Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Beth rydym yn ei wneud a pham rydym ni'n bodoli

Beth rydym yn ei wneud

Mae ein tîm o Gynghorwyr Gyrfa proffesiynol wedi cymhwyso i helpu unigolion i fod yn fwy effeithiol wrth gynllunio a rheoli eu gyrfaoedd yn llwyddiannus.

Mae rheoli gyrfa yn golygu mwy nag un dewis galwedigaethol, ond yn hytrach delio gyda chyfres o newidiadau gyrfa gydol oes. Mae gwella sgiliau a rheoli gyrfa unigolion yn eu galluogi i wneud y newidiadau hyn yn fwy esmwyth, i gael mwy o foddhad yn eu gyrfa ac i wneud mwy o gyfraniad at yr economi a’u cymunedau.

Mae ein gwasanaethau dwyieithog wedi eu canolbwyntio ar y rhai sydd fwyaf o angen help gyda chynllunio gyrfa.

Rydym yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd annibynnol a diduedd am yrfaoedd mewn canolfannau, ar leoliad partner, ar-lein, dros y ffôn a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Rydym hefyd yn gweithio â phartneriaid i gynnig gwasanaethau cysylltiedig, gan gynnwys:

  • Cefnogi’r cysylltiad rhwng cyflogwyr ac ysgolion er mwyn cyfoethogi dealltwriaeth myfyrwyr o fyd gwaith. Cyflawnir hyn trwy wasanaethau cyffredinol fel ffeiriau gyrfaoedd ar raddfa fawr, trwy ddulliau digidol gan gynnwys gweminarau gan gyflogwyr yn ogystal ag ystod o weithgareddau a digwyddiadau pwrpasol. Rydym hefyd yn rhoi mynediad i ysgolion i gronfa ddata genedlaethol o gyflogwyr drwy'r Gyfnewidfa Addysg Busnes
  • Cynnig cefnogaeth i ysgolion a cholegau, trwy gyfarfodydd ymgynghori a hyfforddiant pwrpasol, i wella eu cwricwlwm  gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith (gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith).

Mae Gyrfa Cymru hefyd yn cefnogi cynlluniau penodol Llywodraeth Cymru gan gynnwys:

Mae manylion pellach ar gael yn ein Cynllun Busnes. Mae ein gofynion gwasanaeth yn cael ei osod yn ein llythyr cylch gwaith gorchwyl blynyddol a’i seilio ar Erthyglau Cymdeithasau Careers Wales Dewis Gyrfa (CCDG) a’r Ddogfen Fframwaith rhwng Llywodraeth Cymru a CCDG.

Pam rydym ni'n bodoli

Penderfyniadau gyrfa yw rhai o’r penderfyniadau pwysicaf y mae pobl yn eu gwneud gydol eu bywydau a gall gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfa helpu i:

  • Wella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o gyfleoedd dysgu a’r farchnad lafur
  • Wella hunanymwybyddiaeth, codi dyheadau unigol a chefnogi pobl i wneud penderfyniadau effeithiol am eu gyrfaoedd
  • Gynyddu mynediad i ddysgu a’r cyfraddau cwblhau
  • Ysgogi pobl i reoli eu gyrfaoedd, gwella sgiliau cyflwyno ceisiadau a chyfweld a bod yn wydn wrth addasu eu cynlluniau pan fo amgylchiadau’n newid
  • Fynd i’r afael ag anghydraddoldeb drwy ganolbwyntio ar anghenion grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol ym maes cyflogaeth, dysgu neu hyfforddiant a thrwy herio stereoteipio
  • Wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y farchnad lafur, er enghraifft drwy wella’r ffordd y mae’r broses o gyflenwi sgiliau yn cyfateb i’r galw amdanynt

Cynllun Gweithredol

Darllenwch ein Cynllun Gweithredol i ddysgu mwy am ein pedwar nod lefel uchel a’r canlyniadau strategol cysylltiedig ar gyfer Dyfodol Disglair.

Llythyr Cylch Gwaith 2022-2026

Darllenwch y Llythyr Cylch Gwaith Careers Choices/Dewis Gyrfa (CCDG) grant craidd.