Cynnwys
Lluniau Swyddi
-
Mae Richard yn Rheolwr Contractau ar gyfer tîm o Simneiwyr
-
Rheolwr Contractau
Rheolwr Contractau
Cyflwyniad
Fel Rheolwr Contractau, eich gwaith chi fydd goruchwylio prosiectau o'r dechrau i'r diwedd, gan wneud yn siwr bod y gwaith yn cael ei orffen ar amser ac o fewn y gyllideb. Bydd gennych gyfrifoldeb penodol am ddrafftio, gwerthuso, cyd-drafod a chyflawni cytundebau busnes â chleientiaid, contractwyr neu is-gontractwyr
Fideo - Mark W: Rheolwr Contractau
Gweithgareddau Gwaith
Fel Rheolwr Contractau, eich gwaith chi fydd goruchwylio prosiectau o'r dechrau i'r diwedd, gan wneud yn siwr bod y gwaith yn cael ei gwblhau ar amser ac o fewn y gyllideb. Bydd gennych gyfrifoldeb penodol am ddrafftio, gwerthuso, cyd-drafod a chyflawni cytundebau busnes â chleientiaid, contractwyr neu is-gontractwyr.
Mae Rheolwyr Contractau'n cael eu defnyddio mewn llawer o wahanol ddiwydiannau, gan gynnwys:
- adeiladu
- adwerthu
- y GIG
- prifysgolion
Fe allech fod yn gweithio'n uniongyrchol i gleient, yn nodi pa waith sydd angen ei wneud ac yna'n cysylltu â'r bobl a allai wneud y gwaith hwnnw i chi o bosibl - contractwyr. Yna, chi fydd yn gyfrifol am weithio gyda'r contractwyr i gyd-drafod contract sy'n cynnwys y ffioedd i'w talu, y gwaith i'w wneud, yr amserlen, ac ati.
Neu, fe allech fod yn gweithio i gontractwyr ac yn cyd-drafod â chleientiaid ac is-gontractwyr. Eich blaenoriaethau o hyd fydd gwneud yn siwr bod y gwaith rydych chi wedi'i gontractio i'w wneud yn cael ei gwblhau o fewn yr amser a'r gyllideb y cytunwyd arnynt.
Hefyd, gallai eich dyletswyddau fel Rheolwr Contractau gynnwys:
- rheoli tendrau
- rheoli ansawdd - gwneud yn siwr bod y gwaith yn cael ei wneud yn unol â'r safonau disgwyliedig
- cynnal archwiliadau iechyd a diogelwch - gwneud yn siwr bod rheoliadau iechyd a diogelwch yn cael eu dilyn yn gywir
- cynnal perthynas waith dda a chadarnhaol gyda chleientiaid, contractwyr ac is-gontractwyr
- cadeirio cyfarfodydd rhwng cleientiaid, contractwyr ac is-gontractwyr
Rhinweddau Personol a Sgiliau
I ddod yn Rheolwr Contractau, byddwch angen:
- sgiliau TG
- y gallu i weithio yn ôl amserlenni tynn
- sgiliau rheoli prosiectau
- y gallu i drefnu pobl
- gwybod am unrhyw ofynion cyfreithiol a deddfwriaeth sy'n gysylltiedig â'ch diwydiant
- trwydded yrru - yn aml, byddwch chi'n teithio o gwmpas y wlad yn gweithio ar wahanol safleoedd
Cyflog a Chyfleoedd
Cyflog
Cyfraddau cyflog bras yw'r cyfraddau isod.
- Cyflog cychwynnol: £25,000 - £30,000
- Gyda phrofiad: £40,000 - £60,000
- Mae Uwch Reolwyr Contractau yn ennill £65,000
Oriau gwaith
Byddwch yn debygol o weithio tua 35-40 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Efallai y bydd angen gweithio'n hwyr ac ar y penwythnos weithiau.
Ble allen i weithio?
Mae cyflogwyr yn cynnwys y diwydiannau canlynol:
- adeiladu
- adwerthu
- y GIG
- addysg
Fe allech weithio yn unrhyw le yn y byd trwy fod yn Rheolwr Contractau.
Ble mae swyddi'n cael eu hysbysebu?
Caiff swyddi eu hysbysebu ar Worktrack, mewn papurau newyddion lleol/cenedlaethol, cyhoeddiadau'r diwydiant, mewn Canolfannau Byd Gwaith ac ar wefan Universal Jobmatch.
Llwybrau Mynediad a Hyfforddiant
Llwybrau mynediad
Bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn disgwyl bod gennych radd cyn dechrau gweithio fel Rheolwr Cytundebau. Mae sawl prifysgol yn cynnig cyrsiau gradd perthnasol. Fel rheol, byddwch angen o leiaf dwy Safon Uwch er mwyn cael lle ar un o'r cyrsiau yma. Wedi i chi gwblhau eich Safon Uwch, gallech gael lle ar Uwch-brentisiaeth neu Brentisiaeth Lefel Ganolradd mewn maes penodol. Am ragor o wybodaeth ynglyn ag ymgeisio am brentisiaethau, darllenwch ein herthygl wybodaeth,
Cymwysterau
I gael lle ar gwrs gradd perthnasol, dyma'r gofynion arferol:
- 2/3 safon uwch
- TGAU gradd C/4 neu uwch yn eich pynciau safon uwch
- 2/3 TGAU arall gradd C/4 neu uwch
- Fel arfer, mae angen TGAU Saesneg, mathemateg a phwnc gwyddoniaeth gyda gradd C/4 neu uwch.
Fel arfer, i gael eich derbyn ar Brentisiaeth Lefel Uwch, byddwch angen 5 TGAU gradd C/4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg a mathemateg, neu bydd angen i chi fod wedi cwblhau Prentisiaeth Lefel Canolradd.
Fel arfer, i gael eich derbyn ar Uwch-brentisiaeth, byddwch angen o leiaf 2 safon uwch neu Brentisiaeth Lefel Uwch.
Fel arfer, i gael eich derbyn ar Brentisiaeth Gradd, byddwch angen o leiaf 2 safon uwch.
Mae cymwysterau eraill, fel cymhwyster BTEC lefel 3 perthnasol neu Ddiploma Bagloriaeth Ryngwladol yn cael eu derbyn yn aml. Darllenwch y prosbectysau'n ofalus. Mae rhai prifysgolion yn derbyn cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn gyfwerth ag un safon uwch.
Cyfleoedd i Oedolion
Terfynau oedran
Mae'n anghyfreithlon i unrhyw sefydliad bennu terfynau oedran ar gyfer mynediad i waith, addysg neu hyfforddiant, oni bai eu bod yn gallu dangos bod gwir angen am y terfynau hyn.
Sgiliau/profiad
Mae llawer o bobl yn dechrau yn y gwaith hwn ar ôl ennill sgiliau perthnasol, a chymwysterau o bosibl, yn eu diwydiant arbenigol. Mae profiad yn bwysig iawn yn yr yrfa hon.
Gwybodaeth Bellach
Apprenticeships
National Apprenticeship Service (NAS)
Ffôn 0800 015 0400
E-bost nationalhelpdesk@findapprenticeship.service.gov.uk
Gwefan www.apprenticeships.org.uk
Skills Development Scotland - Modern Apprenticeships
Ffôn 0800 9178000
E-bost info@skillsdevelopmentscotland.co.uk