Rhannu'r dudalen hon

Dewiswch symbol:

Erthygl: Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches (Gwaith ac Addysg)

Crynodeb

Mae'r erthygl hon yn dweud wrthych chi a oes posib i chi weithio, hyfforddi neu dderbyn addysg os ydych chi'n ffoadur neu'n geisydd lloches. Mae yma wybodaeth am ddosbarthiadau Saesneg (ESOL) a chyngor am sut mae defnyddio unrhyw gymwysterau sydd gennych chi o'ch gwlad enedigol. Cewch wybodaeth hefyd am bobl eraill a all eich helpu chi.

Statws mewnfudo

Mae eich statws mewnfudo yn effeithio ar eich gallu i weithio, cael hyfforddiant neu dderbyn addysg ai peidio. Mae'r erthygl yma'n cyfeirio at y mathau canlynol o statws mewnfudo.

  • Ffoadur: rhywun sydd wedi hawlio lloches ac sydd wedi cael statws ffoadur gan y Swyddfa Gartref.
  • Ceisydd lloches: rhywun sydd wedi hawlio lloches ond nid yw wedi derbyn penderfyniad am ei gais.
  • Caniatâd yn ôl Disgresiwn (CD) a Diogelwch Dyngarol (DD): efallai y bydd y Swyddfa Gartref yn rhoi CD/DD i unigolyn os nad yw'n bodloni'r amodau i gael statws ffoadur ond bod rhesymau digonol iddo gael aros yn y DU.
  • Caniatâd Amhenodol i Aros (ILR): rhoddir hwn i bobl nad oes unrhyw gyfyngiad amser ar eu harhosiad yn y DU.

Cyflogaeth

Mae gan ffoaduriaid hawl i weithio yn y DU. Mae ganddyn nhw yr un hawliau â gweithwyr eraill. Er enghraifft, mae'n rhaid iddyn nhw dderbyn yr isafswm cyflog cenedlaethol o leiaf.

Os ydych chi'n geisydd lloches, ni allwch chi weithio am gyflog fel rheol. Er hynny, efallai y bydd y Swyddfa Gartref yn rhoi caniatâd i chi weithio os ydych chi wedi aros mwy na 12 mis am benderfyniad ynghylch a oes posib i chi aros yn y DU ai peidio, ac os mai nid eich bai chi ydi'r ffaith eich bod chi wedi gorfod aros mor hir am y penderfyniad yma.

Hefyd, ni all ceiswyr lloches heb ganiatâd i weithio fod yn hunangyflogedig chwaith.

Gwaith gwirfoddol

Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael gwneud gwaith gwirfoddol. Fel rheol, mae hyn yn cynnwys gwaith heb dâl i helpu elusen neu fudiad gwirfoddol, ond mae posib cael profiad gwaith drwy wirfoddoli mewn sawl maes gwaith.

Mae gan elusennau a mudiadau gwirfoddol swyddi sy'n cynnig tâl hefyd. Er hynny, ni chaiff ceiswyr lloches heb ganiatâd i weithio wneud y rhain.

Mae llawer o bobl yn y DU yn gwneud gwaith gwirfoddol am sawl rheswm. Mae posib:

  • dod i wybod sut un ydi'r swydd sydd o ddiddordeb i chi mewn gwirionedd
  • dysgu pethau a chael sgiliau newydd
  • gwella eich Saesneg
  • cyfarfod pobl a gwneud ffrindiau
  • helpu pobl
  • cael profiad a geirda i ychwanegu at eich CV.

Mae gwaith gwirfoddol yn gallu bod yn arbennig o dda i geiswyr lloches - fe allwch chi ddysgu sgiliau a chael profiad wrth aros am ganiatâd i wneud gwaith gyda thâl.

Fe allwch chi wirfoddoli gyda llawer o bethau, fel:

  • gweithio mewn siop neu swyddfa i elusen
  • rhoi cyngor i ffoaduriaid a cheiswyr lloches eraill
  • cyfieithu
  • helpu gyda grwpiau cymunedol
  • gofalu am bobl hyn
  • gwarchod yr amgylchedd.

Er na fyddwch chi'n cael eich talu fel rheol, fe ddylech chi gael treuliau i dalu am y pethau rydych chi wedi gorfod talu amdanyn nhw eich hun fel rhan o'r gwaith, fel teithio, prydau ac aros mewn gwestai.

I gael help a chyngor gyda chwilio am waith gwirfoddol, edrychwch ar 'Rhagor o Wybodaeth' ar ddiwedd yr erthygl yma.

Defnyddio eich sgiliau a'ch cymwysterau

Mae llawer o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn dod i'r DU gyda sgiliau a chymwysterau gwerthfawr y maen nhw wedi'u hennill yn eu gwledydd genedigol. Mae rhai ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn weithwyr proffesiynol gyda chymwysterau uchel iawn, fel meddygon, peirianwyr, deintyddion ac athrawon.

Er hynny, mae'n gallu bod yn anodd dychwelyd i'ch proffesiwn, er enghraifft, os ydych chi wedi gorfod gadael eich gwlad yn gyflym a heb gael amser i ddod â dogfennau pwysig neu eirda gyda chi. Hefyd, i weithio yn y wlad yma, efallai y bydd rhaid i chi lwyddo mewn arholiadau iaith Saesneg neu gymhwyso eto.

Mae sefydliadau, sy'n cael eu galw'n gyrff proffesiynol, yn gyfrifol am rai gyrfaoedd. Mae llawer ohonyn nhw'n gweithio gyda ffoaduriaid i'w helpu nhw i weithio eto. Er enghraifft, mae Cymdeithas Feddygol Prydain yn helpu meddygon ar ffo.

Fe all eich cymwysterau a'ch profiad chi yn eich gwlad enedigol fod yn bwysig iawn yn y DU. Er hynny, mae'n rhaid i chi weld sut maen nhw'n cymharu â chymwysterau'r DU, fel bod cyflogwyr yn gallu gweld yn rhwydd beth rydych chi'n gallu ei wneud.

Os oes gennych chi gymhwyster proffesiynol, er enghraifft, meddyg, cyfreithiwr, peiriannydd neu athro, fe ddylech chi gysylltu â'r corff proffesiynol i weld sut mae eich cymhwyster yn cymharu â chymwysterau'r DU.

Fel arall, bydd sefydliad o'r enw UK NARIC (edrychwch ar 'Rhagor o Wybodaeth') yn gallu eich helpu chi i gymharu. Bydd rhaid i chi roi rhywfaint o wybodaeth, fel teitl eich cymhwyster, a pha bryd ac yn lle buoch chi'n astudio amdano.

Ailgymhwyso

Efallai y bydd rhaid i chi ailgymhwyso os nad ydi cyflogwyr yn derbyn y cymwysterau sydd gennych chi o'ch gwlad enedigol. Fe allai hyn olygu cael cymwysterau newydd neu wneud cyrsiau hyfforddi yma yn y DU.

Mae llawer o yrfaoedd proffesiynol, fel addysgu a meddygaeth, yn cael eu rheoleiddio. Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi gael cymwysterau penodol cyn cael gwneud y swyddi yma.

Nid yw mathau eraill o waith yn cael eu rheoleiddio, felly efallai y bydd posib i chi ddechrau gweithio yma yn y DU. Er hynny, efallai y bydd cyflogwyr am i chi sefyll rhai arholiadau neu ddilyn cyrsiau hyfforddi penodol.

Mae ailgymhwyso'n gallu cymryd llawer o amser a chostio llawer o arian. Os oes raid i chi fynd i goleg neu brifysgol, bydd rhaid i chi gael sgiliau Saesneg da iawn.

Weithiau, fe all gweithio mewn maes cysylltiedig eich helpu chi i ailgymhwyso. Er enghraifft, fe all gweithio fel technegydd eich helpu chi i fagu profiad a gwneud cyrsiau hyfforddi a fydd yn gallu mynd â chi yn ôl i fyny i lefel broffesiynol.

Collfarnau troseddol: oes raid i mi ddweud wrth gyflogwyr?

Dylech chi gael cyngor am hyn. Dylai sefydliadau sy'n gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches ddeall bod rhai gwledydd yn rhoi pobl yn y carchar am bethau fel eu credoau gwleidyddol neu am gymryd rhan mewn protestiadau. Er hynny, efallai na fydd cyflogwyr eraill yn gwybod cymaint am y sefyllfa yma.

Mae gan y DU reolau penodol ar gyfer pryd mae'n rhaid i chi ddweud wrth gyflogwyr am gollfarnau troseddol. O dan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974, mae rhai collfarnau 'wedi darfod' neu'n cael eu hanwybyddu ar ôl cyfnod penodol o amser. Mae hyn yn golygu nad oes raid i chi ddweud wrth gyflogwr amdanyn nhw fel rheol.

Mae rhai swyddi lle mae'n rhaid i chi ddweud wrth gyflogwr am eich holl gollfarnau, gan gynnwys y rhai sydd wedi darfod. Mae'r swyddi hyn yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed (fel pobl anabl), gwaith cyfreithiol, gwaith gyda'r heddlu neu waith prawf.

Am gyngor am y materion hyn, mae posib i chi siarad gyda NACRO (edrychwch ar 'Rhagor o Wybodaeth'). Os oes rhaid i chi ddweud wrth gyflogwyr am eich collfarnau, mae cyngor ar gael am y ffyrdd gorau o wneud hynny fel bod cyflogwyr yn deall eich sefyllfa chi.

Hyfforddiant

Mae ffoaduriaid sy'n derbyn budd-daliadau'n gallu cymryd rhan yng nghynlluniau hyfforddi'r llywodraeth fel Prentisiaethau Canolraddol ac Uwch, a hyfforddiant i helpu pobl ddi-waith. Nid yw ceiswyr lloches, gyda neu heb ganiatâd i weithio, yn cael ymuno â chynlluniau hyfforddi'r llywodraeth.

I gael rhagor o wybodaeth am Brentisiaethau, edrychwch ar y wefan Prentisiaethau yn 'Rhagor o Wybodaeth'. I gael gwybodaeth am hyfforddiant i bobl ddi-waith, cysylltwch â swyddfa leol eich Canolfan Byd Gwaith.

Addysg

Mae gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches hawl gyfreithiol i addysg, ar yr amod eu bod yn bodloni unrhyw ofynion mynediad ac yn gallu talu ffioedd y cwrs. I ddangos bod gennych chi'r cymwysterau priodol i wneud cwrs, efallai y bydd rhaid i chi ofyn i UK NARIC am gyngor am sut mae eich cymwysterau chi o'ch gwlad enedigol yn cymharu â'r rhai yn y DU.

Mae sawl math o gwrs y gallwch chi ei astudio, ar sawl lefel.

Mae addysg bellach (FE) ar gyfer pobl dros 16 oed. Mae'n is na lefel gradd, gradd sylfaen neu DCU. Mae'r ffioedd y mae'n rhaid i chi eu talu'n dibynnu ar eich statws mewnfudo. Fel rheol, mae ffoaduriaid a phobl gyda Chaniatâd Amhenodol i Aros (CAA) neu Ddiogelwch Dyngarol (DD) yn talu ffioedd myfyriwr cartref (ffioedd is). Mae cyrsiau AB yn gallu bod am ddim i ffoaduriaid a phobl gyda CAA sy'n rhieni sengl, yn anabl neu'n derbyn budd-daliadau. Maen nhw'n gallu bod am ddim i bobl gyda DD sydd ar fudd-daliadau hefyd.

Mae ffoaduriaid a phobl gyda CAA a DD yn gallu cael arian cefnogi dysgwyr. Mae'r arian yma'n helpu gyda rhai costau addysgol. Nid yw ceiswyr lloches dros 18 oed yn gallu cael arian cefnogi dysgwyr.

Mae cyrsiau addysg uwch (AU) yn cynnwys graddau, graddau sylfaen, DCU a diploma addysg uwch. Maen nhw ar gael mewn prifysgolion a cholegau AU yn bennaf.

Mae ffoaduriaid a phobl gyda DD yn talu ffioedd myfyrwyr cartref. Maen nhw'n gallu cael cefnogaeth i fyfyrwyr, fel benthyciadau hyfforddiant a grantiau cynnal (mae'n rhaid i bobl gyda DD fod wedi preswylio yn y DU am dair blynedd cyn y gallant gael y gefnogaeth yma).

Mae rhai prifysgolion a cholegau AU yn ystyried ceiswyr lloches fel myfyrwyr rhyngwladol sy'n gorfod talu ffioedd tramor. Mae eraill yn codi ffioedd cartref, fel rheol, os oes gennych chi Lythyr Cydnabod Safonol dilys neu Gerdyn Cofrestru Cais gan y Swyddfa Gartref.

Er hynny, fel rheol, nid yw ceiswyr lloches yn cael cefnogaeth myfyrwyr nes bod y Swyddfa Gartref wedi gwneud penderfyniad ynghylch eu cais.

Fe ddylech chi siarad gyda'r brifysgol neu edrych ar ei gwefan i weld sut mae'n codi ffioedd ar geiswyr lloches.

Os bydd eich statws mewnfudo'n newid tra rydych chi ar y cwrs, mae'n rhaid i chi ddweud wrth y coleg neu'r brifysgol ar unwaith, fel eich bod chi'n gallu cael cefnogaeth i fyfyrwyr neu dalu ffioedd is.

Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)

Ystyr ESOL ydi Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill. Mae'n bwysig iawn eich bod chi'n dysgu Saesneg, am lawer o resymau. Mae'n bwysig mewn addysg a gwaith - ac mae hefyd yn eich helpu chi i wneud ffrindiau a theimlo'n rhan o'r gymuned lle rydych chi'n byw.

Mae ESOL ar gyfer myfyrwyr o wahanol allu. Y lefel isaf ydi'r Lefel Mynediad, sy'n cael ei rhannu'n Mynediad 1, Mynediad 2 a Mynediad 3. Dilynir y rhain gan Lefel 1 a Lefel 2.

Os ydych chi'n siarad Saesneg ac yn byw yn y DU fel ymfudwr 'medrus neu 'tra medrus' (edrychwch ar wefan Asiantaeth Ffiniau'r DU), mae'n rhaid i chi lwyddo yn y prawf 'Bywyd yn y DU' er mwyn cael dinasyddiaeth y DU. Os nad ydych chi'n siarad Saesneg nac yn ymfudwr sgiliedig neu sgiliedig uwch, mae'n rhaid i chi lwyddo yng nghwrs Mynediad Lefel 3 ESOL, sy'n cynnwys deunyddiau dinasyddiaeth.

Fe allwch chi gael gwersi ESOL mewn colegau ac ysgolion iaith preifat. Yn aml iawn, mae cynghorau lleol yn cynnal gwersi, er enghraifft, mewn canolfannau cymunedol. Mae rhai sefydliadau i ffoaduriaid yn cynnal dosbarthiadau ESOL hefyd.

Mae ffoaduriaid sy'n derbyn Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gallu cael dosbarthiadau ESOL am ddim. Mae ceiswyr lloches sydd wedi bod yn y DU am chwe mis a heb gael penderfyniad am eu cais yn gallu cael cyllido eu dosbarthiadau ESOL yn rhannol (mae'n rhaid iddyn nhw dalu 50% o ffioedd y cwrs).

Os ydych chi'n geiswyr lloches rhwng 16 ac 18 oed ac yn cael cymorth lloches, fe gewch chi'r cwrs ESOL am ddim. Os byddwch chi'n troi'n 19 oed ar ôl i chi ddechrau ar y cwrs, bydd posib i chi gwblhau'r cwrs.

Os oes raid i chi dalu, mae'r ffioedd yn amrywio. Fel rheol, mae ffoaduriaid yn talu'r ffioedd 'cartref' is, ond efallai y bydd rhaid i geiswyr lloches dalu'r ffioedd 'tramor' uwch.

Er hynny, caiff y sefydliad sy'n cynnal y dosbarthiadau ESOL, fel coleg addysg bellach, benderfynu ar y ffioedd i'w codi. Dylech chi ofyn i'r coleg neu'r ysgol iaith faint mae ESOL yn ei gostio.

Gwybodaeth Bellach

Home Office

Cyfeiriad Direct Communications Unit, 2 Marsham Street, London SW1P 4DF

Ffôn 020 7035 4848

E-bost public.enquiries@homeoffice.gsi.gov.uk

Gwefan www.gov.uk/government/organisations/home-office

Volunteering England

Part of NCVO

Cyfeiriad Society Building, 8 All Saints Street, London N1 9RL

Ffôn 020 7713 6161

E-bost ncvo@ncvo-vol.org.uk

Gwefan www.volunteering.org.uk

Working for a Charity

Managed by NCVO

Cyfeiriad Society Building, 8 All Saints Street, London N1 9RL

Ffôn 020 7520 2512

E-bost workingforacharity@ncvo-vol.org.uk

Gwefan www.workingforacharity.org.uk

Scottish Council for Voluntary Organisations (SCVO)

Scottish enquiries

Cyfeiriad Mansfield Traquair Centre, 15 Mansfield Place, Edinburgh EH3 6BB

Ffôn 0131 4748000

E-bost enquiries@scvo.org.uk

Gwefan www.scvo.org.uk

National Association for Voluntary and Community Action (NAVCA)

Cyfeiriad The Tower, 2 Furnival Square, Sheffield S1 4QL

Ffôn 0114 2786636

E-bost navca@navca.org.uk

Gwefan www.navca.org.uk

Apprenticeships

National Apprenticeship Service (NAS)

Ffôn 0800 015 0400

E-bost nationalhelpdesk@findapprenticeship.service.gov.uk

Gwefan www.apprenticeships.org.uk

UK NARIC

International qualification comparison information from ECCTIS Ltd

Cyfeiriad Oriel House, Oriel Road, Cheltenham, Gloucestershire GL50 1XP

Ffôn 0871 3307033

Gwefan www.naric.org.uk

Community Service Volunteers (CSV)

Cyfeiriad 237 Pentonville Road, London N1 9NJ

Ffôn 020 7278 6601

E-bost information@csv.org.uk

Gwefan www.csv.org.uk

Do-it

Volunteering made easy - a volunteering database run by charity YouthNet

Gwefan www.do-it.org.uk

Nacro Resettlement Advice Service

Cyfeiriad Park Place, 10-12 Lawn Lane, London SW8 1UD

Ffôn 020 7840 1212

E-bost resettlement.helpline@nacro.org.uk

Gwefan www.nacro.org.uk

Refugee Assessment and Guidance Unit (RAGU)

Cyfeiriad The Learning Centre, 236-250 Holloway Road, London N7 6PP

Ffôn 020 7133 2110

E-bost ragu@londonmet.ac.uk

Gwefan www.londonmet.ac.uk/ragu/

Refugee Council

Ffôn 0808 8082255

Gwefan www.refugeecouncil.org.uk

Refugee Action

Cyfeiriad Victoria Charity Centre, 11 Belgrave Road, London SW1V 1RB

Ffôn 020 7952 1511

E-bost info@refugee-action.org.uk

Gwefan www.refugee-action.org.uk

Asylum Support

UK government services and information

Gwefan www.gov.uk/asylum-support

Croeso i Gyrfa Cymru

Dewiswch iaith

Cymraeg

Welcome to Careers Wales

Please select your language

English