Deall cymwysterau
Ymgeisio am swydd? Gwneud dewisiadau ôl 16? Meddwl am fynd yn ôl i’r coleg?
Mae cannoedd o wahanol fathau o gymwysterau ar gael. Mae’n hawdd cael eich drysu!
Mae gennym gyngor a gwybodaeth a allai eich helpu i ddeall cymwysterau a lefelau.
- Mae cymwysterau i gyd yn y DU yn ffitio i mewn i lefelau. Cymerwch olwg ar yr 'olwyn' cymwysterau’. Bydd y cymwysterau sydd gennych (neu’n gobeithio eu cael) yn ffitio rhywle yn y lefelau.
- Mae’n bosibl bydd angen lefel benodol o gymhwyster i ymgeisio am swydd neu gwrs. Mae hysbysebion swyddi a phrosbectysau yn aml yn sôn am lefel o gymhwyster sydd ei angen mewn pwnc penodol. Er enghraifft -
Hysbyseb am swydd cynorthwyydd dysgu
Lleiafswm o gymhwyster Lefel 2 Cynorthwyydd Dysgu (neu’r cyfwerth)
Profiad diweddar a pherthnasol o weithio mewn Ysgol Gynradd gyda phlant CA2
Profiad o ddarparu cymorth 1:1 a deall anghenion dysgu ychwanegol
Sgiliau/profiad o reoli ymddygiad cryf
Agwedd bositif a brwdfrydig a natur ddiffuant
Cymwysterau derbyn ar gyfer cwrs BTEC (seiliedig ar beirianneg) mewn coleg
Fel arfer bydd angen o leiaf un o’r cymwysterau lefel 2 a ganlyn: · Tystysgrif Gyntaf neu Ddiploma BTEC mewn pwnc cysylltiedig · O leiaf bedair TGAU gradd A* i C yn cynnwys Mathemateg
- Bydd gwybodaeth am swyddi a gyrfaoedd yn aml yn rhestru cymwysterau mynediad fel lefelau. Cymerwch olwg ar swydd neu ddwy yn ein hadran gwybodaeth am swyddi
- Os oes gennych yrfa neu swydd mewn golwg, gwiriwch lefel a’r math o gymwysterau sydd eu hangen arnoch. Efallai bydd gofyn am lefel o gymhwyster a phwnc neu bynciau penodol.
- Cewch symud ymlaen trwy’r lefelau wrth i chi hyfforddi ac astudio – a hynny mewn addysg ac yn y gwaith. Edrychwch ar yr adran ‘Beth sy’n dod nesaf’
Mae’r nodiadau hyn yn ceisio esbonio cymwysterau a lefelau mor syml â phosibl, ond maes cymhleth yw e. Os oes gennych ymholiad am gymwysterau efallai bydd angen i chi gysylltu ag arbenigwr, fel tiwtor, cynghorydd gyrfa neu athro.