Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Amgylchedd

Mae Careers Choices Dewis Gyrfa (CCDG) yn cydnabod bod ei ystod eang o weithgareddau a gwasanaethau yn cael effaith bositif a negyddol ar yr amgylchedd ac mae’n awyddus i reoli a lleihau’r rhain pan fo’n bosibl.

Adroddiad amgylcheddol

Ategir ein strategaeth amgylcheddol gan ddeddfwriaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru. Er mwyn ein helpu ni i gyflawni’r nod hwn rydyn ni wedi dechrau defnyddio Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd, sy’n cael ei archwilio’n annibynnol. Ceir manylion ein hegwyddorion trosfwaol yn ein polisi amgylcheddol ac maen nhw’n cael eu defnyddio a’u monitro drwy ddefnyddio system reoli amgylcheddol.

Sut rydyn ni'n rheoli'r busnes

Nod CCDG yw ceisio gwella’r broses rydyn ni’n ei defnyddio i reoli ein heffaith amgylcheddol yn barhaol. Rydyn ni wedi sefydlu dau bwyllgor sy’n goruchwylio’r gofynion monitro ac adrodd yn ein strwythur llywodraethol. Mae’r Tîm Gwyrdd yn gyfrifol am sicrhau bod archwilio a chynhyrchu’r data monitro’n cael ei oruchwylio ac maen nhw’n adrodd yn uniongyrchol i’r Uwch Dîm Rheoli. Pwyllgor Lles Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n gyfrifol am osod cyfeiriad strategol ar gyfer yr amgylchedd a bioamrywiaeth.

Perfformiad amgylcheddol

Yn 2022-23, fe wnaethom fabwysiadu model gweithio hybrid a oedd yn caniatáu i staff weithio gartref neu o’u prif swyddfa. Rydym yn y broses o ddatblygu ein strategaeth adeiladau i sicrhau bod ein harferion gwaith hybrid yn cyd-fynd yn llawn â’n strategaeth sero net ar gyfer 2030.

Mae ein strategaeth sero net yn seiliedig ar osod sylfaen ar gyfer dull cwbl newydd o ymdrin â’r ffordd yr ydym yn rhyngweithio â’n cwsmeriaid i ddiogelu ein gwasanaethau at y dyfodol drwy sicrhau bod gennym bortffolio adeiladau bywiog i ddiwallu anghenion cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.

Ein hamcanion allweddol fydd darparu swyddfeydd modern datblygedig yn dechnolegol, gydag allyriadau carbon isel a fydd yn rhoi’r gallu i ni ddarparu amgylcheddau gwaith modern sy’n caniatáu arferion gweithio’n hyblyg sydd ar gael i groestoriad eang o’r gymuned. Yn unol â’r strategaeth genedlaethol ‘Ffyniant i Bawb’, byddwn yn sicrhau bod ein portffolio ystadau yn mynd i’r afael ag anghenion y gymuned yr ydym yn gweithredu ynddi. Rydym wedi neilltuo cyllideb ar gyfer buddsoddiad cyfalaf mewn tri o’n heiddo sy’n eiddo i ni er mwyn gwella sgôr eu Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) yn 2023/24. Rydym wedi cwblhau arolwg ôl-osod amgylcheddol o’r swyddfeydd hyn a’n nod yw cwblhau’r gwaith yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae systemau rheoli’r amgylchedd a phrosesau monitro sy’n rhan annatod o’r cwmni yn allweddol i gyflawni ein strategaeth. Yn 2022-23, buom yn llwyddiannus wrth ailymgeisio am achrediad Lefel 4 system achredu amgylcheddol y Ddraig Werdd. Mae’r data amgylcheddol yn y tabl isod wedi’i gasglu o’r 30 swyddfa sydd o dan ein rheolaeth lwyr a lle rydym yn derbyn anfonebau’n uniongyrchol gan y cyflenwr ynni. Yn ogystal â’r adrodd ar ddata amgylcheddol sydd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad hwn, rydym hefyd yn adrodd yn flynyddol ar wybodaeth amgylcheddol ychwanegol i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys amcangyfrif o allyriadau kgCO2e ar gyfer gweithio gartref (131,927), teithio i’r gwaith (63,831) a chadwyni cyflenwi (1,345,737).

Tabl yn dangos ein perfformiad amgylcheddol:
 2020-20212021-20222022-2023
Dŵr (Litrau)1,742,1801,021,0001,936,000
Milltiroedd Busnes57,069209,586275,919
Trydan kWh281,920306,267356,144
Nwy kWh1,005,4771,192,7371,270,523
Nwyon tŷ gwydr
CO2 – tunelli
343348383
Tabl yn dangos ein costau ariannol mewn punnoedd (£):
 2020-20212021-20222022-2023
Nwy21,43820,89226,851
Trydan64,319104,723113,626
Dŵr9,4935,62116,891

Er mwyn cyfrifo’r tunelli CO2 o allyriadau ar gyfer nwy a thrydan, rydym yn defnyddio’r ffactor kWh kgCO2e, sy’n amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Yn 2022, bu cynnydd yn ffactor kWh kgCO2e y DU o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae’r ffigurau uchod yn cynrychioli’r defnydd o ynni ar draws ein busnes. Fel y nodwyd yng nghyfrifon statudol y llynedd, roeddem yn disgwyl cynnydd yn ein hallyriadau y flwyddyn ariannol hon ac roedd y canlyniad terfynol yn adlewyrchu’r disgwyliadau hyn. O gymharu â’r flwyddyn flaenorol, agorodd ein swyddfeydd am ddiwrnodau ychwanegol ac mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn milltiroedd busnes, defnydd trydan a defnydd nwy.

Yn 2023/24, rydym yn cynllunio gostyngiad o 15% yn ein defnydd o nwy, trydan a dŵr. Rydym wedi neilltuo gwariant refeniw a chyfalaf i helpu i leihau ein hallyriadau sy’n gysylltiedig ag adeiladau, trafnidiaeth, a nwyddau a gwasanaethau a brynir. Rydym yn y broses o adolygu ein hystad sy’n eiddo i ni ac ar brydles i sicrhau bod ein portffolio ystadau yn addas i’r diben i ddiwallu anghenion staff a’n sylfaen cwsmeriaid. 

Ein prif amcan yw lleihau ein hôl troed CO2 drwy greu adeiladau sy’n effeithlon yn amgylcheddol fel y nodir gan sgôr eu Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC). Rydym wedi nodi swyddfeydd nad ydynt bellach yn cyd-fynd â’n strategaeth ac rydym yn rhagweld y bydd newidiadau i’n portffolio ystadau presennol yn y flwyddyn ariannol nesaf. Rydym yn canolbwyntio ar swyddfeydd llai ac rydym yn edrych ar gyfleoedd i gydleoli gyda sefydliadau partner.


Dogfennau

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Polisi Cyflogaeth Foesegol Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..