Cynnwys
Lluniau Swyddi
-
Gwyddonydd Garddwriaethol benywaidd yn profi deilen.
-
Gwyddonydd Garddwriaethol
Gwyddonydd Garddwriaethol
Cyflwyniad
Mae gwyddonwyr garddwriaethol yn ymchwilio a datblygu ffyrdd o wella bridio, twf, dulliau amddiffyn, cynaeafu a storio cnydau fel ffrwythau, llysiau, blodau a llwyni. Maen nhw hefyd yn defnyddio'u gwybodaeth i gynghori pobl eraill sy'n ymwneud â garddwriaeth.
Adwaenir hefyd fel
- Gwyddonydd, Garddwriaethol
Fideo - Marion: Gwyddonydd Garddwriaethol
Gweithgareddau Gwaith
Mewn ymchwil a datblygu, byddwch yn ceisio datrys problemau mewn meysydd fel bridio, tyfu, diogelu a storio planhigion. Byddwch yn ateb y galw ar y diwydiant garddwriaethol am amrywiaeth gynyddol o gynhyrchion, gyda llawer ohonyn nhw ar gael gydol y flwyddyn, gyda mwy o ymwrthedd i glefydau a phlâu. Gall timau ymchwil gynnwys pobl o ystod o gefndiroedd ac eithrio garddwriaeth, gan gynnwys gwyddorau biolegol, cemeg, biocemeg a gwyddor pridd, gyda chymorth gan arbenigwyr mewn biometreg, cyfrifiadura ac ystadegau. Byddwch angen agwedd systematig, resymegol at eich ymchwiliadau, sy'n gallu bod yn faith. Byddwch yn dylunio, monitro a dadansoddi arbrofion yn ofalus er mwyn dod i gasgliadau, gan werthuso'r prosiect yn rheolaidd a newid eich dulliau os oes angen. Mae prosiectau'n debygol o gynnwys llawer o amser yn y labordy, yn ogystal â gwaith maes, er enghraifft, i dreialu cnydau a gwrteithiau newydd. Mae rhai yn arbenigo mewn bridio planhigion a gwella cnydau. Er enghraifft, mae croesi dwy rywogaeth o blanhigion gwahanol yn eich galluogi i ddatblygu planhigyn hybrid, weithiau gyda nodweddion dymunol o bob un o'i 'rieni'. Efallai y bydd gan y cnwd hybrid fwy o ymwrthedd i sychder, plâu a chwyn, neu liw petal a fydd yn ei wneud yn ddeniadol i bobl sy'n prynu blodau. Mae eraill yn gweithio ar ffyrdd o fynd i'r afael â'r plâu, y clefydau a'r chwyn sy'n effeithio ar blanhigion. Gallwch fod yn gweithio i gwmnïau agrocemegol, yn datblygu plaladdwyr, ffwngleiddiadau a chwynladdwyr newydd. Gyda'r duedd tuag at arddwriaeth organig, mae dulliau biolegol yn dod yn fwyfwy pwysig, fel cyflwyno pryfed i fwyta'r plâu. Yn gyffredinol, byddwch yn gweithio i leihau'r defnydd o gemegau ar draws y diwydiant. Byddwch yn gwneud gwaith ymchwil mewn labordy i ddatblygu eich gwybodaeth am blâu a chlefydau. Er enghraifft, mae hyn yn eich galluogi i ragweld achosion o glefydau yn well, a deall pryd i ddefnyddio plaladdwyr. Mae rhai yn darparu gwybodaeth a chyngor i bobl sy'n gweithio ym maes garddwriaeth; efallai y byddwch yn gwneud hyn trwy weithio fel ymgynghorwyr. Mae eraill yn gweithio mewn ardaloedd fel marchnata a gwerthu, addysgu a newyddiaduraeth. Byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth a'ch sgiliau yn yr ystod eang o ddiwydiannau lle mae planhigion yn ffynhonnell o gynhyrchion, fel y diwydiant fferyllol a thanwydd. Mae'n bosibl y bydd y gallu i ddarllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg o fantais ichi wrth chwilio am waith yng Nghymru.
Rhinweddau Personol a Sgiliau
I ddod yn Wyddonydd Garddwriaethol, byddwch angen:
- lefel uchel o wybodaeth wyddonol, yn enwedig ym maes bioleg a chemeg
- sgiliau trefnu i gynllunio prosiectau ac arbrofion
- cywirdeb a dull trefnus wrth wneud gwaith maes a labordy
- amynedd i ailadrodd arbrofion dro ar ôl tro
- sgiliau gwaith tîm
- y gallu i egluro'ch canfyddiadau'n glir ac yn gryno, gan gynnwys trwy adroddiadau ysgrifenedig
- sgiliau mathemateg ac ystadegau i ddadansoddi arbrofion
- y gallu i ddefnyddio amrywiaeth o offer a thechnoleg, gan gynnwys cyfrifiaduron
Mae angen sgiliau rheoli ar Wyddonwyr Garddwriaethol os ydyn nhw'n arwain prosiectau ac yn goruchwylio pobl.
Cyflog a Chyfleoedd
Cyflog
Cyfraddau cyflog bras yw'r cyfraddau isod:
- Cyflog cychwynnol: £27,500 - £30,000
- Gyda phrofiad: £35,000 - £41,000
- Mae Uwch Wyddonwyr Garddwriaethol yn ennill £44,500 - £50,000
Oriau gwaith
Mae Gwyddonwyr Garddwriaethol fel arfer yn gweithio 39 awr yr wythnos. Fodd bynnag, efallai y bydd rhaid i chi weithio oriau ychwanegol o bryd i'w gilydd wrth i derfynau amser prosiectau nesáu.
Ble allwn i weithio?
Mae Gwyddonwyr Garddwriaethol yn gweithio i bob math o sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat yn sector diwydiannau'r tir, mewn amaethyddiaeth, garddwriaeth, coedwigaeth, rheoli'r amgylchedd a chadwraeth. Mae'r rhain yn cynnwys asiantaethau'r llywodraeth, cwmnïau masnachol a diwydiannol a chyflenwyr a chynhyrchwyr.
Mae yna hefyd gyfleoedd gydag ymgynghoriaethau amgylcheddol fel ADAS, ac yn y sector addysg ac ymchwil.
Efallai y bydd swyddi hefyd ar gael mewn adrannau llywodraeth fel Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) ac Asiantaeth yr Amgylchedd.
Mae yna gyfleoedd eraill gyda chanolfannau ymchwil arbenigol fel Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) a'r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC).
Mae yna gyfleoedd i Wyddonwyr Garddwriaethol mewn trefi, dinasoedd ac ardaloedd gwledig ledled y DU.
Ble mae swyddi gwag yn cael eu hysbysebu?
Mae swyddi'n cael eu hysbysebu ar wefan yr Institute of Horticulture, mewn cylchgronau a chyfnodolion gwyddoniaeth fel New Scientist (sydd hefyd yn postio swyddi ar ei wefan), ar fyrddau swyddi cyffredinol ac arbenigol ac mewn papurau newydd lleol/cenedlaethol.
Llwybrau Mynediad a Hyfforddiant
Llwybrau mynediad Mae Gwyddonwyr Garddwriaethol yn raddedigion fel arfer, o amrywiaeth o gefndiroedd. Mae gan y rhan fwyaf raddau mewn pynciau fel:
- garddwriaeth
- botaneg
- gwyddor planhigion neu gnydau
- amaethyddiaeth
- gwyddor pridd
- gwyddorau biolegol
- cemeg
- biocemeg
- biotechnoleg
Yn aml, bydd gan weithwyr newydd gymhwyster ôl-raddedig hefyd, fel MSc neu PhD, a ddilynwyd cyn neu yn ystod cyflogaeth. Ar gyfer rhai swyddi ymchwil arbenigol, fel rhai mewn addysg uwch, mae cymhwyster ôl-raddedig yn hanfodol. Gellir cael mynediad hefyd gyda HND neu radd sylfaen, er bod hyn yn debygol o fod mewn swydd ar lefel technegydd. Ffordd wych o fynd mewn i'r yrfa hon yw trwy interniaeth. Edrychwch ar ein herthygl wybodaeth '
Cymwysterau
Mae'r gofynion mynediad lleiaf arferol ar gyfer cyrsiau gradd yn amrywio yn dibynnu ar y pwnc. Fel arfer, bydd angen:
- 2/3 Safon Uwch, gan gynnwys o leiaf un pwnc gwyddonol, fel bioleg neu gemeg
- TGAU gradd C/4 neu uwch yn eich pynciau Safon Uwch
- 2/3 TGAU arall C/4 neu uwch mewn Saesneg a mathemateg
Cyfleoedd i Oedolion
Terfynau oedran
Mae'n anghyfreithlon i unrhyw sefydliad osod terfynau oedran ar gyfer mynediad i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant, oni bai y gall ddangos bod angen gwirioneddol am y terfynau hyn.
Cyrsiau
Efallai y gallwch chi gael mynediad i addysg uwch trwy gwrs Mynediad, er enghraifft, Mynediad i Wyddoniaeth, sy'n arwain at gwrs gradd perthnasol.
Gallwch chi chwilio am gyrsiau perthnasol ar wefan Lantra, y cyngor sgiliau sector ar gyfer sector diwydiannau'r tir a'r sector amgylcheddol.
Cyllid
Mae cyllid ar gyfer astudio pellach ar gael gan y Studley College Trust ac Ymddiriedolaeth Merlin. Dylai ymgeiswyr fynd i wefannau'r Ymddiriedolaethau hyn i weld a ydyn nhw'n gymwys.
Ystadegau
- Mae 5% o'r bobl mewn swyddi fel gwyddonydd garddwriaethol yn gweithio'n rhan-amser.
- Mae 24% yn gweithio oriau hyblyg.
- Mae 9% o'r gweithwyr yn gweithio dros dro.
Gwybodaeth Bellach
Lantra
Skills for land-based and environmental industries
Cyfeiriad Lantra House, Stoneleigh Park, Coventry, Warwickshire CV8 2LG
Ffôn 02476 696996
E-bost reception@lantra.co.uk
Gwefan www.lantra.co.uk
New Scientist
Publisher: Reed Business Information Ltd
E-bost ns.subs@quadrantsubs.com
Gwefan www.newscientist.com
Biotechnology and Biological Sciences Research Council (BBSRC)
Cyfeiriad Polaris House, North Star Avenue, Swindon SN2 1UH
Ffôn 01793 413200
E-bost webmaster@bbsrc.ac.uk
Gwefan www.bbsrc.ac.uk
Natural Environment Research Council (NERC)
Cyfeiriad Polaris House, North Star Avenue, Swindon SN2 1EU
Ffôn 01793 411500
Gwefan www.nerc.ac.uk
Horticultural Correspondence College (HCC)
Cyfeiriad Fiveways House, Westwells Road, Hawthorn, Corsham SN13 9RG
Ffôn 01225 816700
Gwefan www.hccollege.co.uk
Studley College Trust
Cyfeiriad The Old Post Office, Lower Boddington, Daventry, Northants NN11 6YB
E-bost studleyct@btinternet.com
Gwefan www.studleytrust.co.uk
Institute of Horticulture (IoH)
Ffôn 01992 707025
E-bost ioh@horticulture.org.uk
Gwefan www.horticulture.org.uk
College of Agriculture, Food & Rural Enterprise (CAFRE)
Irish enquiries
Ffôn 0800 0284291
E-bost enquiries@cafre.ac.uk
Gwefan www.cafre.ac.uk
Natural England
Cyfeiriad Foundry House, 3 Millsands, Riverside Exchange, Sheffield S3 8NH
Ffôn 0845 6003078
E-bost enquiries@naturalengland.org.uk
Gwefan www.naturalengland.org.uk
Countryside Jobs Service (CJS)
Cyfeiriad The Moorlands, Goathland, Whitby, North Yorkshire YO22 5LZ
Ffôn 01947 896007
E-bost ranger@countryside-jobs.com
Gwefan www.countryside-jobs.com
Countryside Management Association (CMA)
Cyfeiriad Writtle College, Lordship Road, Writtle, Chelmsford, Essex CM1 3RR
Ffôn 01245 424116
E-bost cma@writtle.ac.uk
Natural Resources Wales
Welsh enquiries
Cyfeiriad Ty Cambria, 29 Newport Road, Cardiff CF24 0TP
Ffôn 0300 0653000
E-bost enquiries@naturalresourceswales.gov.uk
Gwefan naturalresourceswales.gov.uk
Royal Horticultural Society (RHS)
Cyfeiriad 80 Vincent Square, London SW1P 2PE
Ffôn 0845 2605000
E-bost careerinfo@rhs.org.uk
Gwefan www.rhs.org.uk
Merlin Trust
Cyfeiriad Royal Botanic Gardens, Kew, Richmond, Surrey TW9 3AB
Ffôn 020 8332 5585
E-bost info@merlin-trust.org.uk
Gwefan www.merlin-trust.org.uk
Institute for Horticultural and Rural Studies (IHRS)
Cyfeiriad Pethick Park, Looe, Cornwall PL13 1QR
Ffôn 01503 240835
E-bost info@ihrs.ac.uk
Gwefan www.ihrs.ac.uk
Environment Agency
Cyfeiriad National Customer Contact Centre, PO Box 544, Rotherham S60 1BY
Ffôn 0370 8506506
E-bost enquiries@environment-agency.gov.uk