Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Ein adroddiad blynyddol

Mae’n bleser mawr gennyf gyflwyno ein hadroddiad blynyddol ar gyfer 2022-23.

Roedd 2022-23 yn nodi ail flwyddyn ein strategaeth bum mlynedd, Dyfodol Disglair. Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys ein cyflawniadau allweddol yn erbyn y weledigaeth hon. Mae’n dangos sut y cefnogodd ein gwasanaethau bobl Cymru ac economi Cymru.

Rwy'n arbennig o falch o'n hymrwymiad parhaus i roi anghenion cwsmeriaid wrth wraidd yr hyn a wnawn. Trwy ein gwasanaeth digidol a phersonol cyfun, rydym yn teilwra ein cefnogaeth i anghenion unigolion. Rydym yn darparu gwasanaeth cynhwysol nad yw’n gadael neb ar ôl.

Hoffwn ddiolch a chydnabod ymroddiad ein haelodau bwrdd a’r holl gydweithwyr yn Gyrfa Cymru. Mae eu cyfraniad parhaus, eu harbenigedd a'u gallu i addasu yn gwneud yr hyn a wnawn yn bosibl.

Rwy’n hynod falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni eleni. Byddwn yn parhau â’n hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth o safon i helpu i greu Cymru gryfach, wyrddach a thecach i bawb.”

Nikki Lawrence, Prif Weithredydd

Dogfen

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Adroddiad Blynyddol 2022-2023 Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..

Os hoffech weld ein hadroddiadau blaenorol, cysylltwch â ni.