnag, gall rhai cyflogwyr roi mwy o bwys ar brofiad busnes perthnasol, uniongyrchol, nag ar gymwysterau. Gallai'r profiad hwn gynnwys:
- cyllid
- prynu
- rheoli adnoddau dynol
- rheoli
Ffordd wych o ddechrau ar yr yrfa hon yw trwy interniaeth. Darllenwch ein herthygl wybodaeth ar '
Hyfforddiant
O hoffech fwy o hyfforddiant, mae'r Sefydliad Rheolaeth Fasnachol yn cynnig cwrs ar reolaeth fasnachol.
Bydd y cwrs hwn yn caniatáu i chi gwblhau pedair rhan y dystysgrif, sef:
- rhan 1: Dyma lle y byddwch yn dysgu am gyfathrebiadau busnes rhyngwladol, rheoli a gweinyddu busnes, a marchnata.
- rhan 2: Byddwch yn dysgu am gyfrifeg, rheoli risg, cyfraith busnes a thrafod contractau
- rhan 3: Mae'r rhan hon yn cynnwys dysgu am reolaeth strategol, marchnata a rheoli prosiectau, yn ogystal â gwasanaeth cwsmeriaid
- rhan 4: Byddwch yn cwblhau rheolaeth logisteg a chadwyn gyflenwi a rheolaeth ariannol, a'r amgylchedd busnes rhyngwladol
I gael lle ar y cwrs hwn, bydd arnoch angen un Safon Uwch a thri TGAU mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth. Caiff cymhwyster BTEC lefel 3 ei dderbyn hefyd.
Gallai cyrsiau eraill fod ar gael yn eich ardal.
Profiad Gwaith
Byddai profiad blaenorol o weithio ar safle adeiladu neu brofiad perthnasol o weithio yn y diwydiant masnachol yn ddefnyddiol iawn ar gyfer yr yrfa hon.
Cymwysterau
Mae'r gofynion ar gyfer dechrau yn yr yrfa hon yn amrywio, ond mae gradd, HND/HNC neu radd sylfaen gan rai Rheolwyr Masnachol.
I gael lle ar gwrs gradd mewn unrhyw bwnc, y gofyniad arferol yw:
- 2/3 safon uwch.
- TGAU ar radd C/4 neu uwch yn eich pynciau Safon Uwch.
- 2/3 TGAU arall ar radd C/4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg a mathemateg.
Mae cymwysterau eraill yn aml yn dderbyniol yn lle safon uwch, er enghraifft:
- Cymwysterau BTEC Lefel 3
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol.
Fel arfer, i wneud HND, HNC neu radd sylfaen berthnasol, bydd arnoch angen:
- 1 safon uwch.
- TGAU ar radd C/4 neu uwch yn eich pwnc safon uwch.
- 3/4 TGAU arall ar radd C/4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg a mathemateg.
Mae rhai prifysgolion yn derbyn Bagloriaeth Cymru yn gyfwerth ag un safon uwch.
Cyfleoedd i Oedolion
Cyfyngiadau oedran
Mae'n anghyfreithlon i unrhyw sefydliad bennu terfynau oedran ar gyfer mynediad i waith, addysg neu hyfforddiant, oni bai eu bod yn gallu dangos bod gwir angen am y terfynau hyn.
Sgiliau/profiad
Nid oes angen cymwysterau ar gyfer yr yrfa hon bob amser. Bydd llawer o gyflogwyr yn rhoi mwy o bwys ar brofiad busnes perthnasol, uniongyrchol, nag ar gymwysterau. Gallai'r profiad hwn gynnwys:
- cyllid
- prynu
- rheoli adnoddau dynol
- gwasanaeth cwsmeriaid
- rheoli prosiect
Cyrsiau
Os nad oes gennych y cymwysterau i gael lle ar y cwrs gradd neu HND o'ch dewis, gallai Cwrs Mynediad coleg neu brifysgol gynnig ffordd i mewn. Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol fel arfer, ond dylech ddarllen manylion cyrsiau unigol.
Mae'r Sefydliad Rheoli Gweithrediadau yn cynnig Tystysgrifau, Diplomâu a Diplomâu Uwch mewn Rheoli Gweithrediadau, drwy ddysgu o bell. Mae manylion darparwyr cyrsiau ar gael ar ei wefan.
Mae Prentisiaethau Lefel Uwch ar gael.
Ystadegau
- Mae 6% yn gweithio'n rhan-amser.
- Mae 13% yn gweithio oriau hyblyg.
- Mae 1% yn gweithio dros dro.
Gwybodaeth Bellach
Apprenticeships
National Apprenticeship Service (NAS)
Ffôn 0800 015 0400
E-bost nationalhelpdesk@findapprenticeship.service.gov.uk
Gwefan www.apprenticeships.org.uk
Semta
Skills for science, engineering and manufacturing technologies
Cyfeiriad 14 Upton Road, Watford, Hertfordshire WD18 0JT
Ffôn 0845 6439001
E-bost customerservices@semta.org.uk
Gwefan www.semta.org.uk
The Institute of Commercial Management
Ffôn 01202 490 555
E-bost info@icm.education
Gwefan icm.education