Rydych chi yma:
- Hafan >
- Eich Gyrfa >
- Gyrfa +
Gyrfa +



Gyrfa +
Gyrfa +
Bydd y teclyn hwn yn eich helpu gyda’ch taith cynllunio gyrfa.
Rhowch eich llygoden dros yr olwyn Gyrfa+ i weld beth sydd ym mhob adran a chlicio arno pan fyddwch yn barod.
Gallwch ddefnyddio Gyrfa+ yn y drefn sydd orau i chi, a gallwch gael gweld eich cynnydd yn eich proffil.
Cadw’ch cymhelliad!
Yn yr adran hon gallwch –
- Glywed sut mae pobl wedi helpu eu hunain i gymryd rheolaeth dros eu dyfodol
- Cadw’n hyderus ac yn bositif am y dyfodol
- Darganfod beth sy’n eich ysgogi!
Cael syniadau
Yn yr adran hon gallwch –
- Gael gwybod am swyddi mewn meysydd o waith gwahanol
- Cael syniadau ac awgrymiadau am swyddi trwy wneud cwis cyflym a syml
Adnabod eich cryfderau
Yn yr adran hon gallwch –
- Gael gwybod sut mae’ch sgiliau a’ch talentau yn gallu eich helpu i gael gwaith neu benderfynu beth i’w wneud nesaf.
- Gweld y sgiliau a’r galluoedd sydd gennych a sut i’w datblygu
Meddwl am eich opsiynau
Yn yr adran hon gallwch –
- Gael gwybod am yr holl opsiynau a dewisiadau sydd ar gael i chi
- Cael gwybodaeth am waith a hyfforddiant, chwilio am swydd, pynciau, cyrsiau a mwy
Y farchnad swyddi
Yn yr adran hon gallwch –
- Gael gwybod beth sy’n digwydd yn y farchnad waith leol a’r swydd mae gennych ddiddorddeb ynddi
- Cael gwybodaeth am swyddi i’ch helpu i ddeall beth sy’n digwydd ym myd gwaith heddiw
Chwilio am swyddi a chyrsiau
Yn yr adran hon gallwch –
- Chwilio am wybodaeth am sgiliau, cyflogau, hyfforddiant a mwy
- Edrych ar gyfleoedd mewn unrhyw swydd
- Gwylio ffilmiau o bobl go iawn yn siarad am eu gwaith
Sut byddwch chi’n dewis?
Yn yr adran hon gallwch –
- Gael gwybod am y dewisiadau gwahanol mae pobl wedi’u gwneud a dysgu o’u profiadau
- Cael cyngor a help i wneud penderfyniadau
Gwneud eich gorau
Yn yr adran hon gallwch –
- Ddod o hyd i swyddi a gwneud cais
- Datblygu’ch sgiliau, gwybodaeth a hyder i gyflwyno’ch hun yn dda
Cymryd yr awenau
Yn yr adran hon gallwch –
- Sicrhau eich bod yn rhoi’r cyfle gorau i chi lwyddo
- Cael help a chymorth i oresgyn rhwystrau posibl yn eich bywyd
