Cynnwys
Astudiaethau Achos
Lluniau Swyddi
-
Mae prynwyr yn defnyddio cyfeirlyfrau a chatalogau masnach i ddod o hyd i'r cyflenwyr iawn.
-
Mae'n bosibl y bydd angen i'r prynwr gysylltu â sawl cyflenwr i gael y bargeinion gorau.
-
Weithiau bydd y prynwr yn cyfarfod â'r cyflenwr i drafod contractau, archebion ar gyfer y dyfodol, disgowntiau neu fusnes arall.
-
Mae safon dda o rifedd yn bwysig mewn swydd fel hon, lle mae'n rhaid cyfrifo prisiau, symiau a chyllidebau.
-
Fel sy'n wir mewn llawer o yrfaoedd, mae angen i brynwyr allu defnyddio cyfrifiaduron.
-
Mae prynwyr yn prynu nwyddau neu wasanaethau sy'n cael eu defnyddio gan bobl eraill yn eu sefydliad eu hunain. Mae'n bwysig trafod eu gofynion fel bod y prynwr yn gallu cael y nwyddau neu'r gwasanaethau gorau ar gyfer y gwaith.
-
Mae Sahar yn Brynwr Manwerthu - gwyliwch ei fideo i ddysgu rhagor
-
Mae Sahar yn Brynwr Manwerthu - gwyliwch ei fideo i glywed ei hanes
-
Prynwr
Prynwr
Cyflwyniad
Fel Prynwr, chi sy'n gyfrifol am brynu bron unrhyw beth, o ddeunyddiau crai ac offer i nwyddau a gwasanaethau sydd i'w defnyddio gan eich sefydliad - er enghraifft siop, ffatri neu ysbyty. Bydd angen i chi sicrhau y telir pris rhesymol am nwyddau a gwasanaethau, a bod y cyfanswm cywir o stoc yn cael ei gadw.
Adwaenir hefyd fel
- Swyddog Prynu a Chyflenwadau
- Swyddog Cyflenwadau
- Swyddog Caffael
Fideo - Sahar: Prynwr Ffasiwn
Fideo - Peter: Prynwr
Gweithgareddau Gwaith
Mae Prynwyr (a elwir hefyd yn Rheolwyr Stoc, Swyddogion Caffael, neu Reolwyr Prynu) yn prynu deunyddiau crai, offer, gwasanaethau ac eitemau eraill i gael eu defnyddio gan sefydliad.
Fe allech brynu unrhyw beth o sanau i hofrenyddion, pren ar gyfer cwmni gweithgynhyrchu i bapur ar gyfer cwmni argraffu, gwasanaethau diogelwch ar gyfer ysbyty i geffylau ar gyfer yr heddlu - mae'r rhestr yn ddiddiwedd!
Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cael y gwerth gorau am arian, bod y cwmni'n cadw'r cyfanswm cywir o stoc a bod ganddo gyswllt â'r cyflenwyr priodol i ddanfon y nwyddau a'r gwasanaethau sydd eu hangen.
Mae Prynwyr yn ymgynghori ag adrannau eraill i ganfod pa nwyddau a gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw ac yna maen nhw'n canfod cwmnïau a allai gyflenwi'r rhain. Byddwch yn cael dyfynbrisiau gan ddarpar gyflenwyr ac yn ymchwilio i'w perfformiad yn y gorffennol, er enghraifft a ydyn nhw bob amser yn danfon mewn pryd.
Yna, byddwch yn trafod â nhw i gytuno ar yr ansawdd a'r pris gorau posibl. Mae gan Brynwyr gyllideb a rhaid iddyn nhw geisio prynu'r hyn sydd ei angen heb wario mwy na'r swm hwn.
Pan fyddwch chi wedi dewis cyflenwr yn ofalus, byddwch yn cytuno ar delerau'r contract. Bydd angen i chi ystyried yr agweddau cyfreithiol ar brynu a gwerthu, a deall prosesau ac anghenion busnes eich sefydliad.
Mae Prynwyr yn gwirio perfformiad eu cyflenwyr ac yn ceisio datrys unrhyw broblemau a allai godi. Os nad oes modd goresgyn problemau, rhaid i chi ganfod cyflenwr arall.
Mae prynu yn dod yn broffesiwn rhyngwladol i raddau cynyddol, a gallai fod angen i chi deithio i gyfarfod â chyflenwyr ledled y byd.
Gallai darllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg fod o fantais wrth chwilio am waith yng Nghymru.
Rhinweddau Personol a Sgiliau
I ddod yn Brynwr, bydd arnoch angen:
- sgiliau cyfathrebu rhagorol
- sgiliau trafod telerau
- dawn o ran ymdrin â ffigurau a'r gallu i reoli cyllideb
- meddwl sy'n hoffi dadansoddi
- sgiliau TG
- diddordeb yng ngweithgareddau eich sefydliad eich hun
- y gallu i ddatblygu gwybodaeth dda am gyflenwyr a dulliau dosbarthu a gweithgynhyrchu
- sgiliau gweithio mewn tîm
- y gallu i flaenoriaethu tasgau a rheoli eich amser i gwblhau gwaith cyn terfynau amser
Yn achos rhai swyddi, mae cyflogwyr yn chwilio am ymgeiswyr sydd â chefndir technegol neu wyddonol. Gallai sgiliau mewn ieithoedd tramor fod yn ddefnyddiol os ydych chi'n prynu o wledydd eraill.
Cyflog a Chyfleoedd
Cyflog Mae'r cyfraddau cyflog a nodir isod yn rhai bras.
- Cychwynnol: £24,000 - £26,000
- Gyda phrofiad: £28,000 - £32,500
- Uwch Brynwyr yn ennill £35,500 - £40,000
Ble y gallwn i weithio? Bydd ar bron pob cyflogwr, o faint canolig a mawr, angen Prynwyr, a hynny i brynu ystod eang o nwyddau, gwasanaethau a deunyddiau. Er enghraifft, gallai'r rhain fod:
- mewn diwydiannau gweithgynhyrchu, e.e. cynhyrchu ceir neu awyrennau
- yn y GIG
- mewn cwmnïau trydan, ffôn a dwr
- yn y diwydiannau nwy ac olew
- yn y sector manwerthu
- ym maes gwasanaethau ariannol
- yn y lluoedd arfog
Mae cyfleoedd i Brynwyr ar gael mewn rhai trefi a dinasoedd ledled y DU. Mae'r rhan fwyaf o gyfleoedd i'w cael mewn adrannau prynu canolog, sy'n aml wedi'u lleoli yn Llundain ac mewn dinasoedd mawr eraill.
Ble y caiff swyddi eu hysbysebu? Caiff swyddi eu hysbysebu mewn papurau newydd lleol/cenedlaethol, ar wefannau recriwtio a gwefannau cyflogwyr, ac ar Universal Jobmatch (www.gov.uk/jobsearch). Mae gwefannau'r cyfryngau cymdeithasol, megis LinkedIn, Twitter neu Facebook, yn ffordd dda o rwydweithio, dod o hyd i swyddi gwag, a chysylltu â chyflogwyr posibl. Sicrhewch fod eich proffil yn rhoi argraff broffesiynol a fydd yn ddeniadol i ddarpar gyflogwyr. Darllenwch ein Herthygl Wybodaeth Gyffredinol 'Dod o hyd i Waith Ar-lein'.
Llwybrau Mynediad a Hyfforddiant
Llwybrau Mynediad
Mae gan lawer o'r rhai sy'n mynd i'r swydd hon radd neu HND, a hynny mewn astudiaethau busnes yn aml.
Gallai fod yn bosibl cael swydd Prynwr Iau neu Brynwr Cynorthwyol gyda chymwysterau Safon Uwch neu drwy Brentisiaeth Lefel Canolradd neu Brentisiaeth Lefel Uwch mewn Rheoli Prynu a Chyflenwi. Yna, gallech gamu ymlaen i swydd brynu ar ôl cael profiad. Fe allai Uwch-brentisiaethau fod ar gael yn eich ardal chi hefyd.
Mae nifer fach o brifysgolion a cholegau addysg uwch yn cynnig graddau a graddau sylfaen mewn prynu a chyflenwi, neu mewn rheoli'r gadwyn gyflenwi.
Hyfforddiant
Mae cynlluniau hyfforddi'n amrywio fesul cyflogwr, ac yn gyffredinol meant yn cael eu cynnal yn y gwaith, gan gynnwys trefniadau i weithwyr astudio'n rhan-amser drwy gael eu rhyddhau o'r swydd ar gyfer diwrnod astudio. Mae Diplomâu mewn Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi ar gael ar lefelau 3 a 5.
Caiff cymwysterau proffesiynol i bobl sy'n gweithio ym maes prynu eu hennill drwy arholiadau'r Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi (CIPS). Mae yna nifer o ffyrdd y gellir astudio ar gyfer y rhain, gan gynnwys astudio'n rhan-amser neu drwy drefniadau dysgu hyblyg mewn nifer o golegau, neu drwy ddysgu o bell.
Mae CIPS yn cynnig pum cymhwyster mewn prynu a chyflenwi, o'r Dystysgrif i'r Diploma Proffesiynol.
Gallai profiad neu gyrsiau perthnasol beri eich bod chi wedi'ch eithrio rhag unedau neu gymwysterau penodol. Mae nifer fach o brifysgolion yn cynnig cyrsiau gradd neu ôl-raddedig sy'n cael eu hachredu gan CIPS. Cysylltwch â CIPS i gael rhagor o fanylion.
Dilyniant
Gall prynwyr gamu ymlaen i swyddi uwch, swyddi rheoli a swyddi cyfarwyddo.
Cymwysterau
I gael lle ar gwrs gradd, y gofyniad sylfaenol arferol yw:
- 2/3 Safon Uwch
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn 2/3 phwnc arall
Mae'n debyg y bydd angen i chi feddu ar gymwysterau TGAU, gradd C/4 neu uwch, mewn Saesneg a mathemateg.
Mae'r cymwysterau eraill, yn lle rhai Safon Uwch, yn cynnwys:
- cymwysterau BTEC lefel 3 (bydd pwnc megis manwerthu, gweithrediadau manwerthu, neu wybodaeth manwerthu, yn helpu i'ch gwahanu oddi wrth y gweddill)
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol
Fodd bynnag, mae gofynion cyrsiau yn amrywio, felly darllenwch wefannau'r colegau/prifysgolion yn ofalus.
Mae rhai prifysgolion yn derbyn cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn gyfwerth ag un cymhwyster Safon Uwch.
Cyfleoedd i Oedolion
Terfynau oedran
Mae'n anghyfreithlon i unrhyw sefydliad bennu terfynau oedran ar gyfer mynediad i waith, addysg neu hyfforddiant, oni bai eu bod yn gallu dangos bod gwir angen am y terfynau hyn.
Sgiliau/profiad
Mae rhai sy'n mynd i'r swydd wedi datblygu sgiliau perthnasol ym maes manwerthu/cyfanwerthu neu werthiannau, neu drwy fod yn gynorthwy-ydd prynu.
Gallai Prentisiaethau Lefel Canolradd, Prentisiaethau Lefel Uwch a Phrentisiaethau Uwch mewn Rheoli Prynu a Chyflenwi fod ar gael yn eich ardal chi.
Cyrsiau Mynediad
Os nad oes gennych chi'r cymwysterau sydd eu hangen i ddechrau'r cwrs gradd neu'r Diploma Cenedlaethol Uwch rydych chi wedi'i ddewis, gallai gwneud cwrs Mynediad (er enghraifft, Mynediad i Fusnes) gan goleg neu brifysgol eich galluogi i gael lle.
Mae'r cyrsiau hyn wedi'u cynllunio i bobl nad ydynt wedi dilyn y llwybrau arferol i addysg uwch. Nid oes angen dim cymwysterau ffurfiol fel arfer, ond dylech chi gysylltu â cholegau unigol i wirio hyn.
Dysgu o bell
Mae cyrsiau gradd ac ôl-radd mewn busnes ar gael drwy drefniadau dysgu o bell.
Mae'r Brifysgol Agored yn cynnig graddau sylfaen mewn busnes a rheoli.
Mae'r Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi (CIPS) yn cynnig ystod o gymwysterau perthnasol drwy drefniadau dysgu o bell.
Mae Prifysgol Dinas Birmingham yn cynnig gradd ôl-radd mewn Dulliau Rheoli Logisteg a Chadwyni Cyflenwi Rhyngwladol, drwy drefniadau dysgu o bell.
Mae Prifysgol Lerpwl yn cynnig gradd ôl-radd ynghylch Rheoli'r Broses Brynu a'r Gadwyn Gyflenwi: Caffael a Chyrchu, drwy drefniadau dysgu o bell. Mae'r cwrs wedi'i achredu gan CIPS.
Ystadegau
- Mae 9% o'r bobl sydd mewn galwedigaethau fel prynwr yn gweithio'n rhan-amser.
- Mae 12% yn gweithio oriau hyblyg.
- Mae 4% o'r gweithwyr yn gweithio dros dro.
Gwybodaeth Bellach
Sefydliadau proffesiynol Mae gan sefydliadau proffesiynol y rolau a ganlyn:
- Cefnogi eu haelodau.
- Diogelu'r cyhoedd drwy gadw safonau'n uchel yn eu proffesiynau.
Y Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi (CIPS) yw'r prif sefydliad proffesiynol ar gyfer yr yrfa hon.
Apprenticeships
National Apprenticeship Service (NAS)
Ffôn 0800 015 0400
E-bost nationalhelpdesk@findapprenticeship.service.gov.uk
Gwefan www.apprenticeships.org.uk
Inside Careers
Specialists in graduate careers
Cyfeiriad Unit 6, The Quad, 49 Atalanta Street, Fulham, London SW6 6TU
Ffôn 020 7565 7900
Gwefan www.insidecareers.co.uk
Improve Ltd
Skills for food and drink industries
E-bost info@nsafd.co.uk
Gwefan www.improveltd.co.uk
National Skills Academy for Retail
Cyfeiriad 4th Floor, 93 Newman Street, London W1T 3EZ
Ffôn 020 7462 5060
E-bost info@people1st.co.uk
Gwefan www.nsaforretail.com
Chartered Institute of Purchasing & Supply (CIPS)
Cyfeiriad Easton House, Church Street, Easton on the Hill, Stamford, Lincolnshire PE9 3NZ
Ffôn 01780 756777
E-bost info@cips.org
Gwefan www.cips.org
Graduate Guide to Procurement
Publisher: Chartered Institute of Purchasing & Supply (CIPS)
Gwefan www.graduateprocurement.com
The Buying Game
Publisher: Chartered Institute of Purchasing & Supply (CIPS) and Traidcraft
Gwefan www.thebuyinggame.org