Prentisiaeth/hyfforddi

undefined

  • Awydd dysgu yn y gweithle, ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr a chael lwfans hyfforddi neu gyflog wrth ichi wneud hynny?
  • Yna, beth am ystyried hyfforddi yn y gweithle gyda chwmni lleol neu genedlaethol ar brentisiaeth neu raglen hyfforddi sy’n gweithio tuag at NVQ (Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol)?
  • Mae cymwysterau NVQ yn dangos eich bod chi’n meddu ar y sgiliau i wneud swydd benodol, er enghraifft gweithio mewn siop, adeiladu, gwneud gwaith swyddfa a gwaith gofal.
  • Byddwch chi naill ai’n hyfforddi’n uniongyrchol yn eich swydd, neu byddwch chi’n mynd i goleg neu ganolfan hyfforddi yn rhan amser.
  • Mae lleoliad hyfforddi wedi’i warantu i bobl ifanc 16-17 mlwydd oed nad ydyn nhw mewn addysg nac mewn swydd.
  • Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, mae lleoliadau hyfforddi hefyd ar gael i bobl ifanc 18-24 mlwydd oed.
  • Gall nifer y lleoliadau sydd ar gael mewn rhai swyddi amrywio, gan ddibynnu ar yr ardal rydych chi’n byw ynddi.
  • Mae pob rhaglen hyfforddi a phrentisiaeth hefyd yn cynnwys sgiliau allweddol sy'n gysylltiedig â'r cymhwyster hwnnw.
  • Mae Gyrfa Cymru yn darpary gwasanaeth cyfleoedd i bobl 16 i 19 oed sy’n chwilio am hyfforddiant/prentisiaeth. Chwilio am gyfleoedd nawr. Siaradwch â’ch Cynghorydd Gyrfa os oes gennych ddiddordeb mewn Prentisiaethau a hyfforddiant. Gall y person yma ddweud wrthych chi beth sydd ar gael yn eich ardal leol a beth allai fod yn addas i chi.

Beth sydd ar gael?

Gan ddibynnu ar lefel eich cymwysterau ar hyn o bryd, cewch ddewis o blith:

Erthyglau

  • Awgrymiadau a chyngor ar ddewis gyrfa
  • Mae gan rai prifysgolion brofion asesu ar gyfer cyrsiau poblogaidd.
  • Unwaith i chi droi'n 16 oed ac yn dechrau ennill arian, byddwch yn dechrau talu yswiriant...