Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Ymholiadau cyfryngau

Ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau cysylltwch â

Swydd Farwas - Caiff ymholiadau a anfonir i’r cyfeiriad e-bost yma eu monitro gan sawl aelod o’r tîm yn ystod oriau swyddfa’r DU yn unig.

Ar gyfer galwadau gan y cyfryngau y tu allan i oriau swyddfa ac ar benwythnosau cysylltwch â ni ar: 07775546122 / 07824351758.

Os nad yw eich ymholiad yn gysylltiedig â’r cyfryngau, ewch i’n tudalen Cysylltu â ni.


Ein logo cwmni

Dyma rai canllawiau a chyngor arfer da os ydych yn dymuno lawrlwytho ein logos i’w defnyddio ar eich gwefan, mewn cyhoeddiadau printiedig neu gyflwyniadau.

Gofyn ein caniatâd

Cysylltwch os gwelwch yn dda ag Adran Farchnata Gyrfa Cymru am ganiatâd i ddefnyddio ein logo yn eich deunyddiau.

0800 028 4844

Ebost

Cysylltu â’n gwefan

Pan fyddwch yn defnyddio ein logo ar eich gwefan neu gyfathrebiadau electronig, gofynnir i chi roi cyswllt o’r logo i hafan ein gwefan: gyrfacymru.llyw.cymru.

Safle a gosodiad

Rhaid gosod ein logo ar gefndir gwyn neu niwtral i ffwrdd o annibendod ac ymyl y dudalen. Peidiwch â gosod ein logo ar liwiau gwrthgyferbyniol. Os oes rhaid i chi ddefnyddio’r logo ar gefndir amryliw, gofynnir i chi ddefnyddio’n logo du/gwrthdroëdig. Pan fyddwch yn defnyddio’r logo du/gwrthdroëdig, peidiwch â’i osod ar gefndir sy’n rhy olau, rhy dywyll neu’n rhy anniben.

Peidiwch â

  • Throi’r logo neu newid y lliwiau o gwbl
  • Newid maint y logo trwy ehangu neu wrthdynnu’r corneli
  • Newid neu addasu ein logo trwy ychwanegu cysgodion, boglynwaith, arlliwio ac ati

Lawrlwytho logos

Gallwch ddewis lawrlwytho at ddefnydd print neu ddigidol. Er mwyn sicrhau ansawdd uchel, dewiswch y ffeil zip briodol.