Cynnwys
- Cyflwyniad
- Fideo - Andrew: Cynorthwyydd Dylunio Diwydiannol
- Fideo - Rebecca: Dylunydd Ffasiwn
- Fideo - Lee: Dylunydd Graffeg
- Fideo - Alan: Dylunydd Dodrefn
- Fideo - Alys: Dylunydd Gemwaith
- Fideo - Nick: Dylunydd Crefft
- Fideo - Helen: Dylunydd Theatr
- Fideo - Stuart: Dylunydd Gwydr
- Gweithgareddau Gwaith
- Rhinweddau Personol a Sgiliau
- Cyflog a Chyfleoedd
- Llwybrau Mynediad a Hyfforddiant
- Cymwysterau
- Cyfleoedd i Oedolion
- Gwybodaeth Bellach
Astudiaethau Achos
Lluniau Swyddi
-
Mae dylunwyr yn braslunio syniadau ac yn dewis y goreuon i'w dangos i'r cleient.
-
Mae dylunwyr yn defnyddio cyfrifiaduron i greu dyluniadau. Yma, mae dylunydd dodrefn yn gwneud rhai newidiadau i ddyluniad cadair.
-
Mae rhai dylunwyr yn llunio modelau o'u dyluniadau.
-
Cyn y bydd dylunydd yn cychwyn dylunio, maent yn darllen brîff y dyluniad. Mae hynny'n dweud wrthynt yr hyn y mae arnynt angen ei wybod am y prosiect.
-
Mae dylunwyr yn treulio llawer o'u hamser yn trafod prosiectau â'r cleientiaid.
-
Mae rhai dylunwyr yn gwneud y cynhyrchion y buont yn eu dylunio.
-
Mae angen i ddylunwyr fod yn dra threfnus ac yn dda am gwrdd â therfynau amser. Yma, mae'r dylunwyr yn trafod amserlen y prosiect.
-
Mae dylunwyr yn ymchwilio i syniadau a thueddiadau a fydd yn eu helpu i greu dyluniadau newydd. Yma, mae dylunydd ffasiwn yn cael ysbrydolaeth o edrych drwy gylchgronnau ffasiwn.
-
Dylunydd
Dylunydd
Cyflwyniad
Fel Dylunydd byddwch yn sicrhau bod y pethau rydym yn eu defnyddio neu'r pethau sydd eu hangen arnom yn edrych yn dda a'u bod yn ddefnyddiol. Byddwch yn gweithio mewn meysydd fel tecstilau, ffasiwn, dylunio graffeg, dylunio cynnyrch neu gynllunio mewnol.
Fideo - Andrew: Cynorthwyydd Dylunio Diwydiannol
Fideo - Rebecca: Dylunydd Ffasiwn
Fideo - Lee: Dylunydd Graffeg
Fideo - Alan: Dylunydd Dodrefn
Fideo - Alys: Dylunydd Gemwaith
Fideo - Nick: Dylunydd Crefft
Fideo - Helen: Dylunydd Theatr
Fideo - Stuart: Dylunydd Gwydr
Gweithgareddau Gwaith
Fel Dylunydd byddwch yn sicrhau bod y pethau sydd eu hangen arnom neu'r pethau rydym yn eu defnyddio yn edrych yn dda a'u bod yn ddefnyddiol. Mae hwn yn cynnwys ystod eang o eitemau, megis setiau teledu, celfi, dillad, bwyd, pecynnau bwyd a chylchgronau. Mae nifer o wahanol feysydd dylunio. Gall y rhain gael eu grwpio yn y ffordd ganlynol:
- dylunio graffeg (gan ddefnyddio delwedd, print a ffotograffiaeth er mwyn cyfleu neges)
- dylunio ffasiwn a thecstilau (dillad, gemwaith, esgidiau, carpedi)
- dylunio cynnyrch (dodrefn, offer domestig, ceir, cerameg)
- cynllunio mewnol (tai, swyddfeydd, arddangosfeydd)
- ar gyfer pwy rydych yn dylunio
- beth yw anghenion y cwsmer
- sut bydd y cwsmer yn defnyddio'r cynnyrch
- pa gynnyrch arall sydd ar y farchnad
- beth yw'r deunydd gorau i'w ddefnyddio
- beth fydd y gost o gynhyrchu
- pa mor hawdd fydd ei gynhyrchu
Rhinweddau Personol a Sgiliau
I ddod yn Ddylunydd, bydd angen:
- sgiliau creadigol ac artistig
- gweithio'n dda ar eich pen eich hun a chydag eraill
- sgiliau cyfathrebu, cyflwyno a thrafod da
- gwybodaeth am feddalwedd yn ymwneud â dylunio
- sgiliau trefnu a chynllunio da
- gweithio i derfynau amser a chyllidebau
- cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau dylunio newydd
- sgiliau datrys problemau
Cyflog a Chyfleoedd
Cyflog Cyfraddau cyflog bras yw'r cyfraddau isod.
- Cyflog cychwynnol: £24,000 - £25,000
- Gyda phrofiad: £26,500 - £31,000
- Mae Uwch Ddylunwyr yn ennill £33,000 - £35,500
- gwmnïau gweithgynhyrchu sy'n ymwneud â chynhyrchu ar raddfa fawr
- cwmnïau sy'n ymwneud â pheirianneg ac adeiladu
- cwmnïau sy'n ymgynghori ar ddylunio
Llwybrau Mynediad a Hyfforddiant
Llwybrau mynediad Llwybr cyffredin i mewn i'r yrfa hon yw o gwrs sylfaen mewn celf a dylunio wedi ei ddilyn gan radd, HND neu radd sylfaenmewn pwnc sy'n seiliedig ar ddylunio. Mae llawer o gyrsiau dylunio gwahanol. Mae rhai yn eang ac mae eraill yn canolbwyntio ar faes arbenigol, fel dylunio dodrefn neu gynllunio mewnol. Ffordd wych o gael mynediad i'r yrfa hon yw trwy interniaeth. Edrychwch ar ein herthygl wybodaeth'
Cymwysterau
I gael lle ar Brentisiaeth Lefel Uwch, fel arfer bydd arnoch angen 5 TGAU gradd C/4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg a mathemateg, neu bydd angen eich bod wedi cwblhau Prentisiaeth Lefel Ganolradd.Y gofynion mynediad arferol ar gyfer cwrs Sylfaen perthnasol yw:
- 1/2 Safon Uwch lle bydd arnoch angen cymhwyster Safon Uwch mewn celf neu bwnc yn ymwneud â chelf
- TGAU gradd C/4 neu'n uwch mewn 4/5 pwnc lle mae rhai cyrsiau yn gofyn eich bod wedi pasio Saesneg
- cymhwyster lefel 3BTEC mewn celf a dylunio neu ddylunio graffig
- cymhwyster lefel 2City and Guilds mewn technegau 2D a 3D celf a dylunio
- Prentisiaeth Dylunio Lefel Uwch
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol
Cyfleoedd i Oedolion
Terfynau oed
Mae'n anghyfreithlon i unrhyw sefydliad osod terfynau oed ar gyfer dechrau cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant, oni bai eu bod yn gallu dangos bod angen gwirioneddol dros gael y terfynau hyn.
Sgiliau/profiad
Mae sgiliau fel cynorthwyydd mewn stiwdio neu weithdy dylunio, neu mewn ymgynghoriaeth ddylunio yn werthfawr.
Mae profiad mewn meysydd perthnasol fel hysbysebu neu farchnata hefyd yn ddefnyddiol. Mae ymwybyddiaeth fasnachol a dealltwriaeth o'r diwydiant yr ydych yn dymuno gweithio ynddo o fantais.
I ddechrau'r gwaith neu gyrsiau perthnasol, fel arfer bydd angen bod gennych bortffolio o waith yn dangos eich gallu creadigol.
Cyrsiau
Os nad oes gennych y cymwysterau sydd eu hangen i wneud eich cwrs gradd neu HND dewisol, gallai Cwrs mynediad (ee, Mynediad i Gelf a Dylunio) fod yn ffordd i mewn. Fel arfer, nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol, ond dylech wirio manylion cyrsiau unigol.
Gallant arwain at gyrsiau gradd/HND perthnasol.
Mae hefyd yn bosibl gwneud Cwrs Sylfaen Celf a Dylunio rhan-amser, sydd yn arwain at gwrs gradd neu HND. Mae cyrsiau Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) hefyd ar gael yn rhan-amser, gyda'r nos a/neu yn ystod y dydd yn aml.
Fel arfer, bydd prifysgolion a cholegau addysg uwch (AU) yn ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni eu gofynion mynediad arferol, yn arbennig y rheiny â phrofiad yn y celfyddydau, crefftau neu ddylunio. Dylech wirio polisi mynediad prifysgolion a cholegau AU unigol.
Dysgu o bell
Mae cyrsiau perthnasol mewn pynciau celf a dylunio, ar lefelau amrywiol, yn cael eu cynnig gan nifer fawr o ganolfannau, trwy ddysgu o bell.
Gwybodaeth Bellach
Apprenticeships
National Apprenticeship Service (NAS)
Ffôn 0800 015 0400
E-bost nationalhelpdesk@findapprenticeship.service.gov.uk
Gwefan www.apprenticeships.org.uk
Creative Skillset
Skills for the creative industries
E-bost info@creativeskillset.org
Gwefan www.creativeskillset.org
Creative Choices
Publisher: Creative & Cultural Skills
E-bost info@creative-choices.co.uk
Gwefan www.creative-choices.co.uk
Creative & Cultural Skills
Skills for craft, cultural heritage, design, literature, music, performing arts and visual arts
E-bost london@ccskills.org.uk
Gwefan ccskills.org.uk
Getting into Art & Design Courses
Author: James Burnett Publisher: Trotman
Gwefan trotman.co.uk/our-books/getting-into-art-and-design-courses/
Design and Art Direction (D&AD)
Cyfeiriad Britannia House, 68-80 Hanbury Street, London E1 5JL
Ffôn 020 7840 1111
E-bost contact@dandad.org
Gwefan www.dandad.org
craft&design
Cyfeiriad PO Box 5, Driffield, East Yorkshire, YO25 8JD
Ffôn 01377 255213
Gwefan www.craftanddesign.net
Crafts Council
Cyfeiriad 44a Pentonville Road, Islington, London N1 9BY
Ffôn 020 7806 2500
E-bost reception@craftscouncil.org.uk
Gwefan www.craftscouncil.org.uk
Wales Arts International (Welsh Enquiries)
Cyfeiriad Bute Place, Cardiff, UK, CF10 5AL
Ffôn 029 2044 1320
E-bost info@wai.org.uk
Gwefan www.wai.org.uk