Cynnwys
Astudiaethau Achos
Lluniau Swyddi
-
Llunio corff gitâr gan ddefnyddio eilliad sbôc I can't find this translation for spoke shave, but the translation may be correct.Other options include adain olwyn ar gyfer pren.
-
Dilyn diagramau i wneud gwddf gitâr.
-
Mae angen gwybodaeth am electroneg er mwyn trwsio gitarau trydan.
-
Trafod trwsio offerynnau gyda chwsmer.
-
Ar ôl i offeryn gael ei drwsio, mae'n cael ei diwnio ar gyfer y cwsmer.
-
Mae technegwyr offerynnau cerdd yn defnyddio offer pwer fel y llwybrydd hwn i wneud y tyllau yng nghorff gitâr.
-
Technegydd Offerynnau Cerdd
Technegydd Offerynnau Cerdd
Cyflwyniad
Mae technegwyr offerynnau cerdd yn dylunio a saernïo offerynnau cerdd. Mae’r rhan fwyaf o dechnegwyr yn gwneud gwaith trwsio hefyd, i adfer a chynnal a chadw’r offeryn. Fel rheol, bydd technegydd yn arbenigo mewn maes arbennig, fel offerynnau llinynnol neu gribellog, offerynnau chwythbren neu allweddellau.
Adwaenir hefyd fel
- Technegydd Offerynnau, Cerddorol
Fideo - Pierre: Technegydd Offerynnau Cerdd
Gweithgareddau Gwaith
Fel Technegydd Offerynnau Cerdd, byddwch yn dylunio, saernïo, trwsio, cynnal a chadw ac adfer offerynnau cerdd. Gan fod hyn yn waith crefftus dros ben, byddwch fel afer yn canolbwyntio ar un grwp o offerynnau.
Mae’r meysydd y byddech fel arfer yn arbenigo arnynt yn cynnwys allweddellau, offerynnau llinynnol neu gribellog, chwythbrennau, offerynnau pres neu daro, neu offerynnau electronig. Gallech arbenigo’n fwy manwl eto a chanolbwyntio ar ail-greu ac adfer offerynnau hynafol.
Mae’r gwaith yn amrywio, gan ddibynnu ar yr offeryn sy’n cael ei gynhyrchu. Er mwyn gwneud offeryn newydd, byddwch yn dylunio offeryn yn ôl gofynion y cwsmer. Byddwch yn defnyddio'ch lluniau a'ch cynlluniau i’ch helpu i dorri defnyddiau fel metel, pren a phlastig, eu llunio a'u rhoi at ei gilydd .
Mae tasgau eraill yn cynnwys:
- cynghori cleientiaid ar ofalu am offerynnau a’u trafod
- darganfod namau ar offeryn
- trwsio rhannau sydd wedi torri neu osod rhannau newydd yn eu lle
- tiwnio’r offeryn.
Mae Technegwyr Offerynnau Cerdd fel arfer yn gweithio mewn gweithdy. Yma, byddwch yn defnyddio amrywiaeth o offer llaw a pheiriannau a chyfarpar i fesur. Efallai y byddwch yn gwerthu’r offerynnau yr ydych yn eu creu. Gallai'r gallu i ddarllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg fod o fantais i chi wrth chwilio am waith yng Nghymru.
Rhinweddau Personol a Sgiliau
I ddod yn Dechnegydd Offerynnau Cerdd, byddwch angen:
- clust dda i diwnio a gwerthfawrogi cerddoriaeth
- sgiliau gweithio cywir gan roi sylw i fanylion
- sgiliau ymarferol
- pwerau canolbwyntio cryf
- natur amyneddgar, gan fod elfennau o’r gwaith yn gallu bod yn anodd a chymryd llawer o amser i’w orffen
Bydd sgiliau busnes yn ddefnyddiol, os ydych am fod yn dechnegydd hunangyflogedig .
Cyflog a Chyfleoedd
Cyflog
Mae'r cyfraddau cyflog a roddir isod yn rhai bras.
- Cychwynnol: £20,500 - £21,500
- Gyda phrofiad: £23,000 - £27,500
- Safleoedd uwch: £30,500
Oriau gwaith
Mae Technegwyr Offerynnau Cerdd yn gweithio 39 awr yr wythnos fel arfer, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gall oriau gwaith i Dechnegwyr hunangyflogedig fod yn anghyson, yn ôl faint o waith sydd gennych ar y pryd. Efallai y bydd angen gweithio’n hwyr ac ar benwythnosau o bryd i'w gilydd, yn enwedig pan fydd terfynau amser yn agosáu.
Fel Technegydd Offerynnau Cerdd hunangyflogedig, mae'ch llwyddiant yn dibynnu’n fawr ar eich enw da fel crefftwr.
Ble allwn i weithio?
Gweithgynhyrchwyr a chwmnïau trwsio offerynnau cerdd yw’r cyflogwyr. Fodd bynnag, mae llawer ohonynt yn fusnesau crefft bach sy’n cyflogi un neu ddau o bobl.
Mae cyfleoedd yn codi i weithio mewn gweithdai mewn trefi a dinasoedd ar draws y Deyrnas Unedig.
Hunangyflogaeth
Gall Technegwyr Offerynnau Cerdd profiadol weithio’n annibynnol fel Crefftwyr hunangyflogedig, gan weithio gartref neu mewn stiwdio neu weithdy.
Ble mae swyddi'n cael eu hysbysebu?
Mae swyddi'n cael eu hysbysebu mewn papurau newydd lleol/cenedlaethol, ar wefannau cyflogwyr a recriwtio ac ar Dod o Hyd i Swydd (www.gov.uk/jobsearch). Mae gwefannau cyfryngau cymdeithasol fel LinkedIn, Twitter neu Facebook, yn ffordd wych o rwydweithio, dod o hyd i swyddi gwag a dod i gyswllt â chyflogwyr posib. Gwnewch yn siwr fod eich proffil yn eich dangos mewn ffordd bositif a fydd yn apelio at gyflogwyr potensial . Darllenwch ein Herthygl Gwybodaeth Gyffredinol
Llwybrau Mynediad a Hyfforddiant
Llwybrau mynediad
Nid oes llwybrau mynediad penodol i’r yrfa hon. Mae sgiliau crefft yn aml yn bwysicach nag astudiaeth academaidd. Gallai cyrsiau sy’n gysylltiedig â cherddoriaeth, neu waith coed fod yn ddefnyddiol ar gyfer yr yrfa hon hefyd.
Hyfforddiant
Weithiau, gallwch hyfforddi gyda chyflogwr a dysgu yn y gwaith.
Mae llawer o'r rheiny sy’n dilyn yr yrfa hon yn hyfforddi trwy ddilyn cwrs coleg arbenigol llawn-amser sy’n para dwy neu dair blynedd fel arfer.
Mae’r hyfforddwyr ar y cwrs fel arfer yn bobl broffesiynol sy’n saernïo a thrwsio offerynnau. Mae’r cyrsiau’n cynnwys pynciau fel theori cerddoriaeth, acwsteg, dylunio offerynnau, darlunio technegol, hanes offerynnau ac adfer offerynnau.
Mae gwefan Cymdeithas Genedlaethol Trwswyr Offerynnau Cerdd (NAMIR) yn dangos rhestr o ddarparwyr cyrsiau.
Mae BTEC yn cynnig cymwysterau Lefel 3 mewn Technoleg Cerdd.
Dilyniant
Weithiau, bydd cyfle i gamu ymlaen i swydd fel goruchwyliwr neu reolwr. Mae llawer o bobl yn yr yrfa hon yn mynd yn weithwyr hunangyflogedig .
Cymwysterau
Mae gofynion mynediad cyrsiau’n amrywio’n fawr, yn ôl y math o gwrs yr ydych yn ei ddewis. Porwch yn ofalus iawn trwy wefannau colegau/prifysgolion am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Efallai y byddant yn gofyn am ddiddordeb brwd mewn cerddoriaeth a sgiliau crefft er mwyn cael gwaith a lle ar gwrs.
I gael lle ar gymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Technoleg Cerdd, fel arfer bydd arnoch angen:< UL class="list3">
Mae profiad gwaith perthnasol yn ffordd dderbyniol o gael lle hefyd.
Mae rhai prifysgolion yn derbyn Bagloriaeth Cymru yn gywerth ag 1 Lefel A.
Cyfleoedd i Oedolion
Terfynau oedran
Mae'n anghyfreithlon i unrhyw sefydliad osod terfynau oedran ar gyfer mynediad i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant, oni bai y gall ddangos bod angen gwirioneddol am y terfynau hyn.
Sgiliau/profiad
Mae’r yrfa hon yn aml yn denu pobl sydd â phrofiad o waith crefft a diddordeb mewn cerddoriaeth.
Fel rheol, mae angen gallu chwarae amrywiaeth eang o offerynnau cerdd. Mae cefndir ymarferol o waith llaw, e.e. gwaith adfer a chadwraeth hanesyddol, yn ddefnyddiol.
Cyrsiau
Fel rheol, bydd colegau’n ystyried ceisiadau gan bobl nad oes ganddynt y gofynion mynediad arferol. Dylech edrych yn ofalus ar bolisi mynediad y colegau unigol.
Mae cyrsiau byr perthnasol ar gael trwy astudio’n rhan-amser.
Ystadegau
- Mae 59% o weithwyr yn yr yrfa hon yn hunangyflogedig .
- Mae 55% yn gweithio’n rhan-amser.
Gwybodaeth Bellach
Creative Skillset
Skills for the creative industries
E-bost info@creativeskillset.org
Gwefan www.creativeskillset.org
Creative Choices
Publisher: Creative & Cultural Skills
E-bost info@creative-choices.co.uk
Gwefan www.creative-choices.co.uk
Creative & Cultural Skills
Skills for craft, cultural heritage, design, literature, music, performing arts and visual arts
E-bost london@ccskills.org.uk
Gwefan ccskills.org.uk
London Metropolitan University
Cyfeiriad 166-220 Holloway Road, London N7 8DB
Ffôn 020 7423 0000
Gwefan www.londonmet.ac.uk
Incorporated Society of Musicians (ISM)
Ffôn 020 7629 4413
E-bost membership@ism.org
Gwefan www.ism.org
BPI: British Recorded Music Industry
Ffôn 020 7803 1300
E-bost general@bpi.co.uk
Gwefan www.bpi.co.uk
Association of Musical Instrument Repairers (NAMIR Ltd)
Ffôn 07957 844707
E-bost contactus@namir.org.uk
Gwefan www.namir.org.uk