Cynnwys
Lluniau Swyddi
-
Mae David yn Rheolwr Costau, sy'n helpu i amcangyfrif cost prosiectau adeiladu amrywiol
-
Amcangyfrifwr
-
Amcangyfrifwr
Amcangyfrifwr
Cyflwyniad
Fel Amcangyfrifwr, chi fydd yn gyfrifol am gyfrifo faint bydd cost gwneud prosiect penodol. Gallech chi fod yn gweithio i gwmni gweithgynhyrchu, peirianneg neu adeiladu, yn amcangyfrif cost cynhyrchu amrywiaeth fawr o gynhyrchion neu wasanaethau.
Adwaenir hefyd fel
- Peiriannydd Costau
Fideo - Rhona: Syrfëwr Meintiau Dan Hyfforddiant
Fideo - David: Rheoli Costau
Gweithgareddau Gwaith
Fel Amcangyfrifwr, chi fydd yn gyfrifol am gyfrifo faint bydd cost gwneud prosiect penodol. Gallech chi fod yn gweithio i gwmni gweithgynhyrchu, peirianneg neu adeiladu, yn amcangyfrif cost cynhyrchu amrywiaeth fawr o gynhyrchion neu wasanaethau.
Mae'r mathau o bethau gallech chi fod yn gweithio arnyn nhw'n cynnwys:
- gosod inswleiddio thermol mewn adeilad
- adeiladu traffordd neu ffordd fawr
- prosiectau adeiladu eraill, fel tai neu ffatrïoedd
- gosod systemau gwres a phlymwaith
Fel rhan o'r broses amcangyfrif, gallech chi fod yn gyfrifol am lunio tendrau. Mae tendr yn ddogfen sy'n gwahodd cyflenwyr allanol i ddweud faint bydd yn ei gostio iddynt gyflenwi cynnyrch neu wasanaeth penodol i chi. Yr enw ar hyn yw 'cais'. Rhaid i chi ddatgan yn gywir pa gynnyrch neu wasanaeth rydych chi'n gofyn amdano, fel bod y cyflenwyr yn gallu cyflwyno cais cywir i chi. Gwnewch yn siwr eich bod chi'n deall union ofynion y prosiect yn llawn. Yna, gallwch ddewis y cais sy'n rhoi'r fargen orau i'ch cwmni.
Gallai eich dyletswyddau eraill fel Amcangyfrifwr gynnwys:
- Nodi a chyfrifo costau prosiectau yn gywir, gan gynnwys amser cynhyrchu, deunyddiau a chostau llafur
- Teithio i safleoedd prosiectau, os bydd angen, i gasglu gwybodaeth am y deunyddiau a'r llafur fydd eu hangen, a ffactorau eraill
- Darllen a deall glasbrintiau a dogfennau technegol er mwyn paratoi amcangyfrifon
- Gweithio'n agos gyda pheirianwyr, rheolwyr, penseiri, cleientiaid a chontractwyr allanol ar amcangyfrifon
- Defnyddio meddalwedd gyfrifiadurol arbenigol i gyfrifo amcangyfrifon
- Cyfrifo cost-effeithiolrwydd neu broffidioldeb cynhyrchion neu wasanaethau yn ofalus
- Argymell ffyrdd o wneud cynnyrch yn fwy cost-effeithiol neu broffidiol
- Gweithio gyda thimau gwerthu i baratoi amcangyfrifon a cheisiadau ar gyfer cleientiaid
Rhinweddau Personol a Sgiliau
I ddod yn Amcangyfrifydd, byddwch angen:
- safon rhifedd dda iawn
- sgiliau cyfathrebu gwych
- sgiliau TG
- y gallu i ddarllen a deall lluniadau a glasbrintiau technegol
- sgiliau ysgrifennu adroddiadau
- yr hyder i gyd-drafod a bod yn ddigon blaengar i wneud eich penderfyniadau eich hun
Cyflog a Chyfleoedd
Cyflog Bras amcan yw'r cyfraddau cyflog a roddir isod.
- Dechrau: £23,500-£26,500
- Gyda phrofiad: £28,000-£32,000
- Mae Uwch Amcangyfrifwyr yn ennill £35,000-£40,000
Llwybrau Mynediad a Hyfforddiant
Llwybrau mynediad
Bydd sawl cyflogwr angen i chi fod wedi cwblhau gradd er mwyn bod yn Amcangyfrifwr. Mae cyrsiau gradd mewn pynciau perthnasol ar gael mewn llawer o brifysgolion. Er mwyn cael eich derbyn ar un o'r cyrsiau hyn, bydd angen o leiaf ddwy Safon Uwch arnoch fel arfer.
Ar ôl gorffen Safon Uwch, efallai gallech gael eich derbyn ar Brentisiaeth Gradd mewn maes perthnasol. Edrychwch ar ein herthygl wybodaeth
Gallai interniaeth fod yn ffordd wych o gychwyn ar yr yrfa hon. Edrychwch ar ein herthygl wybodaeth '
Dilyniant
Yn dibynnu ar eu cymhwyster, gall Amcangyfrifwyr symud ymlaen i dderbyn mwy o gyfrifoldeb am reoli prosiectau peirianneg a thimau o beirianwyr.
Bydd rhai Amcangyfrifwyr yn dewis bod yn hunangyflogedig neu dderbyn gwaith contract ar eu liwt eu hunain.
Profiad Gwaith Bydd gan rai ymgeiswyr sgiliau perthnasol o fod wedi gweithio mewn meysydd manwerthu/masnach, neu fel Cynorthwyydd Prynu.
Cymwysterau
Fel arfer, i gael eich derbyn ar Brentisiaeth Lefel Uwch neu Uwch-brentisiaeth, bydd angen o leiaf pump TGAU A* - C (9 - 4), gan gynnwys Saesneg a mathemateg arnoch, ac efallai dwy safon uwch. Fel arfer, i gael eich derbyn ar Brentisiaeth Gradd, bydd angen o leiaf ddwy safon uwch arnoch. Fel arfer, i gael eich derbyn ar gwrs gradd addas, byddwch angen:
- 2/3 safon uwch.
- TGAU gradd C/4 neu uwch yn eich pynciau safon uwch
- 2/3 TGAU arall gradd C/4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg a mathemateg
- Cymwysterau Cenedlaethol BTEC lefel 3
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol
Cyfleoedd i Oedolion
Terfynau oedran
Mae'n anghyfreithlon i unrhyw sefydliad bennu terfynau oedran ar gyfer mynediad i waith, addysg neu hyfforddiant, oni bai eu bod yn gallu dangos bod gwir angen am y terfynau hyn.
Sgiliau/profiad
Mae rhai pobl sy'n dechrau gweithio yn y maes hwn wedi datblygu sgiliau perthnasol ym maes manwerthu/cyfanwerthu neu werthu, neu fel cynorthwy-ydd pwrcasu.
Gallai Prentisiaethau Lefel Canolradd, Prentisiaethau Lefel Uwch ac Uwch-brentisiaethau mewn Pwrcasu a Rheoli Cyflenwi fod ar gael yn eich ardal chi.
Cyrsiau Mynediad
Os nad oes gennych y cymwysterau i gael lle ar y cwrs gradd neu HND/HNC o'ch dewis, gallai cwrs Mynediad coleg neu brifysgol (er enghraifft, Mynediad i Fusnes) gynnig ffordd i mewn.
Mae'r cyrsiau hyn ar gyfer pobl sydd heb ddilyn y llwybrau arferol i addysg uwch. Fel arfer, nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol, ond dylech holi colegau unigol am hyn.
Gwybodaeth Bellach
Apprenticeships
National Apprenticeship Service (NAS)
Ffôn 0800 015 0400
E-bost nationalhelpdesk@findapprenticeship.service.gov.uk
Gwefan www.apprenticeships.org.uk
CITB-ConstructionSkills
Skills for the construction industry
Cyfeiriad Bircham Newton, Kings Lynn, Norfolk PE31 6RH
Gwefan www.cskills.org
CITB-ConstructionSkills Northern Ireland
Irish enquiries
Cyfeiriad Nutts Corner Training Centre, 17 Dundrod Road, Crumlin, County Antrim BT29 4SR
Ffôn 028 9082 5466
E-bost info@citbcsni.org.uk
Gwefan www.citbcsni.org.uk
Engineering Construction Industry Training Board (ECITB)
Cyfeiriad Blue Court, Church Lane, Kings Langley, Hertfordshire WD4 8JP
Ffôn 01923 260000
E-bost ecitb@ecitb.org.uk
Gwefan careers.ecitb.org.uk
Royal Institution of Chartered Surveyors (RICS)
Cyfeiriad RICS HQ, Parliament Square, London SW1P 3AD
Ffôn 0870 3331600
E-bost contactrics@rics.org
Gwefan www.rics.org
Royal Institution of Chartered Surveyors (RICS) Scotland
Scottish enquiries
Cyfeiriad 9 Manor Place, Edinburgh EH3 7DN
Ffôn 0131 2257078
E-bost scotland@rics.org
Gwefan www.rics.org