Cynnwys
Astudiaethau Achos
Lluniau Swyddi
-
Mae cynnal cyfarfodydd cynllunio a monitro ag aelodau eraill tîm y prosiect yn gymorth i osgoi problemau.
-
Mae rheolwyr prosiectau'n defnyddio rhaglenni cyfrifiadurol i'w helpu i gynllunio gwahanol rannau prosiect.
-
Gwirio'r rotâu gwaith a'r amserlenni cynllunio.
-
Mae angen i reolwyr prosiectau gadw mewn cysylltiad rheolaidd â chleientiaid ac aelodau eraill y tîm, hyd yn oed os byddant yn gweithio mewn mannau gwahanol.
-
Trafod y cynlluniau ag aelod o'r tîm prosiectau.
-
Mae angen yn aml i reolwyr prosiectau sydd yn y diwydiant adeiladu weithio yn yr awyr agored.
-
Rheolwr Prosiect
Rheolwr Prosiectau
Cyflwyniad
Mae rheolwyr prosiect yn defnyddio sgiliau rheoli a sgiliau pobl i reoli newid trwy gynllunio a chydlynu prosiectau. Maent yn ceisio sicrhau bod yr holl weithgareddau sydd wedi eu cynllunio yn cael eu gorffen mewn pryd, eu bod o ansawdd uchel, yn unol â'r fanyleb ac o fewn y gyllideb.
Adwaenir hefyd fel
- Rheolwr Prosiectau
- Rheolwr Cynllunio
Fideo - Jamie: Rheolwr Prosiect TGCh
Fideo - Ian: Rheolwr Adeiladu
Fideo - Beth: Rheolwr Prosiectau
Gweithgareddau Gwaith
Fel Rheolwr Prosiect, byddwch yn cynllunio, rheoli a chyd-gysylltu pob math o brosiectau a thimoedd. Gallech fod yn ymwneud ag adeiladu, TG, ymchwil, rheoli newid neu reoli prosiect cyffredinol, er enghraifft.
Ar ddechrau prosiect, mae achos busnes yn cael ei gynhyrchu. Mae hwn yn amlinellu pwrpas y prosiect ac yn cymharu'r costau gyda'r arbedion neu fuddion disgwyliedig. Mae'r cwsmer neu ddefnyddiwr y system yn gorfod cymeradwyo hwn cyn bod gwaith pellach yn gallu dechrau.
Wedyn, bydd angen i chi siarad â'r cwsmer neu ddefnyddiwr i ddarganfod beth yn union bydd angen i'r prosiect ei gyflawni. Efallai ichi gymryd cyfrifoldeb am gostio a phrisio'r prosiect, a chytuno'r gyllideb. Gall y gwaith manwl o baratoi peth o'r wybodaeth hon gael ei wneud gan eraill.
Yn aml, byddwch yn defnyddio pecynnau meddalwedd arbenigol er mwyn cynllunio holl weithgareddau'r prosiect, ac i benderfynu erbyn pryd y mae angen cwblhau pob gweithgaredd.
Fel Rheolwr Prosiect, rhaid ichi sicrhau bod gan holl aelodau tîm y prosiect yr offer a'r adnoddau y mae eu hangen arnynt i wneud y swydd. Rhaid ichi fonitro cynnydd y prosiect yn ofalus ac adrodd yn rheolaidd i'r cwsmer neu'r defnyddiwr.
Byddwch yn cadw trac o faint o arian sydd wedi'i wario ar y prosiect a faint o amser sydd wedi'i dreulio arno; byddwch yn ceisio darganfod ffyrdd o gwblhau yr holl weithgareddau cynlluniedig yn llwyddiannus, ar amser, o fewn y swm o arian a ganiateir ac i'r ansawdd gofynnol.
Ar ddiwedd pob prosiect, byddwch yn adolygu'n ofalus yr hyn a aeth yn hwylus a'r hyn na fu mor hwylus, fel bod perfformiad y tîm ac ansawdd y cynnyrch neu wasanaeth yn gallu cael eu gwella.
Yn aml, mae Rheolwyr Prosiect yn gyfrifol am sawl prosiect ar yr un pryd.
Efallai bydd rhaid ichi deithio o gwmpas yn ymweld â gwahanol gwsmeriaid a safleoedd.
Mae'n bosibl y bydd y gallu i ddarllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg o fantais ichi wrth chwilio am waith yng Nghymru.
Rhinweddau Personol a Sgiliau
I ddod yn Rheolwr Prosiect, byddwch angen:
- bod yn gynllunydd da sydd yn gallu blaenoriaethu tasgau
- sgiliau rheoli amser
- dull rhesymegol o ddadansoddi a datrys problemau
- gallu meddwl ymlaen a pheidio cynhyrfu o dan bwysau
- sgiliau cyfathrebu; dylech fod yn dda yn gwrando a bydd angen i chi hefyd allu siarad yn dda o flaen grwpiau o bobl
- sgiliau rheoli; dylech allu arwain ac ysgogi eraill
- bod yn hyderus, yn llawn cymhelliant, yn gallu addasu, yn ddoeth ac yn gallu gwneud penderfyniadau
- sgiliau rhif er mwyn rheoli prosiectau yn dda yn ariannol
Cyflog a Chyfleoedd
Cyflog Mae'r cyfraddau cyflog isod yn rhai bras.
- Cyflog cychwynnol: £32,500 - £37,500
- Gyda phrofiad: £42,500 - £53,000
- Mae Uwch Reolwyr Prosiect yn ennill £59,500 - £67,000
- cwmnïau adeiladu a pheirianneg
- prosiectau ynni adnewyddadwy
- elusennau
- sefydliadau TG
- cwmnïau bancio, cyllid ac yswiriant.
Llwybrau Mynediad a Hyfforddiant
Llwybrau mynediad Mae gan lawer sy'n dod men i'r yrfa hon
- rheoli prosiect a'r amgylchedd gweithredu
- cylch bywyd prosiect
- y strwythurau rheoli mae prosiectau'n gweithredu iddyn nhw
- cynllunio rheoli prosiect
- rheoli terfynau
- rheoli amserlenni ac adnoddau
- rheoli risg a rheoli materion
- rheoli ansawdd prosiect
- cyfathrebu
- arweiniad a gwaith tîm
Cymwysterau
I wneud cwrs gradd mewn pwnc busnes, y gofynion arferol yw:
- 2/3 Safon Uwch
- TGAU gradd C/4 neu'n uwch mewn 2/3 o bynciau eraill
- TGAU Saesneg a mathemateg
- cymwysterau lefel 3BTEC
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol
Cyfleoedd i Oedolion
Cyfyngiadau Oedran
Mae'n anghyfreithlon i unrhyw sefydliad osod cyfyngiadau oedran ar gyfer mynediad i gyflogaeth, addysg a hyfforddiant, heblaw eu bod yn gallu dangos bod gwir angen am y cyfyngiadau hyn.
Mynediad
Mae fel rheol gan newydd ddyfodiaid i reolaeth prosiect cyffredinol radd sy'n berthnasol i fusnes. Gall ymrwymo i MBA (Meistri Gweinyddiaeth Busnes) wella eich cyfleon am gyflogaeth.
Cyrsiau mynediad
Os nad yw'r cymwysterau arferol gyda chi i gael mynediad i'ch cwrs gradd dewisol, gall cwrs Mynediad coleg neu brifysgol, er enghraifft, Mynediad i Fusnes, fod yn ffordd i mewn.
Mae'r cyrsiau hyn fel rheol wedi'u cynllunio ar gyfer pobl nad sydd wedi dilyn y llwybr arferol i addysg uwch. Nid oes angen cymwysterau ffurfiol fel rheol, ond dylech wirio hyn gyda cholegau unigol.
Dysgu o bell
Mae cyrsiau dysgu o bell a chyrsiau dysgu hyblyg perthnasol ar gael mewn nifer o ganolfannau, sy'n cynnwys:
- Cymdeithas Rheoli Prosiectau (APM) yn cynnig tystysgrif (APM-IC), a chymwysterau pellach ar dair lefel: sylfaen, ymarferydd a rheolwr prosiect trwyddedig.
- Cyrsiau rheoli prosiect PRINCE2. Mae gwybodaeth bellach a rhestr lawn o ddarparwyr ar gael o wefan Grwp APM.
- Mae'r Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI) yn cynnig cymwysterau rheoli prosiect perthnasol. Mae gwybodaeth bellach a rhestr lawn o ddarparwyr ar gael o'r CMI.
Gwybodaeth Bellach
Apprenticeships
National Apprenticeship Service (NAS)
Ffôn 0800 015 0400
E-bost nationalhelpdesk@findapprenticeship.service.gov.uk
Gwefan www.apprenticeships.org.uk
Skills Development Scotland - Modern Apprenticeships
Ffôn 0800 9178000
E-bost info@skillsdevelopmentscotland.co.uk
Association for Project Management (APM)
Gwefan www.apm.org.uk
Chartered Management Institute (CMI)
Ffôn 01536 204222
E-bost enquiries@managers.org.uk
Gwefan www.managers.org.uk
People Exchange Cymru (PEC)
Public sector recruitment portal for Wales
E-bost peopleexchangecymru@gov.wales