Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Dyfodol Disglair

Geiriau Dyfodol Disglair

Rydym yn falch o gyflwyno ein gweledigaeth newydd, a ddatblygwyd gyda’n staff, ein cwsmeriaid a’n partneriaid fel datganiad o’n cyd-uchelgais i sicrhau dyfodol disglair i bobl Cymru.

Ar raddfa genedlaethol a rhyngwladol, mae’r adferiad o’r dirwasgiad yn sgil y pandemig yn galw am newidiadau sylfaenol mewn agweddau tuag at waith a sgiliau. Mae ein gweledigaeth yn nodi rôl hanfodol ein gwasanaeth cymorth gyrfaoedd dwyieithog, annibynnol a diduedd i bobl o bob oed wrth gefnogi adferiad economaidd y genedl, wedi’i ategu gan ein cred bod yn rhaid i ni ganolbwyntio ar ddyfodol disglair yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Rydym mewn sefyllfa unigryw i gefnogi pobl Cymru drwy ddarparu gwasanaeth gyrfaoedd cenedlaethol o’r radd flaenaf sy’n arwain y sector. Byddwn yn sicrhau, wrth i ni greu dyfodol disglair i unigolion yng Nghymru, nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Ein gweledigaeth

Creu dyfodol disglair i bobl Cymru."

Ein diben

Rydym am:

  • Gefnogi pobl ifanc ac oedolion yng Nghymru i greu dyfodol disglair
  • Ddarparu mynediad at gymorth gyrfaoedd diduedd o ansawdd uchel
  • Gael effaith gadarnhaol ar ganlyniadau addysg, economaidd a llesiant unigolion

Ein gwerthoedd

Bydd Gyrfa Cymru yn:

  • Rhoi anghenion y cwsmer wrth wraidd yr hyn a wnawn
  • Cydweithio ag eraill i gyflawni cyd-nodau
  • Arloesol, wedi'n galluogi gan dechnoleg ac yn cael ein harwain gan ddealltwriaeth

Ein hegwyddorion

Rydym yn:

  • Ddiduedd - Gweithredu fel brocer gonest gan gefnogi dewisiadau a phenderfyniadau gyrfa
  • Bersonol - Sicrhau bod ein gwasanaeth cymorth gyrfaoedd cyfunol wedi'i deilwra'n benodol i anghenion unigolion
  • Gynhwysol- Ymrwymedig i sicrhau cynhwysiant, tegwch ac amrywiaeth

Sut byddwn yn cyflawni ein gweledigaeth?

Byddwn yn cyflawni ein gweledigaeth drwy:

  • Barhau i ysgogi pobl i ddysgu
  • Eu hannog i beidio â diystyru cyfleoedd yn rhy gynnar
  • Ehangu gorwelion a herio rhagdybiaethau anghywir
  • Greu profiadau perthnasol o’r byd gwaith ac amlygiad perthnasol iddo
  • Gyfrannu at well canlyniadau addysg, economaidd a chymdeithasol

Gweld yr adroddiad llawn a'r fersiwn hawdd i'w ddarllen

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Dyfodol Disglair - Ein Gweledigaeth Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Dyfodol Disglair Ein Gweledigaeth - Hawdd i'w ddarllen Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..

Cynllun Gweithredol

Darllenwch ein Cynllun Gweithredol i weld sut mae'r pedwar nod strategol lefel uchel a'r canlyniadau strategol sy'n cyd-fynd â nhw ar gyfer Dyfodol Disglair wedi'u mynegi'n glir.


Gweld crynodeb o'n gweledigaeth Dyfodol Disglair